Myfyrwyr Lefel A yn mwynhau 'Cwrs Mamiaith' yng ngwersyll Glan-Llyn
Tra roeddent yn y ganolfan gweithgareddau awyr agored cafodd y dysgwyr o Goleg Meirion-Dwyfor Pwllheli wrando ar sgyrsiau gan awduron medrus, gymryd rhan mewn cystadleuaeth farddoniaeth, a llawer mwy
Yn ddiweddar bu myfyrwyr lefela Cymraeg o Goleg Meirion-Dwyfor yn cymryd rhan mewn Cwrs Mamiaith yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn.
Mae'r Cwrs Mamiaith yn cael ei drefnu'n flynyddol gan y ganolfan gweithgareddau awyr agored ac adran Y Gymraeg Prifysgol Bangor.
Mae’n gyfle i fyfyrwyr colegau a chweched dosbarth ledled Cymru ehangu ar eu gwybodaeth o’r iaith Gymraeg a'i llenyddiaeth a ddysgwyd ganddynt yn eu dosbarthiadau.
Eleni aeth naw myfyriwr o gampws Pwllheli Coleg Meirion-Dwyfor ar y cwrs eleni yn y ganolfan yn Llanuwchllyn, ger y Bala.
Yno, clywsant sgyrsiau gan feirdd, awduron ac academyddion gan gynnwys Myrddin ap Dafydd, Menna Baines, Gruffudd Antur, Caryl Lewis, Peredur Lynch a Naomi Jones. Buont hefyd yn ymweld â’r Ysgwrn, cartref Hedd Wyn, bardd Cymraeg a laddwyd ym Mrwydr Passchendaele yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Roedd yr amserlen orlawn hefyd yn cynnwys gweithgareddau adeiladu tîm megis canŵio, dringo a chwrs rhaffau uchel, yn ogystal â Thwmpath (dawnsio gwerin traddodiadol) a Thalwrn (cystadleuaeth farddoni).
Dywedodd Bethan Mair Hughes, darlithydd lefel A: “Mi wnaeth y merched fwynhau’r tridiau'n fawr. Roedden nhw yno gyda myfyrwyr o 21 chweched dosbarth a choleg arall.
“Mi ddaethon nhw i adnabod eu cyfoedion trwy’r Twmpath a chael dangos eu hochr gystadleuol yn y Talwrn, a barodd dros bedair awr!”
Meddai Elliw Siôn Evans, sy’n astudio Lefel A yn y Gymraeg, Astudiaethau Busnes a’r Gyfraith: “Roedd y cwrs iaith gyntaf yng Nglan-llyn yn brofiad gwerthfawr iawn gan ei fod yn help mawr gyda'r cerddi a'r ddrama rydyn ni'n eu hastudio ar y cwrs Lefel A Cymraeg.
“Mae'r darlithoedd wedi rhoi gwell dealltwriaeth i mi o'r gwaith coleg ac mi fydd yr adnoddau'n ddefnyddiol iawn. Roedd y cwrs hefyd yn gyfle i wneud ffrindiau newydd a chael profiadau bythgofiadwy wrth gymryd rhan yn y gweithgareddau!”
Oes gen ti ddiddordeb mewn astudio pynciau Lefel A gyda Grŵp Llandrillo Menai? Mae ein canolfannau Chweched Dosbarth yn gam nesaf delfrydol os ydych yn gobeithio symud ymlaen i brifysgol neu gyflogaeth ar ôl dilyn eich cyrsiau Lefela. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma