Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Ymgyrch Llyfrgelloedd y Coleg i Hyrwyddo Iechyd Meddwl Cadarnhaol

Manteisiodd cannoedd o fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai ar y cyfle i wella eu lles meddyliol yn ddiweddar, yn ystod Wythnos Iechyd a Lles y coleg yn ddiweddar.

Nod yr wythnos oedd mynd i'r afael â'r holl faterion iechyd a lles sy'n wynebu myfyrwyr yn ystod eu cyfnod yn y coleg. Mae'r coleg yn awyddus i wella a chynnal iechyd pob myfyriwr a phob aelod o staff, a chynnig amgylchedd iach lle nad oes neb yn teimlo o dan bwysau, yn enwedig o dan yr amgylchiadau presennol.

Fel rhan o'r fenter, lluniodd staff llyfrgelloedd y coleg nifer o arddangosfeydd ac aethant ati i hyrwyddo amrywiaeth eang o lyfrau hunangymorth a awgrymir gan yr Asiantaeth Ddarllen i hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol. Tynnodd yr arddangosfa sylw hefyd at y ffaith bod cymorth ar gael drwy hyrwyddo gwybodaeth am nifer o sefydliadau megis y Samariaid a MIND.

Rhoddwyd lle blaenllaw i lyfr gan aelod o staff y llyfrgell "Ward Nine Coronavirus - One Woman's Story" gan Gina Maddison. Daliodd Gina Coronafeirws ar ddechrau'r don gyntaf yn ystod gwanwyn 2022 a threuliodd wythnosau yn yr ysbyty. Pan oedd hi yn ei gwely, penderfynodd ysgrifennu llythyr garu at y GIG. Datblygodd ei nodiadau yn llyfr, ac mi gafodd y llyfr hwnnw ei enwebu am wobr "Llyfr y Flwyddyn"!

Mae'r arddangosfa'n tynnu sylw at y llyfr oherwydd bod ymchwil yn dangos bod darllen am brofiadau personol pobl eraill o gymorth i iechyd meddwl unigolion. Fe'i disgrifiwyd fel llyfr "cadarnhaol, disglair a therapiwtig".

Daeth Gwasanaeth Llyfrgell a Thechnoleg Dysgu y Grŵp yn gydradd ail yn seremoni flynyddol gwobrau Tîm Llyfrgell y Flwyddyn Cymru. CILIP Cymru (Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth) sy'n trefnu'r gwobrau a Llywodraeth Cymru sydd yn eu noddi.

www.gllm./ac.uk

The objective was to address a variety of health and well-being related issues which students face whilst at college. The college is keen to improve and maintain the health of all students and staff and to provide a healthy and stress-free environment, especially under the current circumstances.

As part of the initiative, college library staff put together several displays and promoted a wide range of self-help books recommended by the Reading Agency to encourage positive mental health. They also promoted the fact to students that there is always help out there by signposting a wide range of information on organisations such as the Samaritans and MIND.

Taking pride of place was library staff member Gina Maddison’s book, ‘Ward Nine Coronavirus – One Woman’s Story’. Gina contracted Coronavirus at the beginning of the first wave in spring 2020 and was hospitalised for weeks. Whilst bed-ridden, she decided to write a ‘love letter’ to the NHS. Her collection of notes was then turned into a book, which was later nominated for ‘Wales Book of the Year’.

Her book was highlighted, as reading about the personal experiences of others has been proven to be a massive help with mental health. It was described as “positive, illuminating and therapeutic”.

Grŵp Llandrillo Menai’s Library & Learning Technology Service was recently awarded joint second place at the annual ‘Welsh Library Team of the Year’ awards ceremony. The awards are made by CILIP Cymru (Chartered Institute of Library & Information Professionals) and are sponsored by the Welsh Government.

www.gllm./ac.uk

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date