Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Aaron ac Asa yn serennu yn ystod gêm gyntaf rhwng dau dîm o'r Gogledd

Sgoriodd y ddau fyfyriwr o Goleg Menai a Choleg Llandrillo geisiau yn y gêm arbennig rhwng Llewod y Bont a Colwyn Bay Stingrays

Chwaraeodd dau fyfyriwr o adrannau Sgiliau Byw'n Annibynnol y coleg i dimau rygbi gallu cymysg lleol yn ddiweddar, yn y gêm gyntaf rhwng y ddau dîm.

Chwaraeodd Aaron o Goleg Menai ac Asa o Goleg Llandrillo yn erbyn ei gilydd mewn gêm rhwng timau Llewod y Bont a Colwyn Bay Stingrays, a llwyddodd y ddau i sgorio dros eu tîm.

⁠Sgoriodd Aaron ddau gais a chicio trosiad i ennill y gêm i Llewod y Bont yn eu gêm gyntaf a'r tro cyntaf Aaron chwarae mewn gêm gystadleuol.

Sgoriodd Asa hefyd ar ôl gwibio dros y llinell gais i'r Stingrays, yn debyg iawn i'r cais a sgoriodd yn Stadiwm y Principality eleni.

Ollie Coles, Swyddog Hybu Rygbi Grŵp Llandrillo Menai ac Undeb Rygbi Cymru oedd yn gyfrifol am drefnu'r digwyddiad yng Nghlwb Rygbi Porthaethwy.

Dywedodd Ollie: ⁠Mae rygbi gallu cymysg yn caniatáu i bawb o bob gallu chwarae rhan lawn mewn gêm o rygbi. Mae'n addas ar gyfer chwaraewyr ag anghenion dysgu ychwanegol, chwaraewyr sydd wedi ymddeol o'r gêm neu chwaraewyr sy'n newydd i'r gamp.

“Mae Asa ac Aaron wedi cymryd rhan mewn sesiynau rygbi Llwybr Cynhwysol rhaglen rygbi Grŵp Llandrillo Menai ac mae'n wych gweld effaith y rhaglen ar ein dysgwyr a'r gymuned yn ehangach.

“Rydw i wedi gweithio gyda Llewod y Bont a Colwyn Bay Stingrays dros y ddwy flynedd diwethaf yn rhinwedd fy swydd. Roeddwn i'n hynod falch o drefnu'r gêm a gweld y ddau dîm yn rhedeg ar y cae yn Llyn y Felin ar gyfer y gêm gyntaf rhwng y ddau dîm rygbi gallu cymysg o ogledd Cymru.

“Roeddwn i'n arbennig o falch o weld Aaron ac Acer yn rhedeg ar y cae a chael cyfle i chwarae gyda nhw.

“Mae Rhaglen Rygbi Grŵp Llandrillo Menai wedi ymrwymo i sicrhau cyfleoedd i bob dysgwr o bob gallu, cefndir a hunaniaeth gymryd rhan yn y gamp. ⁠Mae cynorthwyo chwaraewyr i ymuno â thimau gallu cymysg lleol a'u cefnogi ar y daith yn rhan allweddol o hyn.”

Dywedodd Aaron ar ôl y gêm: "Mi wnes i fwynhau'n arw ac roeddwn i wrth fy modd i sgorio cais a throsgais. Dyma fy ngêm gyntaf, dw i'n edrych ymlaen at y gêm nesaf yn barod."

Wrth sôn rhagor am sesiynau rygbi'r coleg, ychwanegodd: ⁠"Dw i wedi mwynhau cymryd rhan mewn gwyliau rygbi a chymryd rhan yn yr holl weithgareddau. Mi hoffwn i fynd eto."

Gwyliwch Asa yn sgorio cais yn Stadiwm y Principality:

Meddai Andy Hails, is-gadeirydd Llewod y Bont: "Mae hi wedi bod yn fraint i weithio gyda grŵp rhagorol o chwaraewyr a hyfforddwyr.

“Mae'r tîm wedi gwneud cynnydd aruthrol ers ei sefydlu deunaw mis yn ôl. Hoffwn ddiolch i bawb am eu cymorth: Cyn-chwaraewyr Clwb Rygbi Porthaethwy, chwaraewyr newydd, Dave Roberts swyddog cynhwysiant URC, Paul hyfforddwr y clwb, y cadeirydd Darren ac Ollie Coles, Swyddog Hybu Rygbi Grŵp Llandrillo Menai. Mi fyddwn ni'n cymryd egwyl haeddiannol rŵan cyn dechrau eto ar ail ddydd Sul mis Medi."

Yn gynharach yn y flwyddyn sgoriodd Acer gais dros dîm Barbariaid Gallu Cymysg gogledd Cymru yn y gêm yn erbyn Pantheriaid Port Talbot a gynhaliwyd yn Stadiwm y Principality ar ddiwrnod cynhwysol URC, y Daith i'r Principality.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â thîm rygbi gallu cymysg cysylltwch â Llewod y Bont ar hails4iron@aol.com neu Bae Colwyn Stingrays ar Jcraig3585@outlook.com

I gael rhagor o wybodaeth am ddarpariaeth Sgiliau Byw'n Annibynnol Grŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma.