Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Newyddion Coleg Llandrillo

Bethan Edwards, myfyriwr o Goleg Llandrillo, gyda Gwobr Arlwyo Clwb Rotari y Rhyl ym Mwyty'r Orme View ar gampws Llandrillo-yn-Rhos

Bethan yn ennill Gwobr Arlwyo flynyddol Clwb Rotari'r Rhyl

Ar y cyd â Choleg Llandrillo, mae’r clwb wedi noddi gwobr i’r myfyriwr lletygarwch gorau o ardal y Rhyl ers dros 25 mlynedd

Dewch i wybod mwy
Plant yn chwarae yn nhwrnameintiau pêl-droed Urdd Conwy ar y cae 3G ar gampws Coleg Llandrillo, Llandrillo-yn-Rhos

Coleg Llandrillo'n Croesawu 350 o blant ar gyfer twrnameintiau pêl-droed yr Urdd

Cafodd twrnamaint merched a thwrnamaint cymysg Urdd Conwy eu cynnal ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, gyda myfyrwyr chwaraeon y coleg yn dyfarnu ac yn trefnu'r gemau

Dewch i wybod mwy
Myfyrwyr y tu allan i gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos

Grŵp Llandrillo Menai yn cynnal digwyddiadau agored ym mis Tachwedd

Mae digwyddiadau agored yn gyfle perffaith i ddysgu rhagor am yr amrywiaeth eang o gyrsiau sydd ar gael yng Ngholeg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor

Dewch i wybod mwy
Dr Seren Evans yn siarad â myfyrwyr ysgol mewn diwrnod Arweinyddiaeth URC ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos

Diwrnodau hyfforddi arweinwyr rygbi'r dyfodol ar gampysau'r Grŵp

Yn ddiweddar, trefnwyd digwyddiadau i fyfyrwyr Blwyddyn 10 yng Ngholeg Menai a Choleg Llandrillo i wrando ar hanes nifer o ferched ysbrydoledig ym maes rygbi, fel rhan o ymrwymiad y Grŵp i ddatblygu rygbi merched

Dewch i wybod mwy
Stephanie, cyn-fyfyriwr o'r coleg, a'r capten ar fwrdd y llong Purus Horizon

Stephanie ar frig y don ym maes diwydiant ynni gwyrdd

Dilynodd y cyn-fyfyriwr o Goleg Menai a Choleg Llandrillo gwrs Peirianneg Forol ac yna cwrs Teithio a Thwristiaeth, ac mae bellach yn hyfforddi i fod yn swyddog ar long sy’n cefnogi gwaith ffermydd gwynt

Dewch i wybod mwy
Chwech o chwaraewyr tîm rygbi merched Grŵp Llandrillo Menai sydd wedi cael eu dewis i ymuno â charfan hyfforddi tîm dan 18 Cymru

Chwaraewyr academi rygbi merched y coleg yn ymuno â charfan hyfforddi tîm dan 18 Cymru

Mae Cara Mercier, Leah Stewart a Saran Griffiths ymhlith y rhai sydd wedi cael eu dewis, ac mae Osian Llewelyn Woodward yn y garfan i fechgyn dan 18

Dewch i wybod mwy
Heather Wynne yn ymarfer ei sgiliau trin gwallt ar mannequin yn y salon ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl

Heather yn ennill lle yn rownd derfynol ysgoloriaeth Calligraphy Cut

Mae’r fyfyrwraig trin gwallt o Goleg Llandrillo eisoes wedi ennill gwobrau, a bellach wedi ennill mwy o ganmoliaeth wrth iddi baratoi ar gyfer rownd derfynol WorldSkills UK

Dewch i wybod mwy
Myfyrwraig o Goleg Llandrillo a phrentis RWE, Madeleine Warburton

Madeleine ar restr fer gwobr ynni cenedlaethol

Enwebu prentis o Grŵp Llandrillo Menai a REW am wobr Rising Star yng Ngwobrau Gweithwyr Ifanc Proffesiynol ym maes Ynni yn Llundain

Dewch i wybod mwy
Cyn-fyfyriwr Coleg Llandrillo, Billy Holmes

Cyn-fyfyriwr, Billy Holmes, ar restr fer Gwobrau Gofal Cymru

Cafodd Billy Holmes ei ysbrydoli i weithio ym maes gofal ar ôl cymryd rhan mewn sesiwn hyfforddi chwaraeon anabledd pan oedd yn astudio yng Ngholeg Llandrillo

Dewch i wybod mwy
Aaron Beacher, Swyddog Cyfoethogi Profiad Myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai gyda'r Wobr Diogelwch Cymunedol

Aaron yn ennill gwobr y Gwasanaeth Tân am ei waith gyda Stori Olivia

Cafodd Aaron Beacher, Swyddog Cyfoethogi Profiad Myfyrwyr, ei gydnabod am rannu neges bwerus am ddiogelwch ar y ffyrdd ar draws campysau Grŵp Llandrillo Menai

Dewch i wybod mwy

Pagination