Yn ddiweddar, cafodd blant o ysgolion cynradd gyfle i fod yn gogyddion am y diwrnod yng Ngholeg Llandrillo - lle buont yn coginio Bolognese, yn cymysgu coctels di-alcohol ac yn gwylio arddangosiad flambé.
Newyddion
Darllenwch y straeon newyddion diweddaraf
Y penwythnos hwn, bydd myfyrwyr o Goleg Menai'n cymryd rhan yn yr Her Chwaraeon Moduro i Fyfyrwyr ar Drac Môn.
Bydd gwerthwyr tai sydd wedi ennill sawl gwobr yn arddangos gwaith celf myfyrwyr mewn sawl un o'u canghennau, wedi iddynt greu argraff ar y beirniaid mewn cystadleuaeth ddarlunio flynyddol.
Bydd canolfan hyfforddi newydd ym maes prentisiaethau, busnes a chymwysterau proffesiynol yn agor cyn hir fel rhan o gynlluniau newydd a chyffrous Busnes@LlandrilloMenai, gwasanaeth gan Grŵp Llandrillo Menai sy'n darparu hyfforddiant proffesiynol, arbenigol a seiliedig ar waith i fusnesau.
Mae 'mainc gyfeillgarwch' a addurnwyd gan ddysgwyr Cymraeg i ddathlu ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â'r ardal wedi cael ei gosod mewn lleoliad canolog yng Nghricieth.
Mae myfyrwraig 18 oed sy'n dilyn cwrs Peirianneg Forol yng Ngholeg Meirion-Dwyfor ar fin cychwyn i Croatia i weithio i gwmni gwyliau Sunsail.
Rhan o asesiad terfynol y myfyrwyr peirianneg oedd dylunio a chreu stand ar gyfer ffôn symudol, a'r hyn a ysbrydolodd un ohonynt oedd ei ddiddordeb mewn rasio Fformiwla Un.
Trefnwyd cyfres o ffeiriau swyddi ar gampysau Grŵp Llandrillo Menai yn ddiweddar yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gwrdd â chyflogwyr posib. Bu rhai'n ddigon ffodus i gael eu gwahodd i gyfweliadau am swyddi.
Bydd myfyriwr a chyn-fyfyriwr o Goleg Menai yn cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau'r Gymanwlad yn India fis nesaf.
Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi ennill Gwobr Amgylcheddol Lefel 5 y Ddraig Werdd eleni eto, mewn cydnabyddiaeth o'i reolaeth amgylcheddol effeithiol.