Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Coleg Llandrillo'n Croesawu 350 o blant ar gyfer twrnameintiau pêl-droed yr Urdd

Cafodd twrnamaint merched a thwrnamaint cymysg Urdd Conwy eu cynnal ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, gyda myfyrwyr chwaraeon y coleg yn dyfarnu ac yn trefnu'r gemau

Cafodd dau dwrnamaint pêl-droed yr Urdd eu cynnal yng Ngholeg Llandrillo, a daeth dros 350 o blant ysgolion cynradd draw i fwynhau.

Daeth 21 o dimau o 18 ysgol ledled Sir Conwy i gystadlu yng nghystadleuaeth merched Blwyddyn 5 a 6 gae 3G campws Llandrillo-yn-Rhos.

Cynhaliwyd twrnamaint Blwyddyn 3 a 4 ar yr un diwrnod hefyd, oedd yn cynnwys 13 o dimau cymysg, merched a bechgyn, o 11 ysgol.

Ysgol Awel y Mynydd o Gyffordd Llandudno ddaeth i'r brig yn y ddau dwrnamaint, gydag Ysgol Bod Alaw Bae Colwyn yn ail bob tro.

Bydd timau buddugol Ysgol Awel y Mynydd, yn ogystal â thîm merched Ysgol Bod Alaw, yn mynd ymlaen i gynrychioli Conwy yn y rowndiau terfynol cenedlaethol yng Ngŵyl Ysgolion Cynradd yr Urdd yn Aberystwyth ar Fai 10 ac 11 y flwyddyn nesaf.

Roedd y twrnameintiau, a drefnwyd gan Urdd Gobaith Cymru, yn gyfle i bawb fwynhau pêl-droed tra'n datblygu eu sgiliau Cymraeg, beth bynnag lefel eu rhuglder.

Gweinyddwyd y gemau gan fyfyrwyr y coleg sy'n astudio cyrsiau Lefel 3 mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, a Lefel 2 mewn Chwaraeon, gyda'r Urdd wedi talu i'r dysgwyr ddilyn cwrs dyfarnu Cymdeithas Bêl-droed Cymru cyn y twrnamaint.

Roedd y dysgwyr hefyd yn ymwneud ag amseru a threfnu a thrwy hynny yn ennill oriau gwirfoddoli gwerthfawr tuag at eu gwobrau Arweinwyr Chwaraeon Uwch, Arweinwyr Chwaraeon Cymunedol a Bagloriaeth Cymru.

Dywedodd Bethan James, myfyriwr blwyddyn gyntaf Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Lefel 3: “Mae wedi bod yn llawer o hwyl dod i adnabod pawb a threfnu’r timau. Mae’n braf gweld pa mor frwd ydy’r plant am chwarae.

“Dw i wedi dyfarnu rygbi fel rhan o fy nghwrs hefyd, a dw i wedi cofrestru ar gyfer dyfarnu pêl-rwyd yn nes ymlaen eleni, felly dw i'n edrych ymlaen at hynny.”

Dywedodd Nia Rowlands, athrawes yn Ysgol Awel y Mynydd: “Rydyn ni'n mynychu hwn bob blwyddyn - mae'r twrnamaint bob amser wedi'i drefnu'n dda iawn, mae'n gynhwysol ac mae'n llawer o hwyl i'r plant.

“Mae'n wych gweld cymaint o ferched a bechgyn yn cymryd rhan, ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill y ddau dwrnamaint. Maen nhw’n edrych ymlaen at gystadlu yn Aberystwyth.”

Dywedodd Amy Thomson, Rheolwr y Maes Rhaglen Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngholeg Llandrillo: “Unwaith eto, bu'n bleser cynnal cystadleuaeth pêl-droed yr Urdd i ferched cynradd Conwy yma yng Ngholeg Llandrillo.

“Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o ferched y sir yn cymryd rhan mewn pêl-droed tra hefyd yn rhoi cyfle i’n dysgwyr Lefel 2 a Lefel 3 ddatblygu eu sgiliau arwain a’u Cymraeg fel rhan o’u Bagloriaeth Cymru, a'u gwobrau Arweinwyr Chwaraeon Uwch ac Arweinwyr Chwaraeon Cymunedol.

“Mi ddangosodd ein myfyrwyr chwaraeon berfformiad eithriadol yn y twrnamaint. Roedd eu dyfarnu, eu hamseru, a'u trefnu nid yn unig yn gwella eu hyder a'u sgiliau cyfathrebu ond hefyd yn gyfle i fod yn fodelau rôl cadarnhaol i gyfranogwyr iau.

“Mae’r cydweithio hwn gydag Urdd Gobaith Cymru yn cynnig amgylchedd delfrydol i hyrwyddo dwyieithrwydd o fewn yr adran Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus, sy’n parhau i fod yn un o’n blaenoriaethau allweddol.

"Rydym yn dymuno'r gorau i Ysgol Awel y Mynydd ac Ysgol Bod Alaw yn y rownd derfynol genedlaethol."

Dywedodd Guto Williams, Hwylusydd y Gymraeg yng Ngholeg Llandrillo: “Mae’n ddiwrnod gwych arall i’r myfyrwyr sy’n cael profiad gwirfoddoli gwerthfawr trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae’n wych gweld cymaint o ferched Blwyddyn 5 a 6 a'r plant iau yn mwynhau eu pêl-droed.

“Mae pêl-droed merched wedi datblygu cymaint yn ddiweddar, ac rydym yn falch o allu cynnig cyfle i ferched o ysgolion lleol chwarae yn y twrnamaint hwn. Mae hefyd yn wych i blant Blwyddyn 3 a 4 allu profi twrnamaint fel hyn ar ein caeau 3G, ac yn gyfle i'w rhieni a’u hathrawon eu gwylio mewn awyrgylch gwych.”

Dywedodd Marc Thomas, Swyddog Digwyddiadau Chwaraeon y Gogledd Ddwyrain Urdd Gobaith Cymru: “Fel sefydliad rydym yn ceisio sicrhau bod pawb yn cael cynnig cyfle i chwarae. Roedd clywed cymaint o blant yn defnyddio’r Gymraeg drwy’r dydd yn deimlad gwych.

“Diolch yn fawr iawn i'r holl blant yr ysgol, y staff, y rhieni, y swyddogion cymorth cyntaf a’r coleg am ddiwrnod llawn hwyl. Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda’r coleg eto yn y dyfodol agos a gweld y Gymraeg yn ffynnu yn yr ardal.

“Pob lwc i Ysgol Awel y Mynydd ac Ysgol Bod Alaw i lawr yn Aberystwyth, lle byddan nhw’n cystadlu yn erbyn yr enillwyr eraill o bob rhan o Gymru. Ymlaen a ni i'r gystadleuaeth nesaf!”

Y mis diwethaf mi gynhaliodd Coleg Llandrillo dwrnamaint pêl-droed i dimau cymysg Blynyddoedd 5 a 6 Urdd Conwy. Ysgol Craig y Don o Landudno oedd yn fuddugol.

Diddordeb mewn astudio Chwaraeon yng Ngrŵp Llandrillo Menai? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date