Mae'r arbenigwr diogelwch bwyd o fri rhyngwladol, Dr Ellen Evans, yn dweud bod y coleg wedi tanio angerdd a ysgogodd ei gyrfa glodwiw
Archif
Awst


Cafodd Llywyddion Undeb Myfyrwyr newydd Grŵp Llandrillo Menai eu hethol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/24.

Gwnaeth dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai sgorio ansawdd y ddarpariaeth addysg uwch yn 83% yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2023, 13% yr uwch na'r cyfartaledd yn y sector yn y Deyrnas Unedig. Mae'r canlyniadau hyn yn rhoi Grŵp Llandrillo fel y darparydd ar y brig yng Ngogledd Cymru, ac ymhlith y tri uchaf yng Nghymru.

Mae Sion Jones wedi ennill prentisiaeth gyda Rehau ar ôl cwblhau ei ddiploma BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg Uwch yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.

Mae myfyrwyr celf Coleg Menai wedi darlunio llyfr sy'n archwilio'r cysylltiadau rhwng y fasnach gaethweision byd-eang a diwydiant gwlân Cymru yn y 18fed a'r 19eg ganrif.

Bydd cyn-fyfyrwraig Coleg Menai, Ceri Bostock, yn ymddangos am y tro cyntaf ar y sgrin fawr yn y ddrama roc 'Bolan's Shoes', a ddaw i'r sinemâu ym mis Medi.

Unwaith eto eleni mae dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai'n dathlu wedi iddynt dderbyn canlyniadau rhagorol yn eu harholiadau Safon Uwch a'u cyrsiau galwedigaethol.

Mae Brody White wedi cael ei recriwtio gan Read Construction fel rheolwr safle dan hyfforddiant ar ôl creu argraff tra ar brofiad gwaith wrth astudio yng Ngholeg Menai.

Dyfarnwyd yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc i Llŷr Evans, cyn-fyfyriwr o Goleg Menai, yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Mae myfyriwr o Goleg Menai, Cian Green, wedi llwyddo i ennill medal efydd ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau Prydain yn ystod y penwythnos, i'w gadw ar y trywydd cywir i gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad.

Mae Dylan Owens wedi esgyn i'r brig ac yn brif gogydd lletygarwch tîm Manchester City ac mae'n dweud na fyddai wedi cyflawni hynny heb Goleg Menai.

Mae safle Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli yn dathlu ei bod yn 30 mlynedd ers i'r dysgwyr cyntaf ddechrau astudio yno yn hydref 1993.