Ar Ionawr 25 bob blwyddyn, mae pobl ym mhob cwr o Gymru yn dathlu Diwrnod Santes Dwynwen. Ymunodd staff a dysgwyr rhwydwaith Grŵp Llandrillo Menai yn y dathliadau eto eleni, a threfnwyd cyfres o ddigwyddiadau i ddathlu diwrnod Santes Cariadon Cymru.
Newyddion
Darllenwch y straeon newyddion diweddaraf
Mae Gwenno Rowlands o ardal Dinbych sydd yn astudio Peirianneg Diwydiannau’r Tir, Lefel 3 yng Ngholeg Glynllifon, wedi ennill prif wobr Lantra Cymru yn y categori, Dysgwr Ifanc Coleg, o dan 20 oed.
Mewn seremoni fawreddog yn Llandrindod, cafodd ei hanrhydeddu yng nghwmni rhai o brif enwau cenedlaethol yn y byd amaethyddol yng Nghymru.
Mae Cyngor Sir Ynys Môn a Grŵp Llandrillo Menai wedi cytuno ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth sy'n eu galluogi i sefydlu'r bartneriaeth gyntaf o'i bath yng Nghymru.
Mae bron i flwyddyn wedi mynd heibio ers i fywydau dinasyddion Wcrain gael eu difrodi a’u heffeithio ym mhob ffordd y gellir ei dychmygu. Ers hynny, mae llawer o'r bobl hynny wedi'u dadleoli mewn gwledydd tramor - un o'r gwledydd hynny yw Cymru. Mae’n dda gen i ddweud bod Iwcraniaid – yn ogystal â ffoaduriaid o genhedloedd eraill – wedi’u croesawu i gymunedau Cymreig gyda breichiau agored. Am y rheswm yma yr wyf wedi dod i ysgrifennu’r darn hwn – gan fyfyrio ar rôl colegau o fewn cymunedau i gefnogi ffoaduriaid.
Cyflwynwyd gwobrau Efydd ac Arian Dug Caeredin i grŵp o fyfyrwyr Coleg Llandrillo ag anghenion dysgu ychwanegol gan bennaeth y coleg yn ddiweddar, ar ôl iddynt gwblhau cyfres o dasgau heriol dros gyfnod o fisoedd.
Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi agor eu hadeilad carbon Net-Sero cyntaf - sef canolfan chwaraeon newydd sbon o'r radd flaenaf - a ariennir mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
Yn ddiweddar aeth myfyrwyr amaethyddiaeth Coleg Glynllifon ar ymweliad arbennig i Ganolfan Technoleg Bwyd Grŵp Llandrillo-Menai ar gampws Llangefni.
Derbyniodd cyn-fyfyriwr Coleg Llandrillo, Sam Wainwright, ei gap cyntaf dros ei wlad yn ddiweddar.
Yn ddiweddar, daeth Audrey Cui o MIT draw i rannu gwybodaeth, ac i gynnal sesiwn dysgu ac addysgu gyda myfyrwyr Lefel A Cyfrifiadureg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.
Cafodd bron i 150 o fyfyrwyr Gwaith Brics, Plymwaith, Trydanol, Gwaith Asiedydd a Phlastro Coleg Llandrillo - cymysgedd o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf hyd at fyfyrwyr gradd - gyfle yn ddiweddar i loywi eu sgiliau wrth fynychu cyfres o gyflwyniadau a roddwyd gan gynrychiolwyr o un o gynhyrchwyr offer mwyaf blaenllaw Ewrop ar gampws y coleg yn Llandrillo-yn-Rhos.