Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dy bennod nesaf...

Gall dilyn cwrs gradd newid eich bywyd gan roi i chi wybodaeth newydd, annibyniaeth a chyfleoedd cyffrous. Ond, gall anfanteision, fel costau llety a dyled, cyfyngiadau a'r syniad o fod ar goll mewn torf, fod ynghlwm wrth fynd i ffwrdd i brifysgol. Felly, beth petai yna ffordd wahanol?

Drwy astudio'n lleol, gallwch gael manteision graddio heb yr anfanteision a ddaw yn sgil symud i ffwrdd. Mae Grŵp Llandrillo Menai'n cynnig dros hanner cant o gyrsiau gradd yn ei dri choleg, sef Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor, gan roi'r hyblygrwydd i chi astudio'n lleol ac arbed miloedd.

Ac mae'r amrywiaeth o gyrsiau newydd sbon sydd ar gael ar gyfer mis Medi 2024 yn cynnwys:

  • Cwnsela

  • Celfyddydau Coginio

  • Perfformio ar gyfer Llwyfan a Sgrin

  • Lletygarwch, Twristiaeth a Rheoli Digwyddiadau

  • Iechyd Cyhoeddus, Llesiant a Chymorth Cymdeithasol

Oherwydd y dosbarthiadau llai, cewch gefnogaeth bersonol drwy gydol eich cwrs gan diwtoriaid a chyd-fyfyrwyr.

Cynigir y rhan fwyaf o'r cyrsiau gradd yn y Ganolfan Brifysgol, sy'n cynnwys yr holl offer angenrheidiol ac a gostiodd sawl miliwn i'w chodi, yn Llandrillo-yn-Rhos ac mae rhai rhaglenni hefyd ar gael ar ein campysau ym Mangor, y Rhyl Llangefni a Dolgellau. Dilyswyd a dyfernir mwyafrif ein cyrsiau Gradd gan Brifysgol Bangor. ⁠

Mae llawer o'r cyrsiau a gynigir yn gymwysterau galwedigaethol a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad â chyflogwyr er mwyn rhoi i'r dysgwyr y sgiliau a'r wybodaeth y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt ac er mwyn ei gwneud yn haws iddynt symud ymlaen i waith. Yn aml, cynhelir y cyrsiau llawn amser dros ddau ddiwrnod yr wythnos, sy’n helpu dysgwyr i ffitio eu hastudiaethau o gwmpas ymrwymiadau gwaith a theulu.

Canlyniadau Addysg Uwch Rhagorol i Grŵp Llandrillo Menai yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr
Cafodd Grŵp Llandrillo Menai sgôr ardderchog o 89% am foddhad myfyrwyr ag ansawdd y ddarpariaeth Addysg Uwch yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) diweddaraf - gan ddod i’r brig fel y darparwr gorau yng Nghymru. Gofynnwyd 28 cwestiwn i fyfyrwyr am yr addysgu ar eu cwrs, y cymorth academaidd, yr asesiadau ac adborth, a’r adnoddau dysgu - a sgoriodd grŵp y coleg yn uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig ym mhob cwestiwn.

Graddio Haf 2024
Ymhlith y pedwar cant a rhagor o raddedigion a oedd yn Seremoni Raddio ddiweddaraf Grŵp Llandrillo Menai - Enillodd Hannah Evans radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Meddai: “Dw i mor gyffrous am raddio gyda gradd dosbarth cyntaf, mae'n golygu llawer iawn i mi. Roedd y cwrs yn hollol wych, ac roedd y tiwtoriaid yn anhygoel. Fy nghynlluniau ar gyfer y dyfodol yw gwneud gradd Meistr mewn gwaith cymdeithasol.”

Enillodd Samantha Russell radd dosbarth cyntaf hefyd, gyda'i gradd BA (Anrh) mewn Celfyddydau Coginio.

Cwblhaodd ei gradd llawn amser wrth weithio'n rhan-amser fel darlithydd Arlwyo a Lletygarwch yng Ngholeg Llandrillo.

Dywedodd Samantha: “Mae'r cwrs hwn wedi fy ngalluogi i ddatblygu llawer o sgiliau a gwybodaeth a fydd o ddefnydd yn fy addysgu. Fy nghynllun ar gyfer y flwyddyn nesaf yw gwneud gradd Meistr yng Ngholeg Prifysgol Birmingham a chyfuno hyn ag addysgu yng Ngholeg Llandrillo.”

Ymunwch â'r miloedd o fyfyrwyr gradd sydd wedi gwireddu eu gobeithion personol ac academaidd yng Ngrŵp Llandrillo Menai!

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau gradd Grŵp Llandrillo Menai, ewch i'r wefan www.gllm.ac.uk/degrees, anfonwch neges e-bost at generalenquiries@gllm.ac.uk neu ffoniwch 01492 542 338.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date