Y Grŵp yn codi dros £600 yn ystod ei Wythnos Elusennau
Cododd digwyddiadau elusennol ar gampysau Grŵp Llandrillo Menai arian hanfodol i elusen Mind yng Nghonwy, elusen Mind yn Nyffryn Clwyd a Hosbis Dewi Sant
Cododd Grŵp Llandrillo Menai dros £600 i achosion da lleol yn ystod ei Wythnos Elusennau.
Cododd Ffair Nadolig flynyddol yr adran Sgiliau Bywyd a Gwaith ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos dros £400 i Hosbis Dewi Sant.
Cododd rafflau, stondinau cacennau a gweithgareddau eraill £210 i Mind Conwy a Mind Dyffryn Clwyd, Elusennau Partner y Grŵp yn 2024/25.
Elusen iechyd meddwl annibynnol sy’n gweithio ar draws siroedd Conwy, Ynys Môn a Gwynedd yw Mind Conwy tra bod Mind Dyffryn Clwyd yn cefnogi pobl yn Sir Ddinbych.
Yng Ngholeg Llandrillo, codwyd arian trwy gynnal raffl i ennill hamper Nadolig, cystadleuaeth Enwi'r Tedi, a the Nadolig yn y ganolfan brifysgol tra bod myfyrwyr yr adran arlwyo wedi pobi cacennau i'w gwerthu yn y Bistro.
Mewn digwyddiad Nadolig ar gampws y Rhyl cafwyd perfformiadau byw gan gantorion a hyd yn oed chwaraewr bagbibau. Roedd yno hefyd stondin lle gallech ‘ddylunio eich cerdyn Nadolig eich hun’, wal lluniau Nadolig a chinio Nadolig yn cael ei weini yn y ffreutur.
Cynhaliwyd rafflau a chystadleuaeth Enwi'r Tedi yng Nglynllifon ac ar gampysau Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau a Phwllheli, ac ar gampws Coleg Menai yn Llangefni cynhaliwyd stondin da da a raffl i ennill hamper Nadolig.
Meddai Aaron Beacher, Swyddog Cyfoethogi Profiadau Myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai: “Rydym yn falch eleni o fod yn cefnogi elusennau Mind Conwy a Mind Dyffryn Clwyd gan eu bod yn rhoi cefnogaeth amhrisiadwy i bobl sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl.
“Byddwn yn parhau i godi arian at yr elusennau trwy gydol y flwyddyn, ac yn cynnal ein hwythnos elusennol nesaf ym mis Ebrill Diolch yn fawr iawn i’r holl staff a myfyrwyr sydd wedi cefnogi’r achosion teilwng hyn.”
Cynhaliodd adrannau Sgiliau Bywyd a Gwaith Dolgellau, Glynllifon, Llangefni a Llandrillo-yn-Rhos eu marchnadoedd Nadolig blynyddol yn ystod yr Wythnos Elusennau.
Cododd marchnad Nadolig Llandrillo-yn-Rhos £410.40 i Hosbis Dewi Sant trwy werthu addurniadau Nadolig a hetiau a sgarffiau a wnaed gan y dysgwyr, yn ogystal â lluniaeth ysgafn. Dyluniodd y myfyrwyr Celf a Dylunio fatiau diod, cardiau Nadolig ac addurniadau i'w gwerthu yn y farchnad, ac ychwanegodd y tombola hefyd at yr arian a godwyd.