Mae Tîm Cogyddion Iau Cymru yn dathlu wedi ennill gwobrau arian ac efydd yn y Cwpan Byd Coginio yn Luxembourg! Yn hynod iawn, mae dau draean o'r sgwad yn cynnwys myfyrwyr cyfredol neu gyn-fyfyrwyr Lletygarwch ac Arlwyo o Grwp Llandrillo Menai.
Newyddion Coleg Llandrillo
Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn Venue Cymru yn ddiweddar wedi ei gynnal i ddathlu cyflawniadau academaidd 111 o weithwyr cymorth gofal iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCHUHB).
Cafodd myfyriwr Lletygarwch ac Arlwyo Coleg Llandrillo, sy'n aelod allweddol o sgwad Criced Galluoedd Cymysg Cymru, ei gap cyntaf am gynrychioli ei wlad yn ddiweddar.
Mae myfyrwyr o gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl wedi bod yn helpu ceidwaid mewn gwarchodfa natur leol i glirio ardaloedd yn barod ar gyfer plannu tegeirianau ac ailffurfio gwrychoedd er mwyn gallu adeiladu nythod ar gyfer amrywiaeth eang o fywyd gwyllt.
Bydd cyn-fyfyriwr o Goleg Llandrillo a wrthododd i adael Syndrom Asperger ei rwystro rhag llwyddo, yn derbyn PhD yn fuan a chael y fraint o ddefnyddio'r teitl 'Dr'.
Dathlwyd cyflawniad arbennig Alexander Marshall-Wilson, cyn-fyfyriwr o Goleg Llandrillo, dros y penwythnos pan ddyfarnwyd gwobr efydd fawreddog BTEC Dysgwr Chwaraeon y Flwyddyn iddo.
Dychwelodd cyn-fyryriwr Trin Gwallt Coleg Llandrillo i'w gyn-goleg yn ddiweddar, dim ond ychydig fisoedd yn unig wedi i'w greadigaethau ffasiynol ar gyfer amrywiol frandiau byd-eang gael eu gweld ar lwyfannau wythnosau ffasiwn Efrog Newydd, Paris a Llundain!
Mae myfyriwr ysbrydoledig o gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl a roddodd cymorth i drigolion hŷn yn ystod llifogydd y llynedd yn Llanelwy, wedi cael ei anrhydeddu mewn seremoni wobrwyo ddiweddar.
Cafodd tri o fyfyrwyr Coleg Llandrillo sy'n astudio ar gwrs gradd yn y Cyfryngau gyfle oes yn ddiweddar pan ofynnwyd iddynt ffilmio ar gyfer S4C!
Mae myfyriwr Celf a Dylunio o Goleg Llandrillo a ragorodd yng nghystadlaethau sirol yr Urdd, wedi taro'r aur yn rownd derfynol Cymru gyfan.