Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Mawrth

Swyddfa newydd Busnes@LlandrilloMenai ym Marc Busnes Llanelwy

Cyfle Cyffrous Newydd i Fusnesau!

Y Pasg hwn, bydd Busnes@LlandrilloMenai yn lansio ei ganolfan hyfforddi newydd ym Mharc Busnes Llanelwy. Trwy gynnig cymysgedd dynamig o hyfforddiant masnachol a datblygu sefydliadol, mae'r lleoliad wedi'i gynllunio i helpu busnesau i Dyfu, Dysgu, a Llwyddo.

Peidiwch â cholli'r cyfle i hybu eich tîm ac i ysgogi llwyddiant – ymunwch â ni i ryddhau potensial llawn eich busnes heddiw!

Dewch i wybod mwy
Madeleine Warburton yn gwisgo cit hyfforddi ‘Squad UK’ WorldSkills UK

Evan, Madeleine ac Yuliia yn rhan o Garfan y Deyrnas Unedig ar gyfer WorldSkills 2026

Rŵan mae'r tri dysgwr o Grŵp Llandrillo Menai'n wynebu 18 mis o hyfforddi dwys wrth iddyn nhw ymdrechu i gael eu dewis i fod yn rhan o'r tîm fydd yn cystadlu ar brif lwyfan y byd yn Shanghai

Dewch i wybod mwy
Myfyrwyr Coleg Menai yn barod i fwynhau pryd bwyd ym marchnadoedd Cologne yn yr Almaen

Myfyrwyr yn dysgu am dwristiaeth, bwyd a diwylliant ar drip i Cologne

Ymwelodd dysgwyr y cwrs Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth â marchnadoedd ac atyniadau enwog eraill y ddinas gan gael ‘profiad anhygoel a oedd yn agoriad llygad’

Dewch i wybod mwy
Dysgwyr y rhaglen Interniaeth a Gefnogir yn Asda Llandudno yn gyda baner yn hyrwyddo Diwrnod Cenedlaethol Interniaethau a Gefnogir

Enwebu Tîm Interniaeth a Gefnogir Coleg Llandrillo ac Asda am wobr 'Dewis y Bobl'

Cynhelir cystadleuaeth Dewis y Bobl DFN Project SEARCH bob blwyddyn i nodi Diwrnod Cenedlaethol Interniaeth a Gefnogir (27 Mawrth)

Dewch i wybod mwy
Tu allan i Coleg Llandrillo

Golau Gwyrdd i Brosiect Arloesol gwerth £19m fydd yn Diogelu Sector Twristiaeth Gogledd Cymru at y Dyfodol

Mae Uchelgais Gogledd Cymru a Grŵp Llandrillo Menai wedi arwyddo cytundeb cyllid gwerth £4.43m a fydd yn datgloi buddsoddiad o £19m mewn hyfforddiant a chyfleusterau trosglwyddo gwybodaeth o safon fyd-eang ar draws pum lleoliad yng Ngogledd Cymru.

Dewch i wybod mwy
Myfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor gyda char Toyota Corolla hybrid yn ffatri Toyota yng Nghlannau Dyfrdwy

Ymweld â ffatri Toyota yn tanio awydd myfyrwyr peirianneg tanwydd i lwyddo

Aeth dysgwyr Peirianneg Lefel 3 o Goleg Meirion-Dwyfor i ffatri Toyota ar Lannau Dyfrdwy i weld drostynt eu hunain sut mae’r injan hybrid pumed cenhedlaeth yn cael ei hadeiladu

Dewch i wybod mwy
Aelodau o Glwstwr Agri-Tech Cymru yn gwylio arddangosiad o’r AgBot, tractor cwbl awtonomaidd, yng Nglynllifon

Glynllifon yn arddangos dyfeisiau newydd arloesol Agri-Tech

Partneriaid Clwstwr Agri-Tech Cymru yn ymweld â’r campws i ddysgu rhagor am ddatblygiadau technolegol a allai fod o fudd i’r sector amaethyddol

Dewch i wybod mwy
Yuliia Batrak o Goleg Llandrillo gyda'r pedair medal aur a enillodd yn yr International Salon Culinaire

