Pan ddychwelodd Krystian Koziński cyn-fyfyriwr yng Ngholeg Llandrillo yn ddiweddar, cyflwynwyd disg aur iddo i ddathlu ei fod wedi cyrraedd y brig ar siartiau iTunes.
Archif
Mehefin


Ar ôl gwneud argraff dda y tro cyntaf iddynt gymryd rhan yn yr Her Chwaraeon Moduro i Fyfyrwyr ar Drac Môn, mae dysgwyr o Goleg Menai am godi arian er mwyn gallu parhau i gystadlu yn y gyfres.

Mae injan jet wedi’i danfon i gampws Coleg Menai yn Llangefni, diolch i’r Weinyddiaeth Amddiffyn, RAF y Fali, Babcock International a Rolls Royce.

Mewn seremonïau'r wythnos diwethaf, dathlwyd llwyddiannau dros 80 o fyfyrwyr addysg bellach Grŵp Llandrillo Menai.

Yn ddiweddar, croesawodd Grŵp Llandrillo Menai Gomisiynydd newydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, i gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos.

Mae'r Grym yn gryf gyda myfyriwr o Goleg Menai a greodd ei sabr golau o faintioli llawn fel rhan o'i gwrs peirianneg electronig.

Yn ddiweddar, cafodd blant o ysgolion cynradd gyfle i fod yn gogyddion am y diwrnod yng Ngholeg Llandrillo - lle buont yn coginio Bolognese, yn cymysgu coctels di-alcohol ac yn gwylio arddangosiad flambé.

Y penwythnos hwn, bydd myfyrwyr o Goleg Menai'n cymryd rhan yn yr Her Chwaraeon Moduro i Fyfyrwyr ar Drac Môn.

Bydd gwerthwyr tai sydd wedi ennill sawl gwobr yn arddangos gwaith celf myfyrwyr mewn sawl un o'u canghennau, wedi iddynt greu argraff ar y beirniaid mewn cystadleuaeth ddarlunio flynyddol.

Bydd canolfan hyfforddi newydd ym maes prentisiaethau, busnes a chymwysterau proffesiynol yn agor cyn hir fel rhan o gynlluniau newydd a chyffrous Busnes@LlandrilloMenai, gwasanaeth gan Grŵp Llandrillo Menai sy'n darparu hyfforddiant proffesiynol, arbenigol a seiliedig ar waith i fusnesau.

Mae 'mainc gyfeillgarwch' a addurnwyd gan ddysgwyr Cymraeg i ddathlu ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â'r ardal wedi cael ei gosod mewn lleoliad canolog yng Nghricieth.

Mae myfyrwraig 18 oed sy'n dilyn cwrs Peirianneg Forol yng Ngholeg Meirion-Dwyfor ar fin cychwyn i Croatia i weithio i gwmni gwyliau Sunsail.

Rhan o asesiad terfynol y myfyrwyr peirianneg oedd dylunio a chreu stand ar gyfer ffôn symudol, a'r hyn a ysbrydolodd un ohonynt oedd ei ddiddordeb mewn rasio Fformiwla Un.

Trefnwyd cyfres o ffeiriau swyddi ar gampysau Grŵp Llandrillo Menai yn ddiweddar yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gwrdd â chyflogwyr posib. Bu rhai'n ddigon ffodus i gael eu gwahodd i gyfweliadau am swyddi.

Bydd myfyriwr a chyn-fyfyriwr o Goleg Menai yn cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau'r Gymanwlad yn India fis nesaf.

Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi ennill Gwobr Amgylcheddol Lefel 5 y Ddraig Werdd eleni eto, mewn cydnabyddiaeth o'i reolaeth amgylcheddol effeithiol.

Daeth Owen Vaughan, a gyrhaeddodd rownd derfynol y gyfres Masterchef, yn ôl i Goleg Meirion-Dwyfor yn ddiweddar i ysbrydoli myfyrwyr.

Dangosodd myfyrwyr o Grŵp Llandrillo Menai eu sgiliau a'u gallu i ddilyn gyrfa ym maes peirianneg yn ystod asesiadau terfynol eu cwrs ble gofynnwyd iddynt gwblhau gwasanaeth ar injan 126cc Briggs and Stratton pedwar strôc.

Cafodd dau o fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai gyfle i gyfrannu at y gwaith o drawsnewid adeilad Coleg Menai yn Nhŷ Menai tra oedden nhw ar leoliad profiad gwaith gyda Read Construction.