Ysgol Awel y Mynydd oedd yn fuddugol wrth i fwy na 190 o ferched o bob rhan o sir Conwy gystadlu ar y caeau 3G ar gampws Llandrillo-yn-Rhos
Archif
Hydref


Cafodd tractorau yng Ngholeg Glynllifon eu hôl-ffitio ag electroleiddiwr hydrogen er mwyn archwilio ffyrdd o ddod o hyd i danwydd gwyrddach ar gyfer y dyfodol

Ers astudio Technoleg Cerddoriaeth yng Ngholeg Menai, mae'r peiriannydd sain Callum Lloyd-Williams wedi teithio'r byd gyda cherddorion fel Zara Larsson a Clean Bandit.

Mae Canolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg Busnes@LlandrilloMenai (CIST) ar fin ehangu ei darpariaeth hyfforddi arloesol ym maes datgarboneiddio, ynni adnewyddadwy ac ôl-osod mewn canolfan ddatgarboneiddio newydd yn Nhŷ Gwyrddfai, Penygroes.

Yn ddiweddar, cafodd myfyrwyr peirianneg o bob rhan o Goleg Meirion-Dwyfor a Choleg Menai glywed gan gyflogwyr peirianneg mawr y rhanbarth mewn digwyddiadau 'Arddangos Lleoliadau Gwaith'.

Mae ffilm arswyd gyffrous wedi ei chyfarwyddo gan gyn-fyfyriwr o Goleg Menai, Russell Owen, wedi ennill clod beirniadol gan y New York Times a Mark Kermode

Dr Harri Pritchard, Dr Esyllt Llwyd a Myfyriwr Meddygol Blwyddyn 5, Ffraid Gwenllian yn rhannu cipolwg ar ddatblygiad Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor gyda dysgwyr Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Menai.

Mae AMRC Cymru yn treialu tractor cwbl awtonomaidd gwerth £380k ar fferm Coleg Glynllifon, gan roi profiad amhrisiadwy i ddysgwyr o ddulliau ffermio’r dyfodol.

Yn diweddar daeth Prentisiaid Peirianneg o Grŵp Llandrillo Menai ynghyd yn RAF y Fali ar gyfer Diwrnod i Ddathlu Cyflawniadau Prentisiaid.

Mae partneriaeth rhwng Coleg Menai a Chyngor Sir Ynys Môn yn parhau i fynd o nerth i nerth wrth i fyfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol gael cyfle i dreulio wythnos gyfan ar brofiad gwaith gyda staff Gofal Cymdeithasol cymwysedig yr Awdurdod Lleol.

Bwriad buddsoddiad o £4.8 miliwn mewn rhifedd oedolion yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych yw gwneud mathemateg yn symlach i bawb.

Mae ffotograffau Anthony J Harrison, a raddiodd yn ddiweddar o Goleg Llandrillo, yn dal sefyllfa emosiynol Kseniia Fedorovykh, y ffoadur o Wcráin, sy'n astudio yng Ngholeg Menai.

Cynllun arloesol i gefnogi busnesau bach, canolig a micro yng ngogledd Cymru i arbed carbon yw'r Academi Ddigidol Werdd a diolch i gyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU mae wedi cael ei ehangu i 180 o gwmnïau newydd.

Mae David Owen, myfyriwr yng Ngholeg Menai, wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei waith hyfforddi yng ngwobrau Gwirfoddolwyr Clwb 2023 Criced Cymru.

Yn ddiweddar, gwnaeth Daloni Owen, cyn-fyfyriwr Gradd Iechyd a Gofal Cymdeithasol o Goleg Meirion-Dwyfor agor meithrinfa i blant.

Mae Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor yn chwilio am fwy o fyfyrwyr i ddod yn Llysgenhadon Llesiant, a datblygu eu sgiliau fel arweinwyr y dyfodol

Gwnaeth dysgwyr a staff o Goleg Llandrillo a Choleg Menai gwblhau deuathlon a gynhaliwyd gan Golegau Cymru yn safle Traciau'r Gors yn y Rhyl

Yn ddiweddar, gwnaeth myfyrwyr o Goleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor sy'n aelodau o garfan tîm pêl-droed merched dan 17 oed Cymru helpu'r tîm i guro'r Eidal a Denmarc mewn twrnamaint ym Mhortiwgal.

Diolch i werth £3m o gyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig, mae hyfforddiant a ariennir yn llawn ar gael i fusnesau ac unigolion yng ngogledd Cymru.

Dysgodd myfyrwyr Coedwigaeth a Rheolaeth Cefn Gwlad am effaith coetir yn ystod taith i'r goedwig ger Betws y Coed

Mae adolygiad diweddar o addysg ddwyieithog yng Ngrŵp Llandrillo Menai'n dangos y cyfraniad sylweddol a wna'r coleg i wella a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ledled Cymru.

Yn ddiweddar, bu timau o 38 o ysgolion yn cystadlu yng nghystadleuaeth flynyddol ysgolion cynradd Urdd Conwy ar gaeau 3G campws Llandrillo-yn-Rhos, gyda myfyrwyr chwaraeon Coleg Llandrillo yn helpu i wneud y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol.

Mae myfyrwyr yn mwynhau amgylchedd dysgu mwy modern a hygyrch gyda gwaith uwchraddio wedi'i gwblhau yn dilyn buddsoddiad o £130,000 dros yr haf.

Yn ddiweddar, llwyddodd dwy fyfyrwraig o Goleg Meirion-Dwyfor, Heather Griffiths a Morgandie Harrold, i orffen yn ail yn ras flynyddol Clwb Hwylio De Sir Gaernarfon.