Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentis AAT ar y Rhestr Fer am Wobr Genedlaethol

⁠Mae Busnes@LlandrilloMenai yn dathlu wrth i Lauren Harrap Tyson, un o'i prentisiaid AAT (Association of Accounting Technicians) gyrraedd y rhestr fer am wobr genedlaethol bwysig.

Cyflawniadau academaidd rhagorol Lauren a'i chyfraniadau i'r gymuned gyfrifyddu ehangach sydd wedi ennill lle iddi ar y rhestr fer am wobr Myfyriwr AAT y Flwyddyn. Nid yn unig y mae hi wedi rhagori ym mhob asesiad, gan gael marciau arbennig ynddynt i gyd ar ei hymgais gyntaf, ond enillodd hefyd fedal arian mewn Cyfrifeg yng nghystadleuaeth WorldSkills 2024.

Yn ogystal â llwyddo'n academaidd, mae Lauren yn lladmerydd i'r cwrs AAT, yn cefnogi ei chyd-fyfyrwyr, ac yn arwain sesiynau astudio. Mae ei gallu i ysbrydoli a rhoi hwb i'r rhai o’i chwmpas, ynghyd â’i hymrwymiad i ragoriaeth broffesiynol, yn ei gwneud hi’n ymgeisydd teilwng iawn ar gyfer y wobr nodedig hon.

Wrth ganmol Lauren, dywedodd Amanda Williams, Darlithydd yr AAT yn Busnes@LlandrilloMenai:

“Mae Lauren wedi bod yn ddysgwr AAT eithriadol, gan ei bod nid yn unig yn rhagori'n academaidd ond hefyd yn barod iawn i gefnogi ei chyd-fyfyrwyr. Mae hi wedi cynrychioli Busnes@LlandrilloMenai yng nghystadlaethau cyfrifeg Sgiliau Cymru a WorldSkills, gan ddangos ei dawn a’i hymroddiad. Rydyn ni'n hynod falch ei bod hi wedi cael ei henwebu a dymunwn bob llwyddiant iddi yn y gwobrau fis Mawrth.”

Dechreuodd Lauren astudio gyda'r AAT tra oedd yn gweithio ym maes lletygarwch, er mwyn newid gyrfa a chael dyfodol gwell. Llwyddodd i gael cyllid i dalu am ei hyfforddiant trwy Busnes@LlandrilloMenai. Sicrhaodd le ar gwrs AAT Lefel 2 lle daeth ei diddordeb mewn cyfrifeg i'r amlwg. ⁠Yn sgil ei hymroddiad a'i gallu, buan y cafodd ei chyflogi gan gwmni Bennett Brooks, lle mae hi wedi ffynnu yn yr adran dreth ac yn mwynhau cefnogi ei chydweithwyr.

Bellach yn ei nawfed flwyddyn, mae Gwobrau Darparwyr Hyfforddiant yr AAT yn dathlu llwyddiannau eithriadol y gymuned AAT, ac yn cydnabod ymroddiad dysgwyr, darparwyr hyfforddiant, a thiwtoriaid. Bydd enwau'r enillwyr yn cael eu cyhoeddi yng nghinio gala Cynhadledd a Gwobrau Darparwyr Hyfforddiant yr AAT ddydd Iau 13 Mawrth, lle bydd llwyddiannau eithriadol Lauren a chyflawnwyr eraill yn y maes yn cael eu dathlu.

Ydych chi'n barod i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa?

Mae cyllid ar gael ar gyfer hyfforddiant mewn ystod eang o ddiwydiannau, gan eich helpu i wella eich sgiliau, i newid gyrfa, neu i sicrhau dyrchafiad. Ewch i www.gllm.ac.uk i weld y dewisiadau sydd ar gael ac i ddod o hyd i gwrs addas i chi.

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date