Coleg Llandrillo wedi ei gydnabod am 25 mlynedd o wasanaeth i Academi Rhwydweithio Cisco
Mae'r anrhydedd yn dynodi arweinyddiaeth Coleg Llandrillo ym maes addysg TG a rhwydweithio a'i hanes o gefnogi llwyddiant myfyrwyr
Rydym yn falch o gyhoeddi bod Coleg Llandrillo wedi ei gydnabod am 25 mlynedd o wasanaeth i Academi Rhwydweithio Cisco.
Mae Academi Rhwydweithio Cisco yn rhaglen fyd-eang sy'n cynnig hyfforddiant mewn rhwydweithio, seiberddiogelwch a meysydd TG eraill, gan helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau hanfodol ar gyfer y gweithlu modern.
Mae'r academi wedi'i hintegreiddio i raglen Prentisiaeth Gradd Seiberddiogelwch Coleg Llandrillo a gyllidir yn llawn.
Derbyniodd y coleg dystysgrif '25 Mlynedd o Wasanaeth' i'r academi'n ddiweddar, sy'n cydnabod ei arweinyddiaeth mewn addysg TG a rhwydweithio yn ystod y chwarter canrif ddiwethaf.
Dywedodd Andrew Scott, Arweinydd y Rhaglen Prentisiaethau Gradd a chyrsiau TG Proffesiynol: “Mae bod yn rhan o Academi Rhwydweithio Cisco am 25 mlynedd yn gyflawniad gwych yr ydym yn falch iawn ohono. Mae'n helpu i gyflwyno hyfforddiant blaengar a gydnabyddir gan y diwydiant ym maes rhwydweithio, diogelwch a TG.
“Mae Coleg Llandrillo wedi cynnal partneriaeth gref gyda Cisco, gan gyd-fynd â’u cwricwlwm, eu hardystiadau a'u hadnoddau dros amser. Mae'r coleg wedi cyfrannu at siapio gyrfaoedd llawer o fyfyrwyr, gan roi'r sgiliau a'r ardystiadau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn y maes TG.
“Mae hwn yn gydnabyddiaeth arwyddocaol ac yn garreg filltir mae Coleg Llandrillo yn falch ohoni.”
Dywedodd llefarydd ar ran Academi Rhwydweithio Cisco: “Rydym wrth ein bodd yn llongyfarch Coleg Llandrillo ar dderbyn cydnabyddiaeth 25 Mlynedd o Wasanaeth yr Academi.
“Mae’r dystysgrif hon yn cydnabod ymroddiad rhagorol y sefydliad a’i effaith gadarnhaol wrth gefnogi llwyddiant myfyrwyr a gwella’r cymunedau mae’n eu gwasanaethu.
“Rydym yn gyffrous am ein cydweithrediad parhaus a’r effaith drawsnewidiol y byddwn yn ei chael wrth lunio dyfodol cynhwysol i bawb.”
Caiff y cwrs Prentisiaeth Gradd mewn Seiberddiogelwch Cymhwysol ei ariannu'n llawn ac mae'n ffordd newydd hyblyg o astudio am radd tra hefyd yn parhau i fod yn gyflogedig. Mae'r cwrs ar gael i weithwyr cyflogedig (sy'n gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos) . Byddwch yn astudio am undydd yr wythnos yng Ngrŵp Llandrillo Menai yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, ac ym Mhrifysgol Bangor yn y flwyddyn olaf. Dysgwch ragor yma