Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Erbyn hyn mae mwy o gyfleoedd nag erioed i weithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn chwilio am unigolion sy’n awyddus i helpu pobl eraill.
Os ydych chi'n gydymdeimladol eich natur, a'ch bod yn awyddus i ddarparu cymorth a gofal o ansawdd uchel er mwyn diwallu anghenion pobl eraill, yna gallai cwrs ym maes iechyd a gofal cymdeithasol fod yn ddechrau ar yrfa werth chweil i chi.
Cyflwynir ein holl gyrsiau mewn amgylcheddau dysgu realistig, ac mae gan ein staff arbenigol ystod eang o brofiad yn y diwydiant ar ôl bod yn Weithwyr Cymdeithasol Cofrestredig, Nyrsys Cofrestredig, Therapyddion Galwedigaethol a Rheolwyr Cartrefi Gofal.
Byddwch yn dysgu'r sgiliau a'r wybodaeth sy'n hanfodol i weithio yn y sector. Yn dibynnu ar lefel eich cwrs, byddwch yn mynd ar leoliadau gwaith ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â’r sector, megis gweithio gyda phartneriaid a chyflogwyr yn y sector. Mae gennym gysylltiadau helaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Awdurdodau Lleol, darparwyr Gofal Cartref a sefydliadau Trydydd Sector.
Bob blwyddyn, mae ein myfyrwyr yn symud ymlaen i amrywiaeth o gyrsiau prifysgol, gan gynnwys Nyrsio, Bydwreigiaeth, Gwaith Cymdeithasol, Iechyd Galwedigaethol, Therapi Galwedigaethol, Troseddeg ac ati. Gall myfyrwyr hefyd symud ymlaen i un o'r cyrsiau gradd a gynigir yma yn y coleg. Yn ogystal, rydym yn cefnogi dysgwyr i symud ymlaen i fyd gwaith, naill ai trwy gyflogaeth uniongyrchol neu hyfforddiant pellach ar un o’n llwybrau prentisiaeth.
Pa lefel a chwrs sy'n addas i mi?
Cynigwn y dewis mwyaf o gyrsiau addysg bellach ac addysg uwch yng Ngogledd Cymru ac maent yn amrywio o gyrsiau
Lefel 0 (mynediad) hyd at gyrsiau
lefel Gradd. Rydym hefyd yn cynnig Prentisiaethau.
Dyma ganllawiau syml sy'n esbonio'r lefelau, cyrsiau a'r llwybrau dilyniant sydd ar gael i chi.
Lefel 0 (Mynediad)
Cyrsiau lefel 1
Cyrsiau lefel 2
Cyrsiau lefel 3
Cyrsiau lefelau 4 - 6
- Arwain a rheoli ym maes Gofal Cymdeithasol - Prentisiaeth uwch
- Diploma Lefel 3 mewn Gofal Sylfaenol
- Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2 CBAC: Craidd
- Paratoi i Arwain a Rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Lefel 4
- Prentisiaeth - Cymorth Gofal Iechyd Clinigol Lefel 2
- Prentisiaeth - Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2
- Prentisiaeth - Lefel 3 Nyrsio Deintyddol
- Prentisiaeth Uwch – Arwain a Rheoli mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 5
- Prentisiaeth Uwch – Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Prentisiaeth – Diploma mewn Cymorth Gofal Iechyd Gofal Sylfaenol Lefel 3
- Prentisiaeth – Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3
- Prentisiaethau - Gwaith Chwarae Lefel 2 a 3
- Prentisiaethau ym maes Cefnogi Addysgu
Gyrfa mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Noder os gwelwch yn dda: Mae'r data/wybodaeth a welir yma yn cael ei ddarparu gan EMSI Career Coach, ac ond ar gael yn Saesneg. Nid yw Grŵp Llandrillo Menai yn gyfrifol am gynnwys gwefannau a darparwyr allanol.