Fel rhan o gynllun Gaeaf Llawn Lles Llywodraeth Cymru, cafodd myfyrwyr ar gwrs Peirianneg Forol ar safle Pwllheli y cyfle i fynd ar gwch SeaWake cwmni Angelsey Boat Trips yn ddiweddar.
Mae Gaeaf Llawn Lles yn rhan o becyn gwerth £20 miliwn gan Lywodraeth Cymru i gefnogi plant a theuluoedd er mwyn sicrhau nad oes yr un plentyn yn cael ei adael ar ôl o ganlyniad i’r pandemig.
Mae Chwaraeon Cymru wedi bod yn cydweithio â sefydliadau i gyflwyno rhaglen o weithgareddau amrywiol, gyda’r nod o ysbrydoli pobol ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon a chadw’n heini.
Cafodd ein myfyrwyr y cyfle i fynd ar gwch cyflym Doscovery y cwmni, yr unig un o’i mhath yn y wlad, ar daith hyd afon Menai, gan hwylio o dan Pont Menai , Thomas Telford a Phont Britannia, Robert Stephenson, cyn hwylio nol am Beaumaris ac o gwmpas Ynys Seiriol.
Dywedodd Philip Masterson o adran Beirianneg Forol CMD Pwllheli.
‘Mae cyflwyno’r math yma o gyfleoedd i’n myfyrwyr yn rhan ganolog o’n gwaith yn y coleg. Mae cael y cyfle i weld pobol yn y byd go-iawn yn gweithio allan ar y mor, ac mewn cwmnïau llwyddiannus fel Angelsey Boat Trips yn hynod o bwysig i ddatblygiad addysgol ein myfyrwyr. Diolch o galon i brosiect Gaeaf Llawn Lles am y cyfle hwn”
Dywedodd Dawn Bowden Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Llywodraeth Cymru
‘Bydd y sector diwylliant a chwaraeon yn parhau i chwarae rhan bwysig yn cefnogi plant a phobl ifanc i gael eu gwynt atynt ar ôl y pandemig, ac rwy’n edrych ymlaen at weld ein pobl ifanc yn dychwelyd i wneud y gweithgareddau y maent yn eu mwynhau, ac yn troi eu llaw at weithgareddau newydd hefyd. Mae’r rhaglen hon yn enghraifft arall o sut yr ydym yn cydweithio i roi cyfleoedd a phrofiadau i blant a phobl ifanc sy’n cael effaith tymor hir a chadarnhaol ar iechyd a lles.’
Dywedodd Julie Morgan Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru
‘Mae rhoi cefnogaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru yn flaenoriaeth i’r llywodraeth hon, ac mae’n wych gweld plant yn cael blas ar wahanol weithgareddau chwaraeon dros wyliau’r hanner tymor. Gobeithio y bydd y sesiynau yn ysbrydoli’r plant sy’n cymryd rhan i ddysgu mwy am y chwaraeon hyn, i gadw’n heini ac yn bwysicach na dim i gael hwyl.’
Er mwyn dysgu mwy am ein cwrs Peirianneg Forol yn y coleg, ac i wneud cais, cliciwch YMA