Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Rhagfyr

Bryn Williams gyda Paul Flanagan, Pennaeth Coleg Llandrillo, a Samantha McIlvogue, Pennaeth Cynorthwyol Coleg Llandrillo, ym Mhorth Eirias

Bryn Williams a Choleg Llandrillo yn lansio Rhaglen Llysgenhadon i fentora pobl ifanc dalentog ym maes lletygarwch

Bydd Rhaglen Llysgenhadon Bryn Williams@Coleg Llandrillo yn cynnig profiadau gwerthfawr i fyfyrwyr ac yn hwb i'r diwydiant lletygarwch lleol

Dewch i wybod mwy
Jack Williams, James Borley ac Alex Dunham yn Singapore

Jack yn ennill efydd yng nghystadleuaeth Gweinyddwr Ifanc y Byd

Roedd y cyn-fyfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor yn rhan o dîm Cymru a ddaeth yn drydydd yng nghystadleuaeth Cogydd Ifanc/Gweinydd/Cymysgegydd y Byd yn Singapore

Dewch i wybod mwy
Morgan Davies ac Osian Morris sy'n chwarae i Golegau Cymru gyda Marc Lloyd Williams, rheolwr y tîm a darlithydd yng Ngholeg Menai

Morgan ac Osian yn helpu Colegau Cymru i Guro Lloegr o 6 Gôl i 1

Roedd y ddau fyfyriwr o Grŵp Llandrillo Menai'n chwarae wrth i dîm Marc Lloyd Williams sicrhau eu buddugoliaeth orau erioed yn erbyn Cymdeithas Bêl-droed Colegau Lloegr

Dewch i wybod mwy
Tîm Coleg Meirion-Dwyfor Dolgellau gyda'u medalau a'u tlws ar ôl ennill twrnamaint pêl-droed Ability Counts gogledd Cymru

Coleg Meirion-Dwyfor yn ennill Twrnamaint Pêl-Droed 'Ability Counts' gogledd Cymru

Daeth dysgwyr o'r adrannau Sgiliau Byw'n Annibynnol a chyrsiau Cyn-alwedigaethol o bob rhan o Grŵp Llandrillo Menai ynghyd i gystadlu yn y gystadleuaeth ym Mae Colwyn. Bydd y tîm buddugol o Goleg Meirion-Dwyfor, a'r tîm o Goleg Glynllifon a ddaeth yn ail, yn mynd ymlaen i’r rowndiau terfynol cenedlaethol

Dewch i wybod mwy