Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Coleg Meirion-Dwyfor yn cyrraedd rownd derfynol Twrnamaint Pêl-Droed 'Ability Counts'

Daeth myfyrwyr o adran Sgiliau Bywyd a Gwaith campws Dolgellau yn ail yn y gystadleuaeth ar ôl curo timau o bob cwr o Gymru yng Nghaerdydd

Daeth Coleg Meirion-Dwyfor yn ail yn Nhwrnamaint Pêl-Droed 'Ability Counts' Colegau Cymru

Llwyddodd y myfyrwyr o adran Sgiliau Bywyd a Gwaith campws Dolgellau i guro nifer o dimau o bob cwr o Gymru i ddod yn ail yn y gystadleuaeth,

Daeth y tîm yn fuddugol yn erbyn Coleg Gwent, Coleg y Cymoedd, a Choleg Sir Gâr, cyn colli o drwch blewyn yn y rownd derfynol yn erbyn Coleg Caerdydd a’r Fro. Bydd y coleg buddugol yn cynrychioli Cymru ym mis Ebrill yn Association of Colleges Sport National Championships.

Llwyddodd y tîm o Goleg Meirion-Dwyfor i gyrraedd y rowndiau terfynol ar ôl dod yn fuddugol yn nhwrnamaint Ability Counts gogledd Cymru ym mis Tachwedd.

Yn ystod y twrnamaint hwnnw daeth y tîm yn fuddugol yn erbyn timau o Goleg Menai, Coleg Llandrillo a champws Glynllifon, ac ennill taith i'r brifddinas fel pencampwyr y rhanbarth.

Dywedodd Sion Edwards, arweinydd y cwrs Paratoi i Weithio ar gampws Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau: "Roedd yn bleser cludo'r myfyrwyr i Gaerdydd ar gyfer y gystadleuaeth Ability Counts. Mi wnaeth pawb eu gorau a chwarae'n dda iawn.

Mae pob un wedi cynrychioli'r adran Sgiliau Bywyd a Gwaith, y coleg, Grŵp Llandrillo Menai a gogledd Cymru'n arbennig o dda. Rydyn ni'n falch iawn o’u llwyddiant ac yn diolch yn fawr iawn i bob un am eu hymdrechion."

Roedd Ollie Coles, Swyddog Hybu Rygbi Grŵp Llandrillo Menai ac Undeb Rygbi Cymru, ynghlwm â'r gwaith trefnu. Roedd cymryd rhan yn y twrnamaint yn gyfle arbennig i hyrwyddo lles actif y myfyrwyr.

Meddai: "Mae Coleg Meirion-Dwyfor wedi gwneud yn arbennig o dda i gyrraedd rownd derfynol y Twrnamaint Pêl-droed 'Ability Counts' Colegau Cymru. Mi wnaeth y dysgwyr gynrychioli Grŵp Llandrillo Menai a gogledd Cymru'n arbennig o dda.

"Mae'r gystadleuaeth wedi rhoi cyfle i ddysgwyr o bob cwr o'r Grŵp i gymryd rhan a chael profiad o dwrnamaint pêl-droed gallu cymysg. Mae profiadau fel hyn yn cyfrannu at ddatblygiad ein dysgwyr ac yn cyfoethogi eu profiadau yma yn y coleg."

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date