Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Newyddion

Darllenwch y straeon newyddion diweddaraf

Y darlithydd Mike Evans o Goleg Llandrillo (tu blaen ar y dde) gyda'r cogyddion cyn Cinio Gala’r Cyn-fyfyrwyr ym Mwyty'r Orme View

Cogyddion o fri yn dychwelyd i'r coleg i Ginio Gala’r Cyn-fyfyrwyr

Roedd Bryn Williams ymhlith llu o gyn-fyfyrwyr yr adran arlwyo yng Ngholeg Llandrillo a helpodd i godi dros £1,100 at elusen

Dewch i wybod mwy
Enillwyr 2024

Coleg Glynllifon yn Dathlu ei Ben-blwydd yn 70 oed

Eleni, mae campws amaethyddiaeth a diwydiannau’r tir Grŵp Llandrillo Menai yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed.

Dewch i wybod mwy
Yr enillwyr

Coleg Meirion-Dwyfor yn Dathlu Llwyddiant ei Fyfyrwyr

Ddoe yn seremoni wobrwyo flynyddol Coleg Meirion-Dwyfor dathlwyd llwyddiannau 15 o ddysgwyr arbennig iawn.

Dewch i wybod mwy
Cynan ac Erin gyda'u tabledi ar ôl ennill cystadleuaeth codio ynghyd â’r pennaeth cynorthwyol, Fflur Jones, sy’n dal y tlws

Codwyr ifanc yn cystadlu i greu'r gêm orau

Cynhaliodd Coleg Meirion-Dwyfor gystadleuaeth i blant ysgol gynradd i brofi'r sgiliau y maent wedi'u dysgu gyda chymorth myfyrwyr TG y coleg

Dewch i wybod mwy
Heather Wynne, myfyrwraig o Goleg Llandrillo, gyda'i thystysgrif ar ôl dod yn fuddugol yn rownd ragbrofol ranbarthol trin gwallt WorldSkills

Heather yn ennill rownd rhanbarthol cystadleuaeth WorldSkills UK

Ychydig fisoedd ar ôl dechrau ei chwrs trin gwallt ffurfiol cyntaf mae’r fyfyrwraig o Goleg Llandrillo yn aros i gael gwybod a yw hi wedi ennill lle yn rownd derfynol y Deyrnas Unedig

Dewch i wybod mwy
Efa India Everitt-Mcall, myfyriwr o Goleg Menai wrth ymyl un o drenau Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru

Efa'n elwa wedi cyfnod profiad gwaith gyda Rheilffordd Ffestiniog

Arweiniodd cyfnod o brofiad gwaith at gynnig swydd i fyfyriwr cyrsiau Teithio a Thwristiaeth Coleg Menai

Dewch i wybod mwy
Rhodri Scott

Myfyrwyr yn codi dros £1,300 er cof am Rhodri

Trefnodd y myfyrwyr chwaraeon o Goleg Meirion-Dwyfor daith gerdded noddedig i godi arian i Ymchwil Canser Cymru er cof am eu darlithiwr, Rhodri Scott

Dewch i wybod mwy
James Hopkins yn chwarae ei gitâr

Gwaith ar gig Taylor Swift i’r myfyriwr cerdd James

Mae'r dysgwr o Goleg Menai yn rhan o'r criw llwyfan wrth i daith Eras, y daith fwyaf llwyddiannus erioed, ymweld â Stadiwm Anfield yn Lerpwl am dair noson

Dewch i wybod mwy
Gwaith celf y myfyrwyr yn cael ei arddangos yn arddangosfa Celf a Dylunio diwedd blwyddyn Coleg Meirion-Dwyfor

Yr Adrannau Celf Creadigol yn cynnal arddangosfeydd diwedd blwyddyn

Mae’r arddangosfeydd yn Nolgellau, Parc Menai a Llandrillo-yn-Rhos yn cynrychioli penllanw blwyddyn o ymroddiad a chreadigrwydd gan fyfyrwyr dawnus y colegau

Dewch i wybod mwy
Sara Brown yn arwain côr Coastal Voices a Chôr Cymunedol Bangor yn Eglwys Ddiwygiedig Unedig Llandrillo-yn-Rhos

Corau Sara yn codi £850 i WaterAid

Mae’r darlithydd o Goleg Llandrillo yn gyfarwyddwr cerddorol ar ddau gôr a ddaeth at ei gilydd yn ddiweddar i gynnal cyngerdd elusennol ac sydd wedi codi dros £10,000 yn y blynyddoedd diwethaf

Dewch i wybod mwy

Pagination