Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Newyddion Coleg Llandrillo

Myfyrwyr Coleg Llandrillo a’r Ceidwad Cefn Gwlad, Vitor Evora, yn gweithio ar y ffensio newydd yng Ngwarchodfa Natur Pwll Brickfield

Myfyrwyr yn astudio crefft gynaliadwy yng ngwarchodfa natur y Rhyl

Cafodd myfyrwyr Coleg Llandrillo help gan geidwaid cefn gwlad mewn hafan natur yn y Rhyl i ddysgu crefft ffensio draddodiadol.

Dewch i wybod mwy
Y prif hyfforddwr a'r darlithydd chwaraeon Matthew Williams yn siarad â thîm Academi Pêl-droed Coleg Llandrillo

Tîm Academi Pêl-droed Coleg Llandrillo yn cyrraedd ffeinal Cwpan Cymru

Bydd tîm Llandrillo'n chwarae yn erbyn tîm yr Eglwys Newydd ar ôl curo Coleg Gŵyr o 3 gôl i 2 yn eu gêm gynderfynol

Dewch i wybod mwy
Noa Vaughan, dysgwr o Goleg Menai, ym Mhencampwriaethau Chwaraeon Cenedlaethol AoC

Noa yn ennill medal efydd yn ras dygnwch pencampwriaethau cenedlaethol cymdeithas y colegau

Dewiswyd y myfyriwr o Goleg Menai i fod yn gapten tîm Cymru ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Chwaraeon AoC yn Nottingham

Dewch i wybod mwy
Prentis plymio o Grŵp Llandrillo Menai, Oleksandr Dobrohorskyi, gydag offer a enillodd fel bwrsariaeth gan Monument Tools

Daniel ac Oleksandr yn ennill bwrsariaethau tŵls gwerth £1,000

Roedd gan adran blymio Coleg Llandrillo ddau ymgeisydd llwyddiannus wnaeth dderbyn y wobr gan Monument Tools a'r Worshipful Company of Plumbers - gyda dim ond chwe gwobr yn cael eu dyfarnu ar draws y Deyrnas Unedig

Dewch i wybod mwy
Myfyrwyr yn dathlu graddio ar y promenâd yn Llandudno

Grŵp Llandrillo Menai ar y blaen wrth ddarparu Addysg Uwch yn y Gymraeg

Mae adroddiad wedi canfod mai'r Grŵp sydd â'r gyfran uchaf yn y wlad o fyfyrwyr lefel prifysgol sy'n astudio yn y Gymraeg

Dewch i wybod mwy
Felicity Devey, y maethegydd perfformiad mewn chwaraeon yng Ngemau Paralympaidd Paris 2024

Perfformio i'r Eithaf: Felicity Devey ar ‘Ennill yn Dda’ dros Gymru

Yn y seminar Perfformio i'r Eithaf nesaf yng Ngholeg Llandrillo, bydd y maethegydd Olympaidd a Pharalympaidd yn trafod sut mae Chwaraeon Cymru wedi gweddnewid y ffordd mae'n darparu gwasanaethau gwyddor chwaraeon

Dewch i wybod mwy
Brooke Williams yn steilio gwallt ei model yn rownd derfynol y Deyrnas Unedig yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn - Gwallt Cysyniadol

Brooke a Kayleigh yn ennill rownd derfynol y Deyrnas Unedig mewn cystadleuaeth trin gwallt bwysig

Enillodd Brooke Williams, myfyrwraig o Goleg Menai, a Kayleigh Blears, dysgwr o Goleg Llandrillo, anrhydeddau cenedlaethol gyda'u steiliau gwallt ar thema stori dylwyth teg yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn - Gwallt Cysyniadol

Dewch i wybod mwy
Madeleine Warburton yn gwisgo cit hyfforddi ‘Squad UK’ WorldSkills UK

Evan, Madeleine ac Yuliia yn rhan o Garfan y Deyrnas Unedig ar gyfer WorldSkills 2026

Rŵan mae'r tri dysgwr o Grŵp Llandrillo Menai'n wynebu 18 mis o hyfforddi dwys wrth iddyn nhw ymdrechu i gael eu dewis i fod yn rhan o'r tîm fydd yn cystadlu ar brif lwyfan y byd yn Shanghai

Dewch i wybod mwy
Dysgwyr y rhaglen Interniaeth a Gefnogir yn Asda Llandudno yn gyda baner yn hyrwyddo Diwrnod Cenedlaethol Interniaethau a Gefnogir

Enwebu Tîm Interniaeth a Gefnogir Coleg Llandrillo ac Asda am wobr 'Dewis y Bobl'

Cynhelir cystadleuaeth Dewis y Bobl DFN Project SEARCH bob blwyddyn i nodi Diwrnod Cenedlaethol Interniaeth a Gefnogir (27 Mawrth)

Dewch i wybod mwy
Yuliia Batrak o Goleg Llandrillo gyda'r pedair medal aur a enillodd yn yr International Salon Culinaire

Yuliia yn ennill pedair medal aur mewn cystadleuaeth goginio o fri

Ysgydwodd y fyfyrwraig o Goleg Llandrillo gystadleuaeth cymysgu diodydd yr International Salon Culinaire gyda choctels a ysbrydolwyd gan ei phlentyndod yn Wcráin a’r croeso a gafodd yng Nghymru

Dewch i wybod mwy

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date