Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Newyddion

Darllenwch y straeon newyddion diweddaraf

Eva Voma, darlithydd yng Ngholeg Menai

Eva a Madeleine yn cael eu henwi'n aelodau o Sgwad y Deyrnas Unedig ar gyfer WorldSkills Lyon 2024

Bydd un o ddarlithwyr Coleg Menai, Eva, a Madeleine, sy'n brentis gyda chwmni RWE, yn cystadlu gydag ymgeiswyr eraill ar y rhestr fer i gynrychioli’r Deyrnas Unedig yn y ‘Gemau Olympaidd sgiliau’

Dewch i wybod mwy
Llong yr Island Reach yn Harbwr Conwy

Paratoi llong feddygol ar gyfer taith i Madagascar

Mae'r llong 'Island Reach' bron yn barod ddechrau ar ei thaith ar ôl i ddysgwyr Peirianneg Forol Coleg Llandrillo adnewyddu un o'i generaduron, a chyflawni gwaith atgyweirio arall ar yr un pryd

Dewch i wybod mwy
Lansiad Potensial

Lansio Brand Dysgu Oedolion Newydd Grŵp Llandrillo Menai

Mewn cyfres o ddigwyddiadau'r wythnos diwethaf cafodd ‘Potensial’, brand newydd Grŵp Llandrillo Menai ar gyfer dysgu oedolion a dysgu gydol oes, ei lansio.

Dewch i wybod mwy
Yr Is-gorporal Barry Sharp yn siarad â myfyrwyr yng ngheginau bwyty'r Orme View yng Ngholeg Llandrillo

Cogyddion y fyddin yn rhoi gallu pen-cogyddion dan hyfforddiant ar brawf

Ym mwyty Orme View Coleg Llandrillo, cafodd y dysgwyr Lletygarwch ac Arlwyo 90 munud i greu pryd tri chwrs o becynnau dogn y Fyddin

Dewch i wybod mwy
Y darlithydd Paul Goode yn cyflwyno gweithdy 'Cyllidebu am Oes' yng nghanolfan Dyfodol Disglair yn y Rhyl.

Trigolion y Rhyl yn rhoi hwb i'w sgiliau cyllidebu diolch i brosiect Lluosi

Cyflwynodd y darlithydd Paul Goode o brosiect Lluosi - Rhifedd Byw weithdy 'Cyllidebu am Oes' yng nghanolfan yr elusen gymunedol Dyfodol Disglair yn y Rhyl

Dewch i wybod mwy
Y Prifardd Rhys Iorwerth yn sgwrsio gyda myfyrwyr Safon Uwch o Goleg Meirion-Dwyfor yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.

Ymweliad â Thŷ Newydd yn ysbrydoli myfyrwyr

Mwynhaodd dysgwyr Safon Uwch sesiynau gyda rhai o awduron mwyaf blaenllaw Cymru gan gynnwys Mererid Hopwood a Rhys Iorwerth

Dewch i wybod mwy
Karl Jones, Technolegydd Bwyd gyda Chanolfan Technoleg Bwyd yn cyflwyno dosbarth meistr i ddysgwyr Lletygarwch ac Arlwyo

Dosbarth meistr i gogyddion dan hyfforddiant

Daeth Karl Jones, o Ganolfan Technoleg Bwyd Grŵp Llandrillo Menai, i fwyty Orme View Coleg Llandrillo i ddangos i fyfyrwyr cyrsiau arlwyo sut i gael y gorau o gig oen a chig eidion o Gymru

Dewch i wybod mwy
Cyn-fyfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor, Deio Siôn Llewelyn Owen, sydd wedi ei benodi'n un o Ymddiriedolwyr Ifanc Urdd Gobaith Cymru

Penodi Deio yn un o Ymddiriedolwyr Ifanc Urdd Gobaith Cymru

Bydd un o gyn-lywyddion Undeb Myfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor yn cynrychioli llais pobl ifanc ym mudiad ieuenctid mwyaf Cymru

Dewch i wybod mwy
Y darlithydd Bryn Jones o’r coleg yn siarad â’r cystadleuwyr yn y digwyddiad yn Llangefni i ddewis sgwad ar gyfer WorldSkills 2024

Coleg Menai yn cynnal digwyddiad i ddewis sgwad ar gyfer cystadleuaeth WorldSkills 2024 yn Lyon

Mae saith peiriannydd ifanc yn cystadlu i gynrychioli'r Deyrnas Unedig yn rownd derfynol y byd eleni – ac yn eu plith mae Eva Voma o’r coleg

Dewch i wybod mwy
David Bisseker gyda'i drwmped ar gampws Coleg Meirion Dwyfor ym Mhwllheli.

Dewis David yn aelod o Fand Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Mae’r trwmpedwr a’r pianydd dawnus yn astudio Lefel A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor ac fe’i dewiswyd o blith mwy na 300 ledled Cymru fu mewn clyweliadau

Dewch i wybod mwy

Pagination