Yuliia yn ennill pedair medal aur mewn cystadleuaeth goginio o fri

Ysgydwodd y fyfyrwraig o Goleg Llandrillo gystadleuaeth cymysgu diodydd yr International Salon Culinaire gyda choctels a ysbrydolwyd gan ei phlentyndod yn Wcráin a’r croeso a gafodd yng Nghymru

Dewch i wybod mwy
Y darlithydd Andrew Scott a myfyrwyr gyda thystysgrif yn cydnabod 25 mlynedd o wasanaeth Coleg Llandrillo gyda Academi Rhwydweithio Cisco

Coleg Llandrillo wedi ei gydnabod am 25 mlynedd o wasanaeth i Academi Rhwydweithio Cisco

Mae'r anrhydedd yn dynodi arweinyddiaeth Coleg Llandrillo ym maes addysg TG a rhwydweithio a'i hanes o gefnogi llwyddiant myfyrwyr

Dewch i wybod mwy
Osian Hughes gydag eliffant yng Ngwlad Thai

Osian yn dilyn ei freuddwyd o fod yn geidwad sw

Yn ystod ei gyfnod yn y coleg bu'r cyn-fyfyriwr o Goleg Glynllifon a Choleg Meirion-Dwyfor yn gweithio gydag eliffantod yng Ngwlad Thai ac mae bellach yn astudio BSc mewn Sŵoleg

Dewch i wybod mwy
Rhiant yn helpu plentyn gyda gwaith cartref

Cynllun Lluosi yn gadael ei ôl yn barhaol drwy rwydwaith o hybiau addysg

Mae tîm Lluosi Grŵp Llandrillo Menai wedi darparu offer i ganolfannau cymunedol ledled siroedd Conwy, Dinbych, Gwynedd ac Ynys Môn i sicrhau cefnogaeth barhaus i oedolion sy'n dychwelyd at ddysgu

Dewch i wybod mwy
Bea O'Loan ar safle adeiladu Jennings

'Y penderfyniad gorau rydw i wedi'i wneud' - ail-ysgrifennwch eich stori gyda chyrsiau wedi'u hariannu'n llawn

Mae cyrsiau Cyfrif Dysgu Personol yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, felly gallwch drawsnewid eich gyrfa heb boeni am y gost - ond gwnewch gais cyn mis Gorffennaf i osgoi cael eich siomi

Dewch i wybod mwy
Ffion Jones ac Anna Walker gyda'u gwobrau yn seremoni wobrwyo 'It's My Shout' 2025

Anna a Ffion yn derbyn cydnabyddiaeth yng ngwobrau 'It's My Shout'

Myfyrwyr Celfyddydau Perfformio Coleg Menai yn ennill gwobrau'r Actores Orau a'r Actores Gefnogol Orau am eu rhan mewn ffilmiau a ddarlledwyd ar y BBC ac S4C

Dewch i wybod mwy
Yuliia Batrak, myfyrwraig lletygarwch o Goleg Llandrillo

Yuliia yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth goginio fyd-eang yn Llundain

Bydd y fyfyrwraig o Goleg Llandrillo yn cystadlu yng nghystadleuaeth yr International Salon Culinaire wrth iddi geisio sicrhau ei lle yn nhîm y Deyrnas Unedig ar gyfer WorldSkills 2026 yn Shanghai

Dewch i wybod mwy
Tu allan i adeilad Tŷ Cyfle

Agor Canolfan Dysgu Cymunedol ar Stryd Fawr Bangor

Yr wythnos diwethaf (dydd Iau 13 Mawrth) agorodd Ken Skates AS, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ganolfan Dysgu Cymunedol newydd sbon ar Stryd Fawr Bangor.

