Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Newyddion

Darllenwch y straeon newyddion diweddaraf

Myfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cael rhagflas o'r Sector Gofal

Yn ddiweddar mae myfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Coleg Menai wedi ymgymryd gyda phrofiad gwaith mewn amrywiaeth o leoliadau Gofal Cymdeithasol.

Dewch i wybod mwy
Fifthwheel Rhuallt

Gwneuthurwr o Rhuallt yn Gwireddu Potensial diolch i Bartneriaeth gyda Grŵp Llandrillo Menai

Mae gwneuthurwr carafanau moethus The Fifth Wheel Company (Fifth Wheel Co.) wedi gallu codi capasiti, cynhyrchu mwy a gwneud mwy o elw yn ogystal â chreu diwylliant o gydweithio ac arloesi o ganlyniad i weithio mewn partneriaeth â Busnes@LlandrilloMenai, cangen busnes Grŵp Llandrillo Menai.

Dewch i wybod mwy

Cyfansoddiadau Cyn-fyfyriwr yn Cael eu Ffrydio 125 Miliwn Gwaith ar Spotify

Mae cyn-fyfyriwr o'r cwrs Technoleg Cerddoriaeth yng Ngholeg Menai yn ei seithfed nef ar ôl i'w gyfansoddiadau cerddorol gael eu ffrydio fwy na 125 miliwn o weithiau ar Spotify!

Dewch i wybod mwy

Coleg y Rhyl yn Paratoi ar gyfer Digwyddiad Cymunedol Enfawr

Mae Coleg Llandrillo yn y Rhyl yn paratoi i groesawu cannoedd o bobl leol i'w Ddigwyddiad Ymgysylltu â'r Gymuned ddydd Sadwrn 14 Mai.

Dewch i wybod mwy

Undeb Myfyrwyr y Coleg yn cael ei enwi y Gorau yng Nghymru am y bedwaredd flwyddyn yn olynol!

Mae Grŵp Llandrillo Menai'n falch o gyhoeddi bod Undeb Myfyrwyr y Coleg wedi'i enwi fel 'y gorau yng Nghymru' am y pedwerydd tro yn olynol yn seremoni wobrwyo flynyddol Gwobrau Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr (UCM) Cymru yng Nghaerdydd!

Dewch i wybod mwy

Llwyddiant myfyrwyr a staff o Grŵp Llandrillo Menai yng nghystadleuaeth Centenary Shield

Chwaraeodd myfyrwyr a staff o Academi Chwaraeon Grŵp Llandrillo Menai ran allweddol ym muddugoliaeth Tîm Pêl-droed Ysgolion Cymru yn ddiweddar yng nghystadleuaeth Centenary Shield, y tro cyntaf iddynt godi'r darian ers dros 40 o flynyddoedd!

Dewch i wybod mwy

Myfyrwyr Chwaraeon a Gweithgareddau Awyr Agored Dolgellau yn cerdded Llwybr Mary Jones.

Bu myfyrwyr Chwaraeon a Gweithgareddau Awyr Agored Coleg Meirion-Dwyfor yn rhan o her yn ddiweddar. Penderfynon nhw gerdded Llwybr Mary Jones, 28 milltir o Lanfihangel y Pennant i'r Bala gan godi arian i dîm Achub Mynydd De Eryri.

Dewch i wybod mwy

Buddsoddiad gwerth £13 miliwn gan Grŵp Llandrillo Menai ym Mangor

Mae cynlluniau gan Grŵp Llandrillo Menai i symud ei gampws ym Mangor i Barc Menai wedi cael eu cymeradwyo gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru. Bydd y prosiect i foderneiddio'r cyfleusterau dysgu a hyfforddi sydd ar gael yn lleol i bobl ifanc yn cael ei ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Grŵp Llandrillo Menai a bydd yn costio oddeutu £13 miliwn.

Dewch i wybod mwy

Bydwragedd yn rhannu eu profiadau gyda myfyrwyr Iechyd a Gofal Coleg Meirion-Dwyfor

Yn ddiweddar daeth Ceris Wyn a Jemma Durant, ill dwy yn gweithio fel bydwragedd yn Ysbyty Gwynedd Bangor, draw i Goleg Meirion-Dwyfor safle Pwllheli, i rannu eu profiadau am weithio yn y maes gyda myfyrwyr Iechyd a Gofal y coleg.

Dewch i wybod mwy

Grŵp Colegol yn Darparu Podiau i Fyfyrwyr sydd Angen Llefydd Tawel

Mae Grŵp Llandrillo Menai ymhlith y grwpiau colegol cyntaf yng Nghymru i ddarparu podiau ar bob un o'i gampysau i fyfyrwyr er mwy iddynt ymneilltuo unrhyw bryd y cânt eu llethu a phan fyddant yn teimlo bod arnynt angen lle tawel.

Dewch i wybod mwy

Pagination