Trefnwyd amrywiaeth o weithgareddau ar bob un o 12 campws Grŵp Llandrillo Menai yn ddiweddar, wrth i fyfyrwyr a staff fynd ati'n brysur i godi arian dros ymgyrch Plant mewn Angen. Codwyd cannoedd o bunnoedd, ac mae rhagor o arian yn dal i ddod i mewn.
Newyddion Grŵp


Mae Busnes@LlandrilloMenai ynghyd â Delyn Safety UK Ltd, ei bartner NEBOSH, yn falch o gyhoeddi bod Tesni James wedi ennill gwobr Ian Whittingham i'r Ymgeisydd Gorau trwy Brydain ar y cwrs Rheoli Iechyd a Diogelwch ym maes Adeiladu.

Teithiodd prentisiaid rhai o gyflogwyr mwyaf Ynys Môn i San Steffan ddoe (31/10/22) i arddangos nid yn unig yr amrywiaeth o gwmnïau sy'n gweithio ar yr ynys, ond hefyd y modd mae'r busnesau hynny'n defnyddio cynllun brentisiaethau i hyfforddi a datblygu gweithlu lleol.

Mae un o reilffyrdd stêm hynaf y byd ymysg cwmnïau yng Ngwynedd sydd wedi manteisio ar brosiect sydd wedi ei gynllunio i helpu busnesau bach leihau eu hallyriadau carbon.

Mae llu o weithgareddau wedi’u trefnu ar gyfer myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai yn ystod ‘Wythnos Dewisiadau’, Hydref 3ydd - 7fed!

Mae dwsinau o staff Grŵp Llandrillo Menai - ynghyd â chyn-aelodau o staff a myfyrwyr - yn dathlu ar ôl cwblhau taith feicio 200 milltir o Lundain i Baris. Dros gyfnod o dri diwrnod, bu rhaid iddynt ymdrechu yn erbyn tywydd poeth iawn, stormydd a blinder difrifol... a'r cyfan er mwyn codi arian i elusennau.

Ar ddechrau tymor newydd yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gwelwyd cannoedd o bobl ifanc yn cofrestru ar gyrsiau ar draws ei 12 campws. Mae llawer o'r cyrsiau eisoes yn llawn, ond yn ôl yr uwch reolwyr, mae ambell le ar ôl, felly mae'n dal yn bosibl dod o hyd i gwrs os cysylltwch â'ch coleg lleol.

Unwaith eto eleni mae dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai'n dathlu wedi iddynt dderbyn canlyniadau rhagorol yn eu harholiadau Lefel A a'u cyrsiau galwedigaethol.

Gyda phwyslais cynyddol ar leihau carbon, mae busnesau bach yng Ngwynedd a Môn yn derbyn cefnogaeth ar eu taith i ddyfodol sero net, diolch i’r Academi Ddigidol Werdd a lansiwyd yn ddiweddar.