Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Peirianneg

Mae Gogledd Orllewin Cymru angen Peirianwyr i lenwi ystod eang o swyddi cyffrous sy'n talu'n dda.

Mae'r sector peirianneg yn cynnig ystod eang o yrfaoedd sy'n talu'n dda i'r rhai sydd â'r hyfforddiant a'r sgiliau cywir.

Cyflwynir ein holl gyrsiau mewn ystafelloedd dosbarth modern a gweithdai o'r un safon ag a geir yn y diwydiant. Rydym yn gweithio gyda chwmnïau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i alluogi pobl ifanc i gael y sgiliau o ansawdd uchel y mae ar gyflogwyr eu hangen.

Yn ogystal â’n cyfleusterau rhagorol ar gampws Llangefni, yn ddiweddar rydym wedi agor canolfan beirianneg newydd sbon gwerth £13 miliwn ar ein campws yn y Rhyl.

Rydym yn cynnig cyrsiau llawn amser yn y meysydd a ganlyn:

  • Peirianneg Awyrennau
  • Peirianneg Drydanol/Electronig
  • Ffabrigo a Weldio
  • Peirianneg Fecanyddol/Peirianneg Gweithgynhyrchu
  • Peirianneg Chwaraeon Moduro

Pa lefel a chwrs sy'n addas i mi?

Cynigwn y dewis mwyaf o gyrsiau addysg bellach ac addysg uwch yng Ngogledd Cymru ac maent yn amrywio o gyrsiau Lefel 1 hyd at gyrsiau lefel Gradd. Rydym hefyd yn cynnig Prentisiaethau.

Dyma ganllawiau syml sy'n esbonio'r lefelau, cyrsiau a'r llwybrau dilyniant sydd ar gael i chi.


Lefel 1


Arweiniad ar ofynion mynediad:

  • Diddordeb mewn peirianneg

Cyrsiau y gallwch eu hastudio


Lefel 2


Arweiniad ar ofynion mynediad:

  • 4 TGAU, DDDE i CCCC, neu
  • Wedi cwblhau Lefel 1 yn llwyddiannus

Lefel 3


Arweiniad ar ofynion mynediad:

  • 5 TGAU, A*-C, neu
  • Wedi cwblhau Lefel 2 yn llwyddiannus

Lefelau 4 - 6


Arweiniad ar ofynion mynediad:

  • Wedi astudio Lefel A Mathemateg neu Ffiseg, neu
  • Wedi cwblhau Lefel 3 yn llwyddiannus

Y Ganolfan Beirianneg newydd Campws Coleg Llandrillo yn y Rhyl

Bydd y ganolfan yn cyflwyno addysg a hyfforddiant o’r radd flaenaf yn y byd i’r sector peirianneg a bydd yn eich galluogi chi i ddatblygu eich sgiliau i fodloni anghenion y diwydiant yn y dyfodol, yn cynnwys sgiliau hanfodol ar gyfer y sector ynni adnewyddadwy, gweithgynhyrchu ychwanegion a’r trawsnewid digidol yn y diwydiant.

Bydd y cyfleuster tri llawr newydd yn 2,886m² ac yn cynnwys gwerth dros £2m o’r offer hyfforddi arbenigol diweddaraf - o ystafelloedd dylunio gyda chymorth cyfrifiaduron i beiriannau prototeipio 3D a pheiriannau torri metel diwydiannol mawr a reolir gan gyfrifiaduron.

Mewn partneriaeth â’r cwmni rhyngwladol RWE Renewables, sy’n rheoli nifer o safleoedd ynni adnewyddadwy ym Mhrydain, bydd y datblygiad newydd yn cynnwys sefydliad newydd ar gyfer Technoleg Ynni Adnewyddadwy. Un o nodweddion amlwg yr adeilad fydd neuadd dri llawr ar raddfa ddiwydiannol i wasanaethu a chynnal a chadw tyrbinau gwynt.
Y Ganolfan Beirianneg - Y Rhyl

Gyrfa mewn Peirianneg


Noder os gwelwch yn dda: Mae'r data/wybodaeth a welir yma yn cael ei ddarparu gan EMSI Career Coach, ac ond ar gael yn Saesneg. Nid yw Grŵp Llandrillo Menai yn gyfrifol am gynnwys gwefannau a darparwyr allanol.

Myfyriwr yn gweithio ar fwrdd trydanol