Darlithwyr yn rhannu profiadau mewn cynhadledd beirianneg bwysig
Yn ddiweddar aeth staff o Grŵp Llandrillo Menai i ddigwyddiad cenedlaethol a drefnwyd ar y cyd gan gwmni technoleg Autodesk a WorldSkills UK i ddilyn nifer o ddosbarthiadau meistr technegol
Yn ddiweddar, rhannodd darlithwyr peirianneg Coleg Menai eu profiadau ym maes datblygu sgiliau technolegol blaengar mewn cynhadledd genedlaethol fawr.
Trefnwyd 'Preparing Tomorrow's Workforce in Engineering' gan y cwmni Autodesk mewn partneriaeth â'r elusen hyfforddi sgiliau WorldSkillsUK.
Derbyniodd ein darlithwyr Bryn Jones, Eva Voma a Geraint Rowlands wahoddiad i siarad yn y gynhadledd, a oedd yn anelu at hyrwyddo manteision cystadlaethau sgiliau ym maes technolegau newydd.
Ymunodd tîm o ddarlithwyr a rheolwyr o bob rhan o Grŵp Llandrillo Menai â nhw ym mhencadlys gweithgynhyrchu Autodesk yn y DU yn Birmingham.
Yn ystod y gynhadledd trefnwyd cyfres o ddosbarthiadau meistr technegol a gynlluniwyd i gyflwyno technegau, profiadau a rhwydweithiau i addysgwyr a mentoriaid diwydiant fel bod modd iddynt ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr a dylunwyr cynnyrch.
Gofynnwyd i Bryn, Geraint ac Eva gymryd rhan a rhannu eu profiadau fel mentoriaid a chystadleuwyr mewn cystadlaethau sgiliau.
Mae Bryn a Geraint yn hyfforddwyr Worldskills UK ar gyfer y categorïau gweithgynhyrchu haen wrth haen ac electroneg ddiwydiannol, ac enillodd Eva fedal efydd mewn cystadleuaeth Worldskills UK yn y categori gweithgynhyrchu haen wrth haen.
Yn ystod eu sesiynau siaradodd Bryn a Geraint am y manteision mae myfyrwyr, prentisiaid ac addysgu yn profi wrth gymryd rhan mewn cystadlaethau, a sut bydd hyn o fantais i weithlu'r dyfodol.
Disgrifiodd Eva ei thaith o fod yn fyfyriwr i fod yn ddarlithydd yng Ngholeg Menai gan dynnu sylw arbennig at y profiad arbennig o gystadlu a'r hyn ddysgodd hi wrth gymryd rhan.
Roedd ei chyd-ddarlithydd yng Ngholeg Menai, Osian Roberts, yno hefyd a rhannodd ei brofiadau ei hun gan nodi sut gwnaeth cystadlu ei helpu i ddatblygu. Enillodd Osian fedal aur WorldSkills UK yn y categori CNC Turning yn 2023, ac fel Eva, mae’n gyn-fyfyriwr sydd bellach yn ddarlithydd ar gampws Llangefni.
Roedd pennaeth cynorthwyol Coleg Llandrillo, Damian Woodford yno hefyd, a'r rheolwr maes rhaglen peirianneg Tim Peel, ynghyd â darlithwyr o gampysau Llangefni a'r Rhyl.
Cawsant daith o amgylch pencadlys gweithgynhyrchu Autodesk, a chyfle i fynychu dosbarthiadau meistr amrywiol a fydd yn eu cynorthwyo i barhau i gynnig darpariaeth beirianneg o'r radd flaenaf yng Ngrŵp Llandrillo Menai.
Meddai Bryn: “Roedd yn ddiwrnod cadarnhaol iawn ac mi gawsom lawer o adborth da. Y syniad oedd ysbrydoli addysgwyr o bob cwr o'r DU a’u hysgogi i gymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau, a dangos y manteision o gymryd rhan, o safbwynt y darlithwyr ac o safbwynt y cystadleuwyr.
"Mi wnaethon ni ddangos sut y gall cymryd rhan mewn cystadlaethau fod o fudd nid yn unig i ddatblygiad y myfyrwyr, ond hefyd i waith bob dydd addysgwyr, o ran gwella adnoddau ac ysbrydoli safonau uwch.
Dywedodd rheolwr addysg Autodesk, Iwan Roberts, a fu gynt yn ddarlithydd yng Ngholeg Menai: “Roedd yn wych gweld cymaint o addysgwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn dod at ei gilydd, yn awyddus i gyflwyno cystadlaethau WorldSkills i’w colegau a dod yn rhan o gymuned fywiog o ddysgwyr angerddol.
Diolch yn fawr iawn i’r siaradwyr o Grŵp Llandrillo Menai, Coleg Gŵyr a thri Phartner Dysgu Autodesk am eu gwaith a'u cyfraniadau arbennig. Roedd pob un yn ganolog i lwyddiant y digwyddiad.
Rydym yn ffodus iawn i gael unigolion mor ymroddedig yn y rolau hyn ar draws y DU, maen nhw'n ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf drwy gynnig cyfleoedd anhygoel i fyfyrwyr ac yn cynorthwyo addysgwyr i baratoi gweithlu peirianneg y dyfodol.
Mae Autodesk yn gwmni sy'n arwain y byd ym maes creu meddalwedd ar gyfer effeithiau ffilm arbennig, gweithgynhyrchu a dylunio, ac adeiladu.
Yn 2023, rhoddodd y cwmni argraffydd 3D enfawr i Goleg Menai, i gydnabod gwaith arloesol yr adran beirianneg wrth ddefnyddio pecyn Fusion360 Autodesk i ddysgu dylunio a gweithgynhyrchu gyda chymorth cyfrifiadur.
Hoffech chi ddysgu rhagor am y cyffro sydd ynghlwm wrth beirianneg yng Ngrŵp Llandrillo Menai? Cewch ragor o wybodaeth am ein cyrsiau yma.