Dewch i wybod mwy
Myfyrwyr â'u medalau yn seremoni wobrwyo Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl

Dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai'n ennill 34 o fedalau yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru

Enillodd dysgwyr a phrentisiaid Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor, Coleg Llandrillo a Busnes@LlandrilloMenai 10 medal aur, yn cynnwys tair gwobr Gorau yn y Rhanbarth

Dewch i wybod mwy
Aelodau Tîm Loop Racing  Jack Thomas, Jac Fisher, Osian Evans, Gethin Williams a Jac Roberts

Tîm Loop Racing yn cyrraedd rownd derfynol F1 in Schools y DU am yr ail flwyddyn yn olynol

Mae myfyrwyr peirianneg Coleg Meirion-Dwyfor wedi symud i fyny i'r dosbarth proffesiynol ar gyfer cystadleuaeth eleni

Dewch i wybod mwy
Myfyrwyr Coleg Llandrillo yn gweithio ar banel solar yn ystod cystadleuaeth ynni

Canlyniadau cystadleuaeth sgiliau ynni adnewyddadwy rhanbarthol gyntaf y Deyrnas Unedig ar gampws y Rhyl ar y ffordd!

Canolfan beirianneg newydd gwerth £13m Coleg Llandrillo oedd lleoliad digwyddiad cyntaf Cystadleuaeth Sgiliau Cymru mewn ynni adnewyddadwy, a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni arbennig yr wythnos hon

Dewch i wybod mwy
Elin Mai Jones, myfyriwr Coleg Meirion-Dwyfor, gyda'i thystysgrif am wobr rhifedd WLCOW

Elin yn ennill gwobr rhifedd genedlaethol

Mae’r fyfyrwraig o Goleg Meirion-Dwyfor wedi datblygu ei sgiliau mathemateg ar ôl goresgyn problem iechyd difrifol. Yn awr mae'n gobeithio hyfforddi i fod yn athrawes ysgol gynradd

Dewch i wybod mwy
Y Gweinidog yn agor y safle newydd

Campws Newydd Coleg Menai yn cael ei agor yn swyddogol gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch

Cafodd campws newydd Coleg Menai ym Mangor ei agor yn swyddogol yr wythnos diwethaf gan Vikki Howells AS, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch.

Dewch i wybod mwy
Myfyrwyr yn trwsio cwch modur

Grŵp Llandrillo Menai yn cynnal digwyddiadau agored ym mis Mawrth

Mae digwyddiadau agored yn gyfle perffaith i ddysgu rhagor am yr amrywiaeth eang o gyrsiau sydd ar gael yng Ngholeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Glynllifon

Dewch i wybod mwy
Viv Hoyland efo'i wobr

Seremoni wobrwyo i ddathlu ymrwymiad staff Grŵp Llandrillo Menai i’r Gymraeg

Cafodd enillwyr Gwobrau Cymraeg Grŵp Llandrillo Menai 2024/25 eu dathlu mewn seremoni wobrwyo yn ddiweddar.

Dewch i wybod mwy
Neil Cottrill, pennaeth hyfforddi a datblygu PGMOL (Professional Game Match Officials Limited)

Pennaeth hyfforddi dyfarnwyr yr Uwch Gynghrair i arwain y seminar nesaf yn y gyfres Perfformio i'r Eithaf

Ddydd Iau yng Ngholeg Llandrillo bydd Neil Cottrill, cyn-chwaraewr badminton proffesiynol sydd â 30 mlynedd o brofiad hyfforddi, yn siarad am yr heriau a wynebir gan swyddogion gemau elît

Dewch i wybod mwy
Myfyrwyr o Goleg Menai ger Sensoji Temple, Tokyo gyda baner yn dweud 'Croeso i Japan, Grŵp Llandrillo Menai'

Taith arbennig i Japan

Aeth myfyrwyr o adran Trin Gwallt, Coleg Menai, ar ymweliad â Tokyo a Nagoya i ddysgu am ddiwylliant Japan a diwydiant gwallt a harddwch y wlad

Dewch i wybod mwy
Staff y GIG yn dysgu sut i ddefnyddio taenlenni gyda'r tiwtor Lluosi, Stephen Jones

Lluosi yn helpu’r GIG i ddod o hyd i'r fformiwla gywir

Tîm Lluosi Grŵp Llandrillo Menai yn cynnal cwrs Excel i helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddysgu sut i ddefnyddio taenlenni'n effeithiol

Dewch i wybod mwy
Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date