Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn caniatáu y defnydd o gwcis.

By using our website, you consent to the use of cookies.

Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Newyddion Coleg Meirion-Dwyfor

Myfyrwyr Sgiliau Bywyd a Gwaith y tu ôl i stondin yn y farchnad Nadolig flynyddol ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos

Y Grŵp yn codi dros £600 yn ystod ei Wythnos Elusennau

Cododd digwyddiadau elusennol ar gampysau Grŵp Llandrillo Menai arian hanfodol i elusen Mind yng Nghonwy, elusen Mind yn Nyffryn Clwyd a Hosbis Dewi Sant

Dewch i wybod mwy
Myfyrwyr Coleg Glynllifon o flaen combein 780 Lexion yn ffatri peiriannau amaethyddol CLAAS yn yr Almaen

Myfyrwyr Glynllifon yn ymweld â ffair fasnach da byw EuroTier

Teithiodd y dysgwyr amaeth a pheirianneg i'r Almaen i weld y datblygiadau diweddaraf yn y sector, gan gael cyfle'r un pryd i ymweld â rhai o safleoedd hanesyddol y wlad

Dewch i wybod mwy
Marius Jones gyda’r myfyrwyr peirianneg Cai Jones, Math Hughes, Guto Roberts, Isabella Greenway a Jack Harte

Cwmni lleol yn rhoi offer newydd i fyfyrwyr yr Adran Beirianneg

Cyflwynwyd pecynnau tŵls gan Carl Kammerling International i ddysgwyr Coleg Meirion-Dwyfor yn ddiweddar ar ôl i'r cwmni o Bwllheli noddi tîm Coleg Meirion-Dywfor a gyrhaeddodd rownd derfynol F1 in Schools UK y llynedd

Dewch i wybod mwy
Moch 'Oxford Sandy and Black' Glynllifon

Moch Glynllifon yn Cyrraedd yr Uchelfannau yn y Ffair Aeaf

Mae myfyrwyr a staff yr adran Astudiaethau Anifeiliaid wedi bod yn magu moch traddodiadol prin a oedd bron â diflannu ugain mlynedd yn ôl

Dewch i wybod mwy
Iestyn Worth, Darlithydd yng Ngholeg Meirion-Dwyfor

Iestyn a'i waith fel arbenigwr pwnc gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Bydd y darlithydd o Goleg Meirion-Dwyfor yn gwneud ymchwil pwysig i'r ddarpariaeth addysg ym maes adeiladu yng Nghymru

Dewch i wybod mwy
Llysgennad Coleg Cymraeg Cenedlaethol Lora Jên Pritchard

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn penodi pedwar Llysgennad yng Ngrŵp Llandrillo Menai

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn falch o gyhoeddi Lora Jên Pritchard fel Llysgennad Addysg Bellach Cenedlaethol, yn ogystal â thri Llysgennad Addysg Bellach newydd ar gyfer blwyddyn academaidd 2024-25

Dewch i wybod mwy
Harri Sutherland a'i wobr ar ôl dod yn fuddugol yng nghystadleuaeth plastro SkillBuild2024 gyda Mark Allen, Steven Ellis a Wayne Taylor

Harry'n ennill y wobr aur yn y gystadleuaeth plastro yn Rownd Derfynol Genedlaethol Cystadleuaeth SkillBuild

Roedd y prentis gyda chwmni Adeiladwaith Derwen Llŷn yn cynrychioli Grŵp Llandrillo Menai a Busnes@Llandrillo Menai yn erbyn y plastrwyr ifanc gorau o bob rhan o'r Deyrnas Unedig

Dewch i wybod mwy
Jack Williams, James Borley ac Alex Dunham yn Singapore

Jack yn ennill efydd yng nghystadleuaeth Gweinyddwr Ifanc y Byd

Roedd y cyn-fyfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor yn rhan o dîm Cymru a ddaeth yn drydydd yng nghystadleuaeth Cogydd Ifanc/Gweinydd/Cymysgegydd y Byd yn Singapore

Dewch i wybod mwy
Morgan Davies ac Osian Morris sy'n chwarae i Golegau Cymru gyda Marc Lloyd Williams, rheolwr y tîm a darlithydd yng Ngholeg Menai

Morgan ac Osian yn helpu Colegau Cymru i Guro Lloegr o 6 Gôl i 1

Roedd y ddau fyfyriwr o Grŵp Llandrillo Menai'n chwarae wrth i dîm Marc Lloyd Williams sicrhau eu buddugoliaeth orau erioed yn erbyn Cymdeithas Bêl-droed Colegau Lloegr

Dewch i wybod mwy
Tîm Coleg Meirion-Dwyfor Dolgellau gyda'u medalau a'u tlws ar ôl ennill twrnamaint pêl-droed Ability Counts gogledd Cymru

Coleg Meirion-Dwyfor yn ennill Twrnamaint Pêl-Droed 'Ability Counts' gogledd Cymru

Daeth dysgwyr o'r adrannau Sgiliau Byw'n Annibynnol a chyrsiau Cyn-alwedigaethol o bob rhan o Grŵp Llandrillo Menai ynghyd i gystadlu yn y gystadleuaeth ym Mae Colwyn. Bydd y tîm buddugol o Goleg Meirion-Dwyfor, a'r tîm o Goleg Glynllifon a ddaeth yn ail, yn mynd ymlaen i’r rowndiau terfynol cenedlaethol

Dewch i wybod mwy

Pagination