Yn awr mae hyfforddiant proffesiynol a gwasanaethau dysgu seiliedig ar waith ar gael i fusnesau Gogledd Cymru yn swyddfeydd newydd Busnes@LlandrilloMenai ym Mharc Menai, Bangor.
Newyddion Busnes@LlandrilloMenai
Yn ddiweddar, cafodd myfyrwyr sy’n astudio ar gyrsiau amaethyddol yng Ngholeg Glynllifon gyfle i fynychu’r digwyddiad blynyddol pwysicaf yng nghalendr diwydiant llaeth y DU.
Mae Busnes@LlandrilloMenai, gwasanaeth Grŵp Llandrillo Menai i fusnesau, wedi lansio fframwaith prentisiaeth newydd mewn Cadwraeth Amgylcheddol.
Yn ddiweddar, dathlodd grŵp o brentisiaid o REHAU Ltd eu bod wedi cwblhau eu Prentisiaeth mewn Gweithrediadau Prosesu Polymer yng Nghanolfan CIST, Grŵp Llandrillo Menai, gan lwyddo i oresgyn yr heriau a achoswyd gan Covid-19.
Mae Siôn Wyn Owen, cogydd addawol o Lanfachraeth wedi ennill gwobr 'Prif Brentis y Flwyddyn 2021' Consortiwm Dysgu Seiliedig ar Waith, Grŵp Llandrillo Menai.
Mae cam nesaf cynllun uchelgeisiol ar gyfer y diwydiant adeiladu yng Ngogledd Cymru wedi'i wireddu a chyfleuster hyfforddiant i sgaffaldwyr wedi'i achredu gan CIRS wedi agor ei drysau yng Nghanolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg (CIST) Busnes@LlandrilloMenai yn Llangefni.
Yn ddiweddar, lansiodd Grŵp Llandrillo Menai gystadleuaeth 'Entrepreneur y Mis' i wobrwyo ac i dynnu sylw at yr holl fyfyrwyr ar ei 12 campws sy'n mentro i fyd busnes.
Pagination
- Yn ôl
- Tudalen 6 o 6