Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Aaron yn datblygu'r genhedlaeth nesaf o bêl-droedwyr yn ei rôl gyda Dinas Caerdydd

Mae Aaron Forbes, sy'n gyn-fyfyriwr yng Ngholeg Llandrillo, yn helpu i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o bêl-droedwyr yn ei rôl fel dadansoddwr gyda Dinas Caerdydd

Cwblhaodd Aaron, o Gyffordd Llandudno, ei Ddiploma Lefel 3 mewn Chwaraeon (Perfformiad a Rhagoriaeth) ar gampws Llandrillo-yn-Rhos yn 2023.

Bellach yn ei ail flwyddyn ar gwrs BSc mewn Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon ym Mhrifysgol Met Caerdydd, mae wedi sicrhau lleoliad fel Prif Ddadansoddwr Academi dan 13 oed yr Adar Gleision.

Mae rôl Aaron yn cynnwys pori dros y ffilmiau o gemau tîm yr academi, a choladu data ar bopeth o basio, meddiant, ac ergydio, i ystadegau amddiffynnol megis taclo ac adennill y bêl.

Yna mae'n cyflwyno ei ganfyddiadau i'r chwaraewyr ifanc er mwyn eu helpu i weithio ar eu gêm.

“Mae'n cymryd rhyw bedair neu bum awr i fynd drwy bob gêm,” meddai. “Dim ond 13 neu 14 oed ydy'r chwaraewyr felly dydw i ddim eisiau eu gorlwytho nhw, felly dwi'n rhoi'r ystadegau sylfaenol fel eu bod nhw’n deall sut olwg oedd ar y gêm o’r tu allan.

“Mae’n heriol iawn – er enghraifft mae 'na tua 700 pas mewn gêm arferol. Dw i'n cyfri pob un ohonyn nhw, felly weithiau mae’n rhaid i mi fynd yn ôl neu arafu’r ffilm oherwydd alla' i ddim colli dim byd.”

Roedd ceisiadau am y lleoliad yn agored i fyfyrwyr y tair blwyddyn y cwrs gradd, felly roedd gan Aaron gystadleuaeth galed.

Ysgogwyd ei ddiddordeb mewn dadansoddi chwaraeon yng Ngholeg Llandrillo, lle cofrestrodd ar ôl cael gwybod am academi pêl-droed y coleg gan y darlithwyr chwaraeon Matthew Williams a Matthew Morris.

“Fe ddaethon nhw i un o fy sesiynau hyfforddiant pêl-droed i hyrwyddo’r ffaith y gallech chi wneud y cwrs chwaraeon ochr yn ochr â chwarae,” meddai Aaron, a oedd yn chwarae i Fwrdeistref Conwy ar y pryd.

“Fe wnaeth hynny droi golau ymlaen yn fy mhen oherwydd dw i wrth fy modd yn chwarae pêl-droed. Ro'n i ar fin cymryd Addysg Gorfforol a dau bwnc arall yn yr ysgol, ond nes i feddwl y byddai'n well gen i ganolbwyntio ar un pwnc yn unig.

“Roedd o'n rhoi cyfle gwych i mi ddysgu am wahanol feysydd o fewn chwaraeon, ac yn amlwg roedd cael chwarae pêl-droed ochr yn ochr â hynny yn goron ar y cyfan.

“Mi wnes i ddechrau dadansoddi oherwydd yr academi bêl-droed yn y coleg - roedden nhw'n defnyddio festiau GPS i dracio ein pellteroedd rhedeg. Mae’n debyg mai edrych ar fy ystadegau fy hun ydy’r rheswm fy mod i’n dadansoddi rŵan – mi roddodd syniad hollol newydd i mi o’r hyn y gallwn ei wneud yn y dyfodol.”

