Aeth disgyblion o Ysgol Godre'r Berwyn i Bala Lake Hotel yn ddiweddar i gymryd rhan mewn digwyddiad arbennig.
Archif
Tachwedd


Cafodd grŵp o fyfyrwyr o ysgolion Botwnnog, Eifionydd a Glan y Môr sydd yn astudio Peirianneg gyda Choleg Meirion Dwyfor yn yr Hafan, Pwllheli, cyfle i fynd ar drip yr wythnos diwethaf i grombil fynydd Elidir Fawr i weld cynhyrchant drydan Gorsaf Pŵer Dinorwig.

Dathlwyd cyflawniad arbennig Alexander Marshall-Wilson, cyn-fyfyriwr o Goleg Llandrillo, dros y penwythnos pan ddyfarnwyd gwobr efydd fawreddog BTEC Dysgwr Chwaraeon y Flwyddyn iddo.

Dychwelodd cyn-fyryriwr Trin Gwallt Coleg Llandrillo i'w gyn-goleg yn ddiweddar, dim ond ychydig fisoedd yn unig wedi i'w greadigaethau ffasiynol ar gyfer amrywiol frandiau byd-eang gael eu gweld ar lwyfannau wythnosau ffasiwn Efrog Newydd, Paris a Llundain!

Yn ddiweddar, daeth Olaf Niechcial o Dremadog, i frig cystadleuaeth fathemategol a gynhaliwyd gan yr Ymddiriedolaeth Mathemateg y Deyrnas Unedig (UKMT)

Yn ddiweddar, daeth Tomos Owen o gwmni 'Smwddi Swig', ar ymweliad arbennig a safle CaMDA yn Nolgellau, er mwyn rhannu ei brofiadau gyda’r myfyrwyr

Yn dilyn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr eleni a safle cadarnhaol Grŵp Llandrillo Menai, mae myfyrwyr hefyd wedi rhannu eu barn a'u profiadau o astudio cyrsiau Gradd yng ngholegau'r Grŵp.

Trefnwyd amrywiaeth o weithgareddau ar bob un o 12 campws Grŵp Llandrillo Menai yn ddiweddar, wrth i fyfyrwyr a staff fynd ati'n brysur i godi arian dros ymgyrch Plant mewn Angen. Codwyd cannoedd o bunnoedd, ac mae rhagor o arian yn dal i ddod i mewn.

Yn ddiweddar aeth myfyrwyr cyfrifiadureg Coleg Meirion-Dwyfor ar ymweliad arbennig i ddau safle hanesyddol yn hanes cyfrifiadureg Prydain.

Mae myfyriwr ysbrydoledig o gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl a roddodd cymorth i drigolion hŷn yn ystod llifogydd y llynedd yn Llanelwy, wedi cael ei anrhydeddu mewn seremoni wobrwyo ddiweddar.

Yn ddiweddar aeth Osian Hughes o’r Groeslon sydd yn astudio cwrs Gofal Anifeiliaid Lefel 3 i Wlad Thai er mwyn cynorthwyo ar gynllun cadwraeth Eliffantod yn Chiang Mai.

Bydd myfyrwyr o adrannau Peirianneg ac Adeiladu Coleg Menai'n cymryd rhan mewn rowndiau terfynol Worldskills yn ystod y mis hwn.

Cafodd tri o fyfyrwyr Coleg Llandrillo sy'n astudio ar gwrs gradd yn y Cyfryngau gyfle oes yn ddiweddar pan ofynnwyd iddynt ffilmio ar gyfer S4C!

Mae Busnes@LlandrilloMenai ynghyd â Delyn Safety UK Ltd, ei bartner NEBOSH, yn falch o gyhoeddi bod Tesni James wedi ennill gwobr Ian Whittingham i'r Ymgeisydd Gorau trwy Brydain ar y cwrs Rheoli Iechyd a Diogelwch ym maes Adeiladu.

Cyflwynodd cynrychiolydd o Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiad Prifysgol Bangor sesiwn blasu seicoleg i fyfyrwyr Lefel A Seicoleg ar gampws Pwllheli Coleg Meirion Dwyfor yn ddiweddar.

Mae myfyriwr Celf a Dylunio o Goleg Llandrillo a ragorodd yng nghystadlaethau sirol yr Urdd, wedi taro'r aur yn rownd derfynol Cymru gyfan.

Teithiodd prentisiaid rhai o gyflogwyr mwyaf Ynys Môn i San Steffan ddoe (31/10/22) i arddangos nid yn unig yr amrywiaeth o gwmnïau sy'n gweithio ar yr ynys, ond hefyd y modd mae'r busnesau hynny'n defnyddio cynllun brentisiaethau i hyfforddi a datblygu gweithlu lleol.