Myfyrwyr yn cynnal sesiynau pampro i godi arian at Mind
Myfyrwyr Trin Gwallt a Therapi Harddwch o gampws Dolgellau Coleg Meirion-Dwyfor yn cynnig triniaethau harddwch yn Iechyd Da 2024
Cododd myfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor arian at elusen iechyd meddwl Mind drwy gynnig sesiynau pampro yn Iechyd Da 2024 yn Nolgellau.
Roedd y dysgwyr o'r adran gwallt a harddwch yn rhoi triniaethau dwylo, yn plethu gwallt ac yn rhoi triniaethau tylino'r pen i godi arian ar gyfer elusen bartner y flwyddyn i Grŵp Llandrillo Menai.
Mae Iechyd Da yn ddigwyddiad iechyd a lles blynyddol rhad ac am ddim yng Nghanolfan Hamdden Glan Wnion yn Nolgellau. Mae’n cael ei drefnu gan Fantell Gwynedd, sy’n cefnogi grwpiau gwirfoddol a chymunedol yn y sir.
Roedd digwyddiad eleni yn cynnwys stondinau a gweithgareddau ar sgrinio iechyd, ymwybyddiaeth ofalgar, gwirfoddoli, cyfleoedd gwaith a mwy.
Diolch i fyfyrwyr o gampws Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau, cafodd yr ymwelwyr hefyd gyfle i ymlacio gyda thriniaethau harddwch amrywiol, gan godi £29 i Mind.
Dywedodd Jill Renshaw, darlithydd Therapi Harddwch yn y coleg: “Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Mantell Gwynedd ers 2011 ac rydym yn cymryd rhan yn Nigwyddiad Iechyd Da bob mis Hydref.
“Yn y coleg rydym yn cynnig ystod lawn o driniaethau gwallt a harddwch. Yn y digwyddiad rydyn ni'n ceisio trin cymaint o'r cyhoedd ag y gallwn, felly rydyn ni'n rhoi triniaethau dwylo byr sy'n cynnwys ffeilio ewinedd, tylino dwylo a braich am 10 munud, a chael enamelu eu hewinedd. Roedd myfyrwyr trin gwallt hefyd yn cynnig tylino'r pen a phlethu gwallt.
“Rydym yn mynd â dysgwyr therapi harddwch a dysgwyr trin gwallt i’r Digwyddiad Iechyd Da, gan ei fod yn gyfle gwych iddynt ddatblygu eu sgiliau, gweithio ar eu hamseru a’u technegau, gweithio gyda chleientiaid ac ymarfer eu sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid.
“Maen nhw bob amser yn mwynhau cymryd rhan yn y Digwyddiad Iechyd Da a chodi arian at elusen y coleg.
“Mae ein myfyrwyr sydd ar flwyddyn gyntaf eu cwrs Therapi Harddwch wedi bod yn gweithio’n galed ers dechrau’r tymor yn dysgu sut i drin dwylo, yn arwain at y digwyddiad hwn. Rydw i mor falch ohonyn nhw, yn sgwrsio’n hapus ac yn broffesiynol gyda chleientiaid.”
Roedd y myfyrwyr yn cynnig y triniaethau am rodd awgrymedig o £3. Roeddent hefyd yn gwerthu tocynnau raffl, gyda’r elw yn mynd i Mind.
Mwynhaodd myfyrwyr cwrs Lefel 1 Therapi Harddwch y profiad, gyda Ffion Roberts yn dweud: “Diolch i Mantell Gwynedd am adael i ni gymryd rhan yn Nigwyddiad Iechyd Da 2024. Fe wnes i fwynhau fy hun yn fawr, a mwynhau cwrdd â phobl newydd.”
Dywedodd Rebecca Jones: “Mae wedi gwella fy hyder yn aruthrol, achos dydw i erioed wedi gwneud y driniaeth ar gleient o’r blaen. Wrth i’r diwrnod fynd yn ei flaen, fe wellodd fy sgiliau enamelu a fy sgiliau tylino. Mi wnes i fwynhau cwrdd â phobl newydd ac mi fyddwn i'n mwynhau gwneud hyn eto’r flwyddyn nesaf.”
Dywedodd Kimberley Ann Cheetham-Turbill: “Dyma’r tro cyntaf i mi drin dwylo cleient sy’n talu. Ro'n i braidd yn nerfus i ddechrau, ond gyda’r holl gefnogaeth rydym wedi’i chael gan Jill ein tiwtor, roedd yn llawer haws nag yr o'n i’n meddwl.”
Dywedodd Haf Mai Thomas: “Mae hyn wedi rhoi hwb i fy hyder a hoffwn ei wneud eto'r flwyddyn nesaf.”
Dywedodd Kay Smalley-Reese, darlithydd Trin Gwallt a Harddwch: “Mae cael y cyfle i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn mor bwysig i’n myfyrwyr. Mae’n gyfle gwych i gwrdd â darpar gleientiaid ac i gwrdd â phobl wyneb yn wyneb.”
Elusennau partner Grŵp Llandrillo Menai ar gyfer 2024/25 yw Mind Conwy, sy’n cynnig cymorth i bobl â phroblemau iechyd meddwl yn Ynys Môn, Conwy a Gwynedd, a Mind Dyffryn Clwyd, sy’n helpu pobl yn Sir Ddinbych.
Wyt ti eisiau gyrfa ym maes Trin Gwallt a Therapi Harddwch? Clicia yma i gael rhagor o wybodaeth am hyfforddi yn salonau gwych Grŵp Llandrillo Menai