Ochr yn ochr â’i rôl dadansoddi, mae Aaron hefyd yn ymwneud â hyfforddi yn academi Dinas Caerdydd. Mae ei gymwysterau hyfforddi yn cynnwys Trwydded C UEFA, a chymhwyster Lefel 2 Cymdeithas y Sgowtiaid Pêl-droed Proffesiynol mewn Adnabod Talent, yn ogystal â’r rhai a gyflawnodd yn y coleg, megis Gwobr Arweinwyr Pêl-droed CBDC.

Mae'n ddiolchgar am allu gosod sylfeini ei addysg hyfforddi tra roedd yn y coleg.

“Mae popeth ddysgais i yn y coleg yn dal i fwydo i mewn i'r pethau rydw i'n eu gwneud heddiw,” meddai Aaron. “Fel y pwnc rhaglennu ffitrwydd gyda Sam Downey – dw i'n trosglwyddo popeth ddysgais i yno i'r bechgyn 13, 14 oed yn Ninas Caerdydd.

“Mi roddodd Matthew Williams, sy’n rhedeg yr academi, lawer o gyngor i mi ynglŷn â hyfforddi. Mae ganddo fo brofiad helaeth, mae'n gweithio gyda rhanbarthau Cymru, felly mae dysgu ganddo fo yn amlwg wedi helpu hefyd. Felly nid dim ond un peth sy'n bwydo i mewn i'r hyn rydw i'n ei wneud heddiw, mae popeth yn cyfrannu.

“Roedd llawer o bobl o 'nghwmpas i yn fy nghefnogi, yn enwedig hefo mynd i’r brifysgol. Roedd Sam Downey yn wych - mi roddodd o gymaint o gyngor i mi ar be' i'w ddisgwyl, oedd yn help aruthrol.”

Mae Aaron yn gobeithio aros gyda Chaerdydd y tymor nesaf, pan allai ei leoliad ddod yn rôl gyflogedig. Mae'n bwriadu symud ymlaen i astudio gradd Meistr, ac mae hefyd yn cael gwersi Sbaeneg er mwyn bod yn barod am gyfleoedd posibl yn Sbaen neu Dde America.

Pan ofynnwyd am ei gyngor i unrhyw un sy’n ystyried astudio chwaraeon yng Ngholeg Llandrillo, dywedodd: “Mae'n lle gwych i astudio oherwydd rydych chi'n dysgu am lawer o feysydd gwahanol.

“Ro'n i'n cael fy ngalw’n ‘boring’ pan o’n i yn y coleg – roedd lot o hogiau eisiau mynd i McDonald’s a llefydd fel’na amser cinio, a fi oedd yr un diflas oedd eisiau aros a gwneud fy ngwaith er mwyn gallu canolbwyntio ar bethau eraill.

“Os na fyddwn i wedi gwneud hynny, dydw i ddim yn meddwl y byddwn i yn y sefyllfa dw i ynddi heddiw. Mae "gweithiwch yn galed" yn rhywbeth amlwg i'w ddweud, ond ewch chi ddim i unlle heb wneud. Dyna pam rydw i yma heddiw, oherwydd rydw i wedi gweithio'n galed.”

Dywedodd Amy Thomson, Rheolwr Maes Rhaglen Coleg Llandrillo ar gyfer Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus: “Mae profiadau ac ymroddiad Aaron yn amlygu potensial astudio cwrs chwaraeon yng Ngholeg Llandrillo.

“Mae ei ymrwymiad i ddadansoddi a hyfforddi, ynghyd â’i egni a’i waith caled, yn dangos sut y gall y sgiliau a’r wybodaeth a enillwyd trwy raglenni o’r fath, agor drysau i gyfleoedd byd go iawn yn y diwydiant chwaraeon.

“Mae’r gefnogaeth gan y darlithwyr, ynghyd â’u profiad yn y byd go iawn, yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu myfyrwyr fel Aaron i lwyddo.”

Oes gennych chi ddiddordeb brwd mewn chwaraeon, ymarfer corff a ffitrwydd? Eisiau gweithio yn y diwydiant chwaraeon a/neu ffitrwydd? Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau o Lefel 1 hyd at lefel Gradd. Dysgwch ragor yma.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date