Mewn ymgais i gynnig cyfleusterau Llyfrgell+ gorau Cymru yn y coleg, mae Grŵp Llandrillo Menai wedi lansio gwasanaeth newydd ledled ei gampysau yn ddiweddar.
Newyddion Grŵp
Yn ddiweddar daeth rhanddeiliaid a oedd yn ymwneud â phrosiect gwerth £38m a ariannwyd gan yr UE i gefnogi pobl ifanc a oedd wedi ymddieithrio o addysg ac mewn perygl o ddod yn NEET (Ddim mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant), ynghyd ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn y Rhyl i ddathlu’r gwahaniaeth mae prosiect TRAC Grŵp Llandrillo Menai wedi gwneud i fywydau cannoedd o ddysgwyr ledled holl golegau'r Grŵp.
Yr wythnos diwethaf cynhaliwyd ein digwyddiad Dyfodol Digidol Gwyrdd yn Busnes@LlandrilloMenai, Parc Menai. Roedd yn wych croesawu cydweithwyr, partneriaid a busnesau lleol i ddathlu ein prosiect Academi Ddigidol Werdd.
Canmolwyd Grŵp Llandrillo Menai gan bron i 2,000 o ddysgwyr mewn arolwg diweddar pan ddywedodd 99% ohonynt fod ansawdd y coleg, yr addysgu a'r dysgu'n 'dda iawn'.
Yn ôl y prentis cogydd, Jack Quinney, roedd gadael cwrs gradd prifysgol mewn peirianneg sifil a mynd yn brentis cogydd yn ystod cyfnod clo pandemig Covid-19 yn ddewis doeth.
Dathlu busnesau lleol wrth iddynt anelu am sero net
Bydd gweithwyr yn RWE yn cwblhau cyrsiau gradd mewn Peirianneg trwy Grŵp Llandrillo Menai.
Yn dilyn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr eleni a safle cadarnhaol Grŵp Llandrillo Menai, mae myfyrwyr hefyd wedi rhannu eu barn a'u profiadau o astudio cyrsiau Gradd yng ngholegau'r Grŵp.
Trefnwyd amrywiaeth o weithgareddau ar bob un o 12 campws Grŵp Llandrillo Menai yn ddiweddar, wrth i fyfyrwyr a staff fynd ati'n brysur i godi arian dros ymgyrch Plant mewn Angen. Codwyd cannoedd o bunnoedd, ac mae rhagor o arian yn dal i ddod i mewn.
Mae Busnes@LlandrilloMenai ynghyd â Delyn Safety UK Ltd, ei bartner NEBOSH, yn falch o gyhoeddi bod Tesni James wedi ennill gwobr Ian Whittingham i'r Ymgeisydd Gorau trwy Brydain ar y cwrs Rheoli Iechyd a Diogelwch ym maes Adeiladu.