Y torrwr recordiau byd, Sean Conway, yn agor y gyfres seminarau ‘Perfformio i'r Eithaf’
Yn y gyntaf mewn cyfres o sgyrsiau ysgogol, bydd Sean yn sôn am sut y cyflawnodd y gamp lawn mewn chwaraeon dygnwch
Sean Conway, athletwr sydd wedi torri recordiau byd mewn chwaraeon dygnwch, fydd yn agor y gyfres seminarau newydd 'Perfformio i'r Eithaf' yng Ngholeg Llandrillo.
Mae'r tocynnau bellach ar werth ar gyfer sesiwn Sean ar 'Y Gamp Lawn mewn Chwaraeon Dygnwch' – y gyntaf mewn cyfres o sgyrsiau ysgogol gan siaradwyr gwadd sydd wedi gwneud ei farc mewn chwaraeon elît.
Yn ystod ei ymweliad â champws Llandrillo-yn-Rhos ar 27 Ionawr bydd Sean yn esbonio sut y datblygodd o fod yn ffotograffydd anfodlon oedd yn tynnu lluniau disgyblion ysgol i fod yn un o driathletwyr mwyaf llwyddiannus y byd.
I archebu eich lle ar gyfer Sean Conway - 'The Grand Slam of Endurance', cliciwch yma neu ewch i www.gllm.ac.uk/cy/peak-performance
Ac yntau wedi cyrraedd ei dridegau roedd yn awyddus i drawsnewid ei fywyd a gwneud rhywbeth nad oedd neb arall wedi'i gyflawni sef camp lawn o recordiau byd mewn chwaraeon dygnwch eithafol am y cyntaf, yr hiraf, y cyflymaf a'r mwyaf.
Llun: Justin Fletcher Photography
“Ro'n i'n ddigalon, do'n i ddim yn gwneud yr hyn ro'n i wedi breuddwydio y byddwn i'n ei wneud,” meddai Sean. “Ro'n i'n gallu gweld y llwybr roeddwn i arno o fy mlaen i'n glir, a doedd yna ddim byd da amdano. Rois i'r gorau i'm gwaith a phenderfynu 'mod i am fynd i deithio'r byd, ond yr unig ffordd y gallwn i gyfiawnhau gwneud hynny oedd drwy geisio torri rhyw fath o record.”
Yn sicr, fe lwyddodd Sean i gyflawni hynny, a llawer mwy. Ef oedd y cyntaf i nofio ar hyd Prydain, gan gwblhau'r 900 milltir flinedig mewn 135 diwrnod a thyfu ei farf adnabyddus i ddiogelu ei hun rhag sglefrod môr.
Dilynodd hyn gyda thriathlon di-dor hiraf y byd – 4,200 milltir o amgylch arfordir Prydain.
Camp anhygoel nesaf Sean oedd bod y cyflymaf i feicio heb gefnogaeth ledled Ewrop, gan feicio'r llwybr 3,890 milltir o Bortiwgal i Rwsia mewn 24 diwrnod, 18 awr a 39 munud.
Ac i goroni ei orchestion, gosododd record y byd am gymryd rhan yn y nifer fwyaf o driathlonau Ironman, gan nofio 2.4 milltir, beicio 112 milltir a rhedeg marathon bob un diwrnod am 105 o ddiwrnodau – sef cyfanswm o 14,763 milltir.
Ar ben hyn, mae Sean hefyd wedi rhedeg ar hyd Prydain, wedi rhedeg ar draws Gwlad yr Iâ, caiacio Afon Tafwys a hyd yn oed dringo i ben Kilimanjaro wedi'i wisgo fel pengwin.
Mae wedi ysgrifennu sawl llyfr am ei anturiaethau, ac mae hefyd yn siaradwr ysgogol ac yn llysgennad dros chwaraeon ieuenctid. Mae Sean wedi rhoi sgwrs TED ar ei gampau, ac mae tocynnau ar gyfer llawer o sgyrsiau'r daith y bydd yn cychwyn arni fis Chwefror o gwmpas y Deyrnas Unedig i gyd wedi'u gwerthu'n barod.
Felly bydd ei sgwrs yng Ngholeg Llandrillo yn gyfle i ennill y blaen ar bawb i glywed am ei daith anhygoel a sut yr aeth ati i wireddu ei freuddwydion.
“Yn fy sgyrsiau mae gen i dri phrif nod – diddanu, addysgu ac ysbrydoli pobol,” meddai Sean, sy’n byw ger yr Wyddgrug.
“Er mwyn diddanu pobl rydw i'n cadw pethau'n eitha ysgafn, ac yn rhoi cyfle i bobl chwerthin. Rydw i eisiau addysgu pobl fel eu bod yn teimlo eu bod wedi cael gwerth ymarferol o wrando arna i. Rydw i eisiau eu hysbrydoli nhw i fynd ati i gyflawni eu heriau eu hunain.
“Rydw i'n ceisio annog pobl i ddilyn rhai egwyddorion allweddol. Anelwch yn uchel – mae yna gymaint o negyddiaeth o gwmpas, yn enwedig ar y rhyngrwyd, ond mae 'na gymaint o bositifrwydd hefyd.
“Rydw i'n meddwl ei bod yn bwysig bod pawb yn dod o hyd i rywbeth sy’n eu herio. Os ydych chi ddim ond yn gwneud pethau sy'n hawdd i chi a hynny am arian yn unig, dydi hynny mewn gwirionedd ddim yn eich herio chi a chyn hir mi fyddwch chi'n cael llond bol.
“Rydw i eisiau annog pobl i gymryd risgiau weithiau – mae'n rhy hawdd rhoi'r ffidil yn y to. Gall cyfryngau cymdeithasol roi'r argraff bod rhai pobl yn cyrraedd eu nod yn gyflym, ond i 98% ohonom mae'n cymryd degawd a mwy.
“Mae'n bwysig gwybod hynny. Ymfalchïwch yn y llwyddiannau sydd wedi cymryd amser, oherwydd fel arfer maen nhw'n golygu mwy na'r pethau sydd wedi dod i chi yn hawdd.”
Bydd sgwrs Sean Conway ar 'Y Gamp Lawn mewn Chwaraeon Dygnwch' yn cael ei chynnal yn y Ganolfan Brifysgol ar gampws Llandrillo-yn-Rhos ddydd Llun 27 Ionawr am 6pm.
Dyma'r gyntaf yn y gyfres seminarau Cyrraedd y Copa y bydd yr adran chwaraeon yn eu cynnal yn ystod 2025.
I archebu eich lle ar gyfer Sean Conway - 'The Grand Slam of Endurance', cliciwch yma neu ewch i www.gllm.ac.uk/cy/peak-performance
I ddysgu rhagor am Sean Conway, 'The Endurance Guy', ewch i'w wefan seanconway.com.