Dathlodd myfyrwyr Prosiect SEARCH eu llwyddiannau gyda'u teuluoedd balch mewn seremoni a gynhaliwyd yng Ngholeg Llandrillo.
Archif
Gorffennaf


Bydd dwy ffilm a grëwyd gan fyfyrwyr Coleg Menai yn cael eu dangos ar y teledu – gyda Ceri Bostock yn dychwelyd i'w hen goleg i gyfarwyddo un ohonynt.

Mae enillydd gwobr Coleg Glynllifon, Lea Williams, wedi’i dewis ar gyfer Rhaglen Iau Academi Amaeth Cyswllt Ffermio.

Yn ôl Aron Griffiths, cyn-fyfyriwr o Goleg Menai, mae dychwelyd i weithio yn y coleg wedi cynnig cyfleoedd cwbl annisgwyl iddo yn y diwydiant cerddoriaeth a ffilm.

Yn dilyn cais llwyddiannus am brentisiaeth gradd, mae Rahim Arif, myfyriwr o Goleg Llandrillo, wedi cael swydd yn gweithio ym maes seiberddiogelwch i'r Gwasanaeth Iechyd.

Yn ddiweddar, bu dysgwyr yn dathlu ennill cymwysterau a allai newid eu bywydau yn seremonïau gwobrwyo Mynediad i Addysg Uwch Grŵp Llandrillo Menai.

Gweithiodd myfyrwyr cyrsiau datblygu gemau o Goleg Llandrillo gyda datblygwyr gemau proffesiynol er mwyn rhoi bywyd i'w syniadau mewn amgylchedd gwaith go iawn.

Mae myfyriwr o Goleg Menai, Cian Green, wedi llwyddo i ennill medal arian i Gymru ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau'r Gymanwlad yn India.

Mae Efa Glyn Jones, sydd â diddordeb brwd mewn ralïo, yn paratoi i wireddu ei breuddwydion yn dilyn derbyn cynnig gan Brifysgol Abertawe i ddilyn cwrs Chwaraeon Moduro.

Bydd 11 o fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai yn cystadlu yn rownd derfynol genedlaethol Worldskills UK ym mis Tachwedd!

Cafodd dysgwyr caredig gyfle i roi nôl i'w cymuned pan wnaethon nhw greu a gosod giât newydd ar gyfer dyn anabl yn Harlech.

Daeth chwedeg tiwtor o bum sefydliad ynghyd i ddathlu llwyddiant y prosiect Cydweithredol PLF ar ddysgu ac addysgu dwyieithog, mewn cynhadledd wedi ei harwain gan Grŵp Llandrillo Menai a Chanolfan Sgiliaith.

Yn ddiweddar, dathlwyd llwyddiannau rhagorol mwy na 300 o fyfyrwyr yn seremoni raddio flynyddol Grŵp Llandrillo Menai yn Llandudno.

Enillodd dau fyfyriwr o Goleg Menai wobr arbennig am ddylunio teclyn sy'n cynnig cyfle i syrffwyr weld bywyd morol o dan y dŵr.

Ddydd Llun, Gorffennaf 3ydd, cynhaliodd Grŵp Llandrillo Menai ei Ddiwrnod Cymunedol a Gwirfoddoli blynyddol, sy’n rhoi cyfle i staff gymryd rhan mewn digwyddiadau codi arian, ymarferion adeiladu tîm, a chyfleoedd gwirfoddoli.

Cafodd prentisiaid a staff yn Grŵp Llandrillo Menai deimlo sut brofiad ydy hi i fyw gyda dementia ac awtistiaeth fel rhan o brofiad arloesol o drochi mewn realiti.

Mae staff arbenigol o bob cwr o ogledd Cymru wedi cael eu canmol mewn adroddiad arolygu diweddar gan Estyn ar y ddarpariaeth dysgu seiliedig a gynigir gan brif ddarparwr prentisiaethau'r rhanbarth.