Mae cyn-fyfyriwr o'r cwrs Technoleg Cerddoriaeth yng Ngholeg Menai yn ei seithfed nef ar ôl i'w gyfansoddiadau cerddorol gael eu ffrydio fwy na 125 miliwn o weithiau ar Spotify!
Newyddion
Darllenwch y straeon newyddion diweddaraf
Mae Coleg Llandrillo yn y Rhyl yn paratoi i groesawu cannoedd o bobl leol i'w Ddigwyddiad Ymgysylltu â'r Gymuned ddydd Sadwrn 14 Mai.
Mae Grŵp Llandrillo Menai'n falch o gyhoeddi bod Undeb Myfyrwyr y Coleg wedi'i enwi fel 'y gorau yng Nghymru' am y pedwerydd tro yn olynol yn seremoni wobrwyo flynyddol Gwobrau Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr (UCM) Cymru yng Nghaerdydd!
Chwaraeodd myfyrwyr a staff o Academi Chwaraeon Grŵp Llandrillo Menai ran allweddol ym muddugoliaeth Tîm Pêl-droed Ysgolion Cymru yn ddiweddar yng nghystadleuaeth Centenary Shield, y tro cyntaf iddynt godi'r darian ers dros 40 o flynyddoedd!
Bu myfyrwyr Chwaraeon a Gweithgareddau Awyr Agored Coleg Meirion-Dwyfor yn rhan o her yn ddiweddar. Penderfynon nhw gerdded Llwybr Mary Jones, 28 milltir o Lanfihangel y Pennant i'r Bala gan godi arian i dîm Achub Mynydd De Eryri.
Mae cynlluniau gan Grŵp Llandrillo Menai i symud ei gampws ym Mangor i Barc Menai wedi cael eu cymeradwyo gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru. Bydd y prosiect i foderneiddio'r cyfleusterau dysgu a hyfforddi sydd ar gael yn lleol i bobl ifanc yn cael ei ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Grŵp Llandrillo Menai a bydd yn costio oddeutu £13 miliwn.
Yn ddiweddar daeth Ceris Wyn a Jemma Durant, ill dwy yn gweithio fel bydwragedd yn Ysbyty Gwynedd Bangor, draw i Goleg Meirion-Dwyfor safle Pwllheli, i rannu eu profiadau am weithio yn y maes gyda myfyrwyr Iechyd a Gofal y coleg.
Mae Grŵp Llandrillo Menai ymhlith y grwpiau colegol cyntaf yng Nghymru i ddarparu podiau ar bob un o'i gampysau i fyfyrwyr er mwy iddynt ymneilltuo unrhyw bryd y cânt eu llethu a phan fyddant yn teimlo bod arnynt angen lle tawel.
Yn ddiweddar daeth rhai o arbenigwyr y diwydiant digidol ynghyd i drafod gwerth y Gymraeg fel sgil yn y diwydiant digidol. Trefnwyd y gynhadledd gan Sgiliaith a Swyddogion y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yng Nghrŵp Llandrillo Menai ar y cyd gyda Hunaniaith (Menter Iaith Gwynedd).
Mae aelod o staff Coleg Menai wedi agor Llyfrgell Zines gyntaf Cymru, gan gynnal gweithdai ar y campws.