Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dylunydd y gêm 'The Last of Us' yn ysbrydoli myfyrwyr Coleg Llandrillo

Ymwelodd Peter Field â champws y Coleg yn Llandrillo-yn-Rhos i siarad â'r dysgwyr Datblygu Gemau

Yn ddiweddar, ymwelodd y dylunydd gemau Peter Field â Choleg Llandrillo i roi cipolwg i'r myfyrwyr ar y diwydiant.

Gweithio Peter gyda'r datblygwyr gemau Naughty Dog ar The Last of Us, gêm arswyd uchel ei chlod a addaswyd yn sioe deledu lwyddiannus gan HBO.

Mae hefyd wedi gweithio ar sawl gêm arall gan gynnwys Dreams, Uncharted 3, Enslaved a DmC. Gallwch ddysgu mwy am waith Peter ar ei wefan yma.

Ymwelodd Peter â champws y Coleg yn Llandrillo-yn-Rhos i siarad â'r dysgwyr Datblygu Gemau ynglŷn â llwybrau i mewn i'r diwydiant, ac i arddangos arfer da mewn dylunio gemau.

Rhoddodd hefyd adborth gwerthfawr i ddysgwyr ar eu gwaith, ac arwyddodd lyfr o waith celf o'r The Last of Us.

Dywedodd y myfyrwyr fod ei ymweliad wedi eu hysbrydoli wrth iddynt anelu at yrfaoedd yn y diwydiant.

Dywedodd Kyle Glynn, sy’n dilyn cwrs gradd BSc (Anrh) mewn Animeiddio 3D a Datblygu Gemau: “Helpodd Peter fi i gael gwell dealltwriaeth o sut i ddylunio lefelau, ac ysgogodd fi i ddod yn ddylunydd lefel. Rhoddodd adborth gwych i mi ar fy mhrosiect grŵp.”

Meddai Rob Griffiths, darlithydd Cyfrifiadura a Diwydiannau Creadigol ac Arweinydd Rhaglen Datblygu Gemau Blwyddyn 2: “Mae’n wych cael Peter i ddod i siarad â’n myfyrwyr. Mae ei frwdfrydedd a’i wybodaeth yn anhygoel, ac yn naturiol yn effeithio ar gymhelliant myfyrwyr.”

Ydych chi eisiau gweithio yn y diwydiant gemau? ⁠I gael gwybod rhagor am gyrsiau Grŵp Llandrillo Menai ym maes Cyfrifiadura, Technolegau Digidol a Datblygu Gemau cliciwch yma

Pagination