Gwnaeth dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai sgorio ansawdd y ddarpariaeth addysg uwch yn 83% yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2023, 13% yr uwch na'r cyfartaledd yn y sector yn y Deyrnas Unedig. Mae'r canlyniadau hyn yn rhoi Grŵp Llandrillo fel y darparydd ar y brig yng Ngogledd Cymru, ac ymhlith y tri uchaf yng Nghymru.
Newyddion Grŵp
![Graddedigion](/imager/images/547384/594A0938-copy_8799e413fedd64081dd0e8e9f37c617d.jpeg)
![Leah Rowlands](/imager/images/546133/Leah-Rowlands_2023-08-17-134508_bfot_8799e413fedd64081dd0e8e9f37c617d.jpeg)
Unwaith eto eleni mae dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai'n dathlu wedi iddynt dderbyn canlyniadau rhagorol yn eu harholiadau Safon Uwch a'u cyrsiau galwedigaethol.
![Lluniau o'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol](/imager/images/537081/world-skills2collage_ed65244d6061ec3b1b89f2db6de604f9.jpeg)
Bydd 11 o fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai yn cystadlu yn rownd derfynol genedlaethol Worldskills UK ym mis Tachwedd!
![Mynychwyr](/imager/images/536299/0GLLM-Cynhadledd-PLF_2023-07-13-092328_eozc_8799e413fedd64081dd0e8e9f37c617d.jpeg)
Daeth chwedeg tiwtor o bum sefydliad ynghyd i ddathlu llwyddiant y prosiect Cydweithredol PLF ar ddysgu ac addysgu dwyieithog, mewn cynhadledd wedi ei harwain gan Grŵp Llandrillo Menai a Chanolfan Sgiliaith.
![Myfyrwyr yn dathlu graddio ar y promenâd yn Llandudno](/imager/images/535506/100723Studentscelebrate1_b36b0948677160142470a6481b28a25f.jpeg)
Yn ddiweddar, dathlwyd llwyddiannau rhagorol mwy na 300 o fyfyrwyr yn seremoni raddio flynyddol Grŵp Llandrillo Menai yn Llandudno.
![Dechrau Taith](/imager/images/534974/IMG_2925_8799e413fedd64081dd0e8e9f37c617d.jpeg)
Ddydd Llun, Gorffennaf 3ydd, cynhaliodd Grŵp Llandrillo Menai ei Ddiwrnod Cymunedol a Gwirfoddoli blynyddol, sy’n rhoi cyfle i staff gymryd rhan mewn digwyddiadau codi arian, ymarferion adeiladu tîm, a chyfleoedd gwirfoddoli.
![Megan Lowe ac Emma Jones ar y bws 'Profiad o Realiti Awtistiaeth'](/imager/images/534667/060723learnersonautismbus-1_d83e2e718aac96f6bf720dd68f955435.jpeg)
Cafodd prentisiaid a staff yn Grŵp Llandrillo Menai deimlo sut brofiad ydy hi i fyw gyda dementia ac awtistiaeth fel rhan o brofiad arloesol o drochi mewn realiti.
![Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones yn gwylio'r myfyrwyr ar waith ym mwyty'r Orme View yng Ngholeg Llandrillo](/imager/images/532737/270623WelshCommissionerrestaurant_8799e413fedd64081dd0e8e9f37c617d.jpeg)
Yn ddiweddar, croesawodd Grŵp Llandrillo Menai Gomisiynydd newydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, i gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos.
![Myfyrwyr yn cwrdd â chyflogwyr yn ffair swyddi CaMVA ar gampws Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli.](/imager/images/528038/190623camva2_8799e413fedd64081dd0e8e9f37c617d.jpeg)
Trefnwyd cyfres o ffeiriau swyddi ar gampysau Grŵp Llandrillo Menai yn ddiweddar yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gwrdd â chyflogwyr posib. Bu rhai'n ddigon ffodus i gael eu gwahodd i gyfweliadau am swyddi.
![Logo Y Ddraig Werdd](/imager/images/527273/Green-Dragon-logo_8799e413fedd64081dd0e8e9f37c617d.jpeg)
Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi ennill Gwobr Amgylcheddol Lefel 5 y Ddraig Werdd eleni eto, mewn cydnabyddiaeth o'i reolaeth amgylcheddol effeithiol.