Mae Ffion Pugh, sy'n astudio ar gyfer Diploma L3 UAL mewn Celf a Dylunio yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Dolgellau, wedi ei dewis allan o 500 o ymgeiswyr o golegau ledled y wlad i arddangos ei gwaith yn Origins Creatives yn Llundain. Roedd posteri “Lockdown” Ffion yn wirioneddol yn sefyll allan, ar unig waith dwyieithog yn yr arddangosfa.
Archif
Awst


Unwaith eto eleni mae dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai'n dathlu wedi iddynt dderbyn canlyniadau rhagorol yn eu harholiadau Lefel A a'u cyrsiau galwedigaethol.

Gyda phwyslais cynyddol ar leihau carbon, mae busnesau bach yng Ngwynedd a Môn yn derbyn cefnogaeth ar eu taith i ddyfodol sero net, diolch i’r Academi Ddigidol Werdd a lansiwyd yn ddiweddar.

Mae cyn-fyfyriwr o adran Lletygarwch ac Arlwyo Coleg Menai bellach yn gweithio fel uwch diwtor yn Ysgol Goginio Raymond Blanc a hefyd yn gogydd datblygu yn nhŷ bwyta'r cogydd byd enwog yn Rhydychen.

Mae tirwedd drawiadol Gogledd Cymru yn amgylchedd perffaith i gynnig addysg arbenigol a chyfleoedd unigryw i bobl ennill cyflog, byw a dysgu mewn tirlun hardd a naturiol.

Rhagfynegir y bydd y twf yn y diwydiannau morol a gwasanaethau morwrol yn tyfu i fod yn werth £25 biliwn y flwyddyn yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac mae Coleg Meirion-Dwyfor yn falch iawn o gyhoeddi datblygiadau newydd a chyffrous yn ei gyfleusterau o'r radd flaenaf yn safle Hafan ym Mhwllheli.

Mae gan Grŵp Llandrillo Menai 'drefniadau cadarn' ar waith ar gyfer sicrhau safonau academaidd, rheoli ansawdd academaidd a gwella profiad myfyrwyr' - yn ôl adolygiad gan yr Asiantaeth Rheoli Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA). Roedd yr adolygiad yn cymeradwyo'r grŵp colegol am lwyddo mewn sawl maes, yn cynnwys cymorth i fyfyrwyr a dysgu ar-lein ac o bell.

Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi dyfarnu'r Cytundeb ar gyfer cam nesaf y datblygu strategol ar eu Campws yn Rhyl i gwmni adeiladu o Ogledd Cymru sydd wedi hen ennill ei blwyf sef WYNNE Construction. Bydd y Prosiect mawr cyffredinol £12m yn cynnwys ystod eang o gyfleusterau hyfforddi sydd ar flaen y gad - gan integreiddio peirianneg fecanyddol, trydanol a meddalwedd TG.