Mae myfyrwyr Celf Coleg Meirion-Dwyfor Pwllheli a rhai ar gwrs Diploma Estynedig Celf Dolgellau wedi cyfrannu tuag at lwybr o ddeliau clai sydd wedi cael eu gosod wrth fynedfa'r Neuadd Goffa yng Nghricieth, i ddathlu canmlwyddiant ers agor y neuadd.
Newyddion Coleg Meirion-Dwyfor


Bu myfyrwyr Chwaraeon a Gweithgareddau Awyr Agored Coleg Meirion-Dwyfor yn rhan o her yn ddiweddar. Penderfynon nhw gerdded Llwybr Mary Jones, 28 milltir o Lanfihangel y Pennant i'r Bala gan godi arian i dîm Achub Mynydd De Eryri.

Yn ddiweddar daeth Ceris Wyn a Jemma Durant, ill dwy yn gweithio fel bydwragedd yn Ysbyty Gwynedd Bangor, draw i Goleg Meirion-Dwyfor safle Pwllheli, i rannu eu profiadau am weithio yn y maes gyda myfyrwyr Iechyd a Gofal y coleg.

Fel rhan o gynllun Gaeaf Llawn Lles Llywodraeth Cymru, cafodd myfyrwyr ar gwrs Peirianneg Forol ar safle Pwllheli y cyfle i fynd ar gwch SeaWake cwmni Angelsey Boat Trips yn ddiweddar.
Mae Gaeaf Llawn Lles yn rhan o becyn gwerth £20 miliwn gan Lywodraeth Cymru i gefnogi plant a theuluoedd er mwyn sicrhau nad oes yr un plentyn yn cael ei adael ar ôl o ganlyniad i’r pandemig.
Mae Chwaraeon Cymru wedi bod yn cydweithio â sefydliadau i gyflwyno rhaglen o weithgareddau amrywiol, gyda’r nod o ysbrydoli pobol ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon a chadw’n heini.
Cafodd ein myfyrwyr y cyfle i fynd ar gwch cyflym Doscovery y cwmni, yr unig un o’i mhath yn y wlad, ar daith hyd afon Menai, gan hwylio o dan Pont Menai , Thomas Telford a Phont Britannia, Robert Stephenson, cyn hwylio nol am Beaumaris ac o gwmpas Ynys Seiriol.
Dywedodd Philip Masterson o adran Beirianneg Forol CMD Pwllheli.
‘Mae cyflwyno’r math yma o gyfleoedd i’n myfyrwyr yn rhan ganolog o’n gwaith yn y coleg. Mae cael y cyfle i weld pobol yn y byd go-iawn yn gweithio allan ar y mor, ac mewn cwmnïau llwyddiannus fel Angelsey Boat Trips yn hynod o bwysig i ddatblygiad addysgol ein myfyrwyr. Diolch o galon i brosiect Gaeaf Llawn Lles am y cyfle hwn”
Dywedodd Dawn Bowden Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Llywodraeth Cymru
‘Bydd y sector diwylliant a chwaraeon yn parhau i chwarae rhan bwysig yn cefnogi plant a phobl ifanc i gael eu gwynt atynt ar ôl y pandemig, ac rwy’n edrych ymlaen at weld ein pobl ifanc yn dychwelyd i wneud y gweithgareddau y maent yn eu mwynhau, ac yn troi eu llaw at weithgareddau newydd hefyd. Mae’r rhaglen hon yn enghraifft arall o sut yr ydym yn cydweithio i roi cyfleoedd a phrofiadau i blant a phobl ifanc sy’n cael effaith tymor hir a chadarnhaol ar iechyd a lles.’
Dywedodd Julie Morgan Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru
‘Mae rhoi cefnogaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru yn flaenoriaeth i’r llywodraeth hon, ac mae’n wych gweld plant yn cael blas ar wahanol weithgareddau chwaraeon dros wyliau’r hanner tymor. Gobeithio y bydd y sesiynau yn ysbrydoli’r plant sy’n cymryd rhan i ddysgu mwy am y chwaraeon hyn, i gadw’n heini ac yn bwysicach na dim i gael hwyl.’
Er mwyn dysgu mwy am ein cwrs Peirianneg Forol yn y coleg, ac i wneud cais, cliciwch YMA

Mae Ffion Freeman a Rebecca Fox, dwy o fyfyrwyr Lefel A Coleg Meirion-Dwyfor Dolgellau , wedi bod yn helpu gyda phrosiect hanes llafar yn ddiweddar i goffau sut yr agorodd un pentref bach gwledig ym Meirionnydd eu breichiau i ffoaduriaid oedd yn ffoi rhag erledigaeth 50 mlynedd yn ôl.

Mynychodd myfyrwyr a staff Coleg Meirion Dwyfor berfformiad o The Many Lives of Amy Dillwyn’ nos Iau 10 Mawrth 2022 yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli.

Mae Ffion Gwyn, darlilyth Lefel A Celf yng Ngholeg Meirion-Dwyfor Pwllheli wedi cipio’r wobr gyntaf yn nghystadeluaeth Gwobrau Hearts for the Arts 2022 Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau (NCA).

Cafodd Gwion Lloyd, o Harlech, sydd yn gyn-fyfyriwr Lefel A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor Dolgellau ei ddewis ymhlith degau o ymgeiswyr fel Peiriannydd dan hyfforddiant ar ffordd osgoi newydd gwerth £139 miliwn Llywodraeth Cymru.

Dydd Mercher, Chwefror 16, ar gaeau Clwb Rygbi Porthmadog, bydd cystadleuaeth rygbi ryng-golegol gyntaf Coleg Meirion-Dwyfor yn cael ei chynnal.

Mae gwaith celf, sydd wedi eu creu gan fyfyrwyr Celf, Coleg Meirion-Dwyfor, Dolgellau yn cael ei arddangos yn Nhŷ Siamas, y ganolfan gelfyddydol a diwylliannol yn Nolgellau.