Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Newyddion

Darllenwch y straeon newyddion diweddaraf

Iolo Williams gyda Barbara Morgan, darlithydd yng Ngholeg Meirion-Dwyfor a'r cyn-fyfyrwyr Rob Whittey, Osian Lewis-Smith a Rabia Ali.

Ymweliad arbennig Iolo Williams â champws y coleg yn Nolgellau

Daeth Iolo Williams, cyflwynydd rhaglen Springwatch i Goleg Meirion-Dwyfor yn ddiweddar i gefnogi ymgyrch codi arian Dr Kath Whittey sydd ar ei ffordd i Antarctica gyda phrosiect Homeward Bound

Dewch i wybod mwy
Hollie McFarlane gyda'i llyfr, 'Sometimes, Mummy feels...'

Hollie, sy’n gyn-fyfyriwr, yn ysgrifennu llyfr i blant yn ystod triniaeth canser

Mae Hollie McFarlane, sy’n gyn-fyfyriwr yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Pwllheli, wedi ysgrifennu llyfr i blant. Gwnaeth hyn tra’i bod yn derbyn triniaeth ar gyfer canser y fron er mwyn helpu ei merch ifanc i ymdopi â'r hyn oedd yn digwydd.

Dewch i wybod mwy
Myfyrwyr yn croesi ‘tir peryglus’ gyda thîm ymgysylltu’r Fyddin yng Nghymru ar y caeau 3G ar gampws Coleg Llandrillo, Llandrillo-yn-Rhos

Ymweliad y fyddin yn helpu myfyrwyr i feithrin perthynas

Bu dysgwyr Coleg Llandrillo yn gweithio gyda'i gilydd i groesi 'tir peryglus' pan ddaeth tîm ymgysylltu’r Fyddin Yng Nghymru i ymweld â champws Llandrillo-yn-Rhos

Dewch i wybod mwy
Myfyrwyr Coleg Llandrillo yn y gawell yn nigwyddiad APFC 8

Myfyrwyr yn gweithio ar noson ymladd MMA a ffrydiwyd i filiynau o danysgrifwyr UFC

Dysgwyr Gradd Sylfaen yn y Cyfryngau Creadigol a Darlledu o Goleg Llandrillo yn gweithio ar APFC 8 a ddarlledwyd yn fyw ledled y byd gyda chyn-bencampwr ysgafn UFC, Anthony Pettis

Dewch i wybod mwy
Myfyrwyr yn defnyddio gliniadur ar gampws Coleg Menai yn Llangefni

Grŵp Llandrillo Menai yn lansio digwyddiadau agored mis Tachwedd

Mae Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor yn cynnig amrywiaeth enfawr o gyfleoedd – o gyrsiau galwedigaethol, prentisiaethau a chyrsiau Lefel A i raddau a chymwysterau proffesiynol

Dewch i wybod mwy
Lia Williams gyda chydweithwyr yng nghriw Jet2

Lia yn cael gweld y byd ar ôl dilyn cwrs Teithio a Thwristiaeth

Ar ôl astudio yng Ngholeg Menai cafodd Lia Williams swydd fel un o griw caban Jet2, a bellach mae hi ar fin ehangu ei gorwelion ar ôl cael swydd newydd gyda Virgin Atlantic

Dewch i wybod mwy
Eva Voma

Cyn-fyfyriwr yn dychwelyd i Goleg Menai fel darlithydd

Enillodd Eva Voma nifer o wobrau yn ystod ei chyfnod yng Ngholeg Menai, ac mae hi ar fin dychwelyd i'r coleg i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr

Dewch i wybod mwy
Cystadleuwyr

⁠Myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai yn Sicrhau eu Lle yn Rowndiau Terfynol cystadleuaeth WorldSkills UK

Bydd deuddeg o fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai yn cystadlu yn rowndiau terfynol cenedlaethol Worldskills UK ym mis Tachwedd!

Dewch i wybod mwy
Rhian James a Yuliia Batrak gyda'r darlithydd Glenydd Hughes o flaen trên British Pullman

Profiad gwaith pum seren i fyfyrwyr y coleg

Aeth Yuliia Batrak a Rhian James, dysgwyr o adran lletygarwch Coleg Llandrillo, i weini yng Ngwesty Cadogan yn Llundain, ac ar drên moethus British Pullman sy'n cludo teithwyr i leoliad Downtown Abbey

Dewch i wybod mwy
Myfyrwyr Coleg Llandrillo yng ngwersyll hyfforddi milwrol Capel Curig

Myfyrwyr yn cael blas ar yrfaoedd y Fyddin mewn gwersyll hyfforddi

Ymwelodd dysgwyr y cwrs BTEC Lefel 3 Gwasanaethau Diogelu Lifrog yng Ngholeg Llandrillo â gwersyll milwrol Capel Curig, lle rhoddodd milwyr y profiad o weithio yn y Fyddin iddynt

Dewch i wybod mwy

Pagination