Mae Alaw Mared Jones, sydd yn gyn-fyfyrwraig lefel A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Pwllheli, wedi cychwyn busnes ffitrwydd Coached by Alaw yn ystod y pandemig.
Newyddion
Darllenwch y straeon newyddion diweddaraf


Dathlwyd partneriaeth lwyddiannus rhwng Cymdeithas Goginio Cymru a Grŵp Llandrillo Menai dros y ddegawd ddiwethaf trwy lofnodi cytundeb newydd.

Mae cyn-fyfyrwraig Celf a Dylunio newydd gyhoeddi ei llyfr cyntaf.

Mae myfyriwr o Fae Colwyn wedi dechau ei gadetiaeth fel Swyddog Peirianneg gyda'r Llynges Fasnachol wedi cyfuno dyletswyddau profiad gwaith yn Harbwr Conwy gyda'i astudiaethau Peirianneg Forol yng Ngholeg Llandrillo.

Mae Coleg Glynllifon yn treialu dull newydd ac arloesol o gwtogi allyriadau carbon a faint o danwydd a ddefnyddir gan un o dractorau'r fferm, gyda chymorth Cyswllt Ffermio. Mae busnes newydd wedi'i leoli yn ne Swydd Efrog, Water Fuel Systems, wedi datblygu dull cost isel o gwtogi allyriadau disbyddu peiriannau fferm hyd at 80% ac yn honni bod swm y tanwydd a ddefnyddir yn lleihau 20%.

Mae myfyrwyr Cyfrifiadureg Lefel A Pwllheli a Dolgellau yn gweithio ar brosiect ar y cyd gyda Phrifysgol Aberystwyth yn creu a rhaglennu monitorau Co2 drwy ddefnyddio 'Byrddau Cylched Arduino' i roi mewn ystafelloedd dysgu ledled Cymru.

Mae aelod o staff o Goleg Llandrillo "wrth ei bodd" wedi trefnu'n llwyddiannus y cinio codi arian cyntaf er budd ei changen NSPCC lleol ers dechrau'r pandemig.

Yn ddiweddar, cafodd cyn brif stiward ar long bleser sydd hefyd yn ddiffoddwr tân rhan-amser, ei gwobrwyo am ei hymroddiad a'i waith caled ym maes tyrbinau gwynt pan enillodd wobr IMechE (Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol) i'r Prentis a oedd wedi Gwella Fwyaf (Gogledd Cymru a Glannau Merswy).

Mae myfyrwyr o adran Celf a Dylunio Coleg Llandrillo yn dathlu eu llwyddiant oddi cartref, ar ôl iddynt ennill categori yng Ngwobrau Dylunio DNA Paris 2021!

Mae myfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol campws y Rhyl Coleg Llandrillo wedi bod yn brysur yn trefnu raffl ac yn casglu amrywiaeth eang o roddion ar gyfer eu digwyddiad codi arian Nadolig blynyddol er budd dwy elusen.