Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Newyddion Grŵp

Llywyddion Undeb Myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai; Troy Maclean, Rhiannon Williams, Rhys Morris a Munachi Nneji

Ethol Llywyddion newydd Undeb y Myfyrwyr

Bydd y Llywyddion newydd ar gyfer Coleg Llandrillo, Coleg Menai, a Choleg Meirion-Dwyfor yn sicrhau llais i'r dysgwyr

Dewch i wybod mwy
Myfyrwyr academi rygbi yn hyfforddi ar y cae 3G yng Ngholeg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos

Sefydlu academi rygbi merched Grŵp Llandrillo Menai

Bydd tîm yr academi yn cystadlu yng Nghynhadledd Genedlaethol Ysgolion a Cholegau Cymru, gyda lleoedd yn dal ar gael i fyfyrwyr sydd am gyfuno eu cwrs â rygbi

Dewch i wybod mwy
Y myfyrwyr yn cymryd rhan yn y cwrs Dyfarnwyr mewn Addysg gyda Sean Brickell o Undeb Rygbi Cymru

Ail flwyddyn lwyddiannus i Raglen Hwb Rygbi URC

Cafodd y dysgwyr gynrychioli Cymru ac RGC, tra bod y rhaglen hefyd wedi rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr o bob cefndir a gallu, gyda chynlluniau i ehangu yn 2024/25

Dewch i wybod mwy
Myfyrwyr efo'r canlyniadau

Myfyrwyr yn dathlu canlyniadau rhagorol yng Ngrŵp Llandrillo Menai

Unwaith eto eleni mae dysgwyr yng Ngholeg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor yn dathlu wedi iddynt dderbyn canlyniadau rhagorol yn eu harholiadau Safon Uwch a'u cyrsiau galwedigaethol.

Dewch i wybod mwy
Sylfaenydd Blossom & Bloom, Vicky Welsman-Millard, y tiwtor Samantha Hunt a'r dysgwyr gyda'u tystysgrifau ar ôl cwblhau cwrs Lluosi

Blossom & Bloom a Lluosi yn helpu rhieni i wneud y mwyaf o'u harian

Mae prosiect Lluosi Grŵp Llandrillo Menai a'r elusen mam a'i baban Blossom & Bloom yn cynnal cyrsiau am ddim i ddatblygu sgiliau rhif a chyllidebu rhieni

Dewch i wybod mwy
Kack

Prentisiaeth Gradd Lockheed Martin o'r Radd Flaenaf

Mae cyn-brentis o Grŵp Llandrillo Menai wedi profi y gallwch ennill gradd heb gronni dyled. Graddiodd Jack Edwards yn ddiweddar gyda gradd BEng anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Systemau Peirianneg Drydanol ac Electronig Cymhwysol.

Dewch i wybod mwy
Dynes ifanc yn dysgu ar lein

Cyfle olaf i elwa ar Gyllid i Gyflogwyr

Mae gan gyflogwyr yng ngogledd Cymru hyd at fis Rhagfyr 2024 i elwa ar brosiect Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig. Trwyddo gall cyflogwyr yn siroedd Conwy, Gwynedd a Môn gael mynediad i'r hyfforddiant sgiliau arbenigol a ddarperir gan Grŵp Llandrillo Menai trwy Busnes@LlandrilloMenai.

Dewch i wybod mwy
Cain Jones, prentis Gwaith Saer ac Asiedydd, wrth ei waith

Y coleg yn rhoi troedle i Cain yn y diwydiant adeiladu

Mae'r prentisiaid Cain ac Archie ar eu ffordd i gyflawni eu cymwysterau Lefel 3 trwy Busnes@LlandrilloMenai

Dewch i wybod mwy
3 graddedigion yn gwenu

Canlyniadau Addysg Uwch Rhagorol i Grŵp Llandrillo Menai yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr

Cafodd Grŵp Llandrillo Menai sgôr ardderchog o 89% am foddhad myfyrwyr ag ansawdd y ddarpariaeth Addysg Uwch yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) diweddaraf - gan ddod i’r brig fel y darparwr gorau yng Nghymru.

Dewch i wybod mwy
Euron Jones gyda’i dlws a'i wobr ariannol ar ôl ennill Gwobr Entrepreneur y Flwyddyn Grŵp Llandrillo Menai

Euron Jones yw Entrepreneur y Flwyddyn Grŵp Llandrillo Menai

Enillodd y myfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor y wobr am ei fusnes, Ar y Brig Country Wear Ltd

Dewch i wybod mwy

Pagination