Mae digwyddiad rhithwir wedi cael ei gynnal heddiw (28 Gorffennaf) i ddod â phrosiect ADTRAC i ben ac i ddathlu'r hyn a gyflawnwyd ganddo.
Dan arweiniad Grŵp Llandrillo Menai, mae ADTRAC wedi darparu cefnogaeth bersonol i bobl ifanc 16-24 oed yng Ngogledd Cymru gyda materion cyflogadwyedd a lles i'w helpu i symud ymlaen i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.