Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Grŵp Llandrillo Menai ar y blaen wrth ddarparu Addysg Uwch yn y Gymraeg

Mae adroddiad wedi canfod mai'r Grŵp sydd â'r gyfran uchaf yn y wlad o fyfyrwyr lefel prifysgol sy'n astudio yn y Gymraeg

Yn ôl adroddiad newydd, Grŵp Llandrillo Menai sydd â'r gyfran uchaf yng Nghymru o fyfyrwyr Addysg Uwch sy'n astudio eu cyrsiau yn y Gymraeg.

Canfu adroddiad Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yng Nghymru, fod 31% o fyfyrwyr Addysg Uwch Grŵp Llandrillo Menai'n astudio cyfran o'u cyrsiau trwy'r Gymraeg, o gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol o 4%.

Sefydlwyd Medr ym mis Awst y llynedd ac fe'i noddir gan Lywodraeth Cymru i fod yn gyfrifol am gyllido a rheoleiddio’r sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Cyfeiria'r ystadegau yn yr adroddiad at flwyddyn academaidd 2022/23.

Canfu adroddiad Medr fod 13% o fyfyrwyr Cymru yn siaradwyr Cymraeg rhugl. Gyda llawer o ddysgwyr yn dewis cyfleustra astudio’n lleol, mae Grŵp Llandrillo Menai ar y blaen wrth ddarparu Addysg Uwch ddwyieithog yng Nghymru.

Mae'r Grŵp yn cynnig cyrsiau prifysgol mewn dros 30 o feysydd pwnc, a dilyswyd a dyfernir mwyafrif ei gyrsiau gradd gan Brifysgol Bangor.

Cynllunnir yr amserlenni i'w gwneud yn haws i ddysgwyr gyfuno'u hastudiaethau â'u cyfrifoldebau teuluol a'u hymrwymiadau eraill. Ar y cyfan, caiff y cyrsiau llawn amser a rhan-amser eu cynnal dros un neu ddau ddiwrnod yr wythnos yn unig, ac mae rhai ohonynt ar gael fin nos.

Grŵp Llandrillo Menai sydd ar y brig yng Nghymru am foddhad myfyrwyr ag ansawdd y ddarpariaeth Addysg Uwch ar ôl cael sgôr o 89% yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) diweddaraf.

Meddai Hailey Hockenhull, Cyfarwyddwr Addysg Uwch Grŵp Llandrillo Menai: “Mae ein cyrsiau lefel prifysgol ymhlith y gorau yng Nghymru am foddhad myfyrwyr ac un o'u manteision niferus yw'r cyfle i astudio yn y Gymraeg.

“Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi ymrwymo i hyrwyddo a chefnogi'r Gymraeg, ac mae ein cyrsiau Addysg Uwch