Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Aaron yn ennill gwobr y Gwasanaeth Tân am ei waith gyda Stori Olivia

Cafodd Aaron Beacher, Swyddog Cyfoethogi Profiad Myfyrwyr, ei gydnabod am rannu neges bwerus am ddiogelwch ar y ffyrdd ar draws campysau Grŵp Llandrillo Menai

Cyflwynwyd gwobr Partner Diogelwch Cymunedol i Aaron Beacher, Swyddog Cyfoethogi Profiad Myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai, yng ngwobrau blynyddol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Derbyniodd Aaron y wobr ar ran y Grŵp, am ei waith yn dod â 'Stori Olivia' - ffilm bwerus am ddiogelwch ar y ffyrdd, i fyfyrwyr ar draws Gogledd Cymru.

Bu farw Olivia Alkir, o Efenechtyd ger Rhuthun, yn 2019 yn dilyn gwrthdrawiad a achoswyd gan ddau yrrwr ifanc yn rasio. Dim ond 17 oed oedd hi.

Mae ‘Stori Olivia’ yn ffilm dorcalonnus sy'n adrodd digwyddiadau'r ddamwain, lle cafodd dau o'i ffrindiau hefyd anafiadau a newidiodd eu bywydau.

Cynhyrchwyd y ffilm ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac asiantaethau eraill fel rhan o ymgyrch i geisio atal trasiedïau pellach.

Fe’i dangoswyd y llynedd ar gampysau’r Grŵp yn Nolgellau, Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos a’r Rhyl, gyda dangosiadau pellach ar y gweill dros y misoedd nesaf.

Yn ystod seremoni wobrwyo flynyddol y Gwasanaeth Tân neithiwr (nos Iau, Hydref 3), cafodd Aaron ei gydnabod am ei waith yn sicrhau bod ‘Stori Olivia’ yn cyrraedd cymaint o fyfyrwyr â phosib.

Dywedodd Aaron: “Mae’n anrhydedd i mi dderbyn y wobr hon. Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i gyflwyno’r sesiwn hon i’n holl ddysgwyr ar draws Grŵp Llandrillo Menai.

“O glywed yr hyn oedd gan y dysgwyr i'w ddweud am y sesiwn, mae'n amlwg iawn fod ‘Stori Olivia’ yn bwerus ac effeithiol.

“Mae mor bwysig ein bod yn addysgu ein hunain ac yn bod mor ofalus â phosib wrth deithio mewn car, boed hynny fel teithwyr neu fel gyrwyr.

“Dw i’n edrych ymlaen at barhau â’n gwaith gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru i barhau i gyflwyno’r neges bwerus hon ar draws Grŵp Llandrillo Menai.

"Roedd yn brofiad arbennig iawn i glywed am y gwaith sy'n cael ei wneud gan y Gwasanaeth Tân ac Achub ledled Gogledd Cymru. Roedd hefyd yn fraint gweld diffoddwyr tân yn derbyn gwobrau am 20, 30 a 40 mlynedd a mwy o wasanaeth, yn ogystal â gwobrau am ddewrder."

Mae gwobrau blynyddol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, a gynhelir yn Venue Cymru yn Llandudno, yn dathlu llwyddiannau unigolion a grwpiau sydd wedi cyfrannu at y gymuned yng Ngogledd Cymru.

Dywedodd Dawn Docx, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Llongyfarchiadau gwresog i Grŵp Llandrillo Menai a enillodd ein Gwobr Partner Diogelwch Cymunedol yng Ngwobrau Cymunedol 2024.

“Mae’r wobr hon yn cydnabod gwaith asiantaethau partner neu gyrff cyhoeddus sy’n gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn eu hymgais i gyflwyno negeseuon hanfodol ar ddiogelwch cymunedol.

“Dydi gwaith y gwasanaeth tân ac achub ddim yn unig yn golygu mynd i’r afael â thanau mewn tai – rydyn ni'n delio â llawer o wrthdrawiadau ar y ffyrdd ac yn gweithio’n ddiflino gydag asiantaethau eraill i helpu i addysgu gyrwyr am ganlyniadau angheuol posibl goryrru neu beidio â thalu sylw wrth yrru. ⁠

“Mae llawer o dystiolaeth bod gyrwyr ifanc 16-24 oed yn fwy tebygol o gael eu hanafu mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd. Yng Nghymru, mae'r grŵp oedran hwn yn gyfrifol am 11 y cant o'r boblogaeth ond 22 y cant o'r holl anafiadau.

“Mae Stori Olivia yn adnodd addysgol gwerthfawr sy’n adrodd hanes y drasiedi ofnadwy a arweiniodd at farwolaeth Olivia Alkir. Roedd Olivia yn oedolyn ifanc a gafodd ei lladd mewn gwrthdrawiad ar y ffordd lle'r oedd y gyrwyr ifanc dan sylw yn gyrru’n beryglus ac yn rhy gyflym. Mae’r adnodd, sydd wedi’i anelu at bobl ifanc rhwng 17 a 25 oed, yn ceisio tynnu sylw at ganlyniadau gyrru’n ddi-hid mewn ymgais i atal trasiedïau yn y dyfodol.

“Mae Aaron yng Ngrŵp Llandrillo Menai wedi rhoi’r cyfle i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru gyflwyno Stori Olivia i fwy na 1,000 o fyfyrwyr ar saith safle coleg gwahanol rhwng y Rhyl a Dolgellau. Mae llawer o'r myfyrwyr hyn naill ai'n dysgu gyrru neu wedi llwyddo yn eu profion gyrru'n ddiweddar.

“Mae’r sesiwn yn un eithaf caled sy'n gallu ypsetio rhai, ac o ganlyniad mae staff hefyd yn sicrhau bod gan y myfyrwyr fynediad at swyddog lles ar ôl pob sesiwn os ydyn nhw angen siarad.

“Mae gweithio mewn partneriaeth fel hyn yn allweddol i ddiogelu'n cymunedau – ac mi hoffwn i ddiolch i Grŵp Llandrillo Menai am eu gwaith yn cefnogi cyflwyno’r fenter bwerus hon.”

Ers marwolaeth Olivia mae ei mam, Jo Alkir, wedi bod yn ymgyrchu dros osod blwch du yng nghar pob person ifanc i fonitro gyrru ac i geisio atal rhagor o drychinebau fel hyn.

Cynhyrchwyd ‘Stori Olivia’ fel rhan o'r ymgyrch honno. Mae'r ffilm yn cynnwys lluniau dash-cam o gerbyd arall nad oedd yn rhan o'r ddamwain, yn ogystal â recordiadau o'r alwad 999, a chyfweliadau â rhieni a ffrindiau Olivia.

Dangoswyd y ffilm ar gampysau’r Grŵp y llynedd, ynghyd â gwers gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar y ‘5 Angheuol’ – y prif ffactorau sy’n achosi gwrthdrawiadau traffig ffyrdd difrifol.

Y 5 Angheuol yw:

  • Gyrru'n ddiofal a pheryglus
  • Yfed a gyrru a gyrru dan ddylanwad cyffuriau
  • Peidio â gwisgo gwregys diogelwch
  • Defnyddio ffôn symudol
  • Goryrru

Daeth nifer dda o fyfyrwyr o amrywiaeth eang o gyrsiau i'r sesiynau, gan gynnwys Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Chwaraeon, TG, Gwasanaethau Cyhoeddus, Safon Uwch ac Adeiladu.

I gael rhagor o wybodaeth am ‘Stori Olivia’ a’r ymgyrch i osod blwch du yng nghar pob person ifanc, ewch i Olivia Alkir – In Olivia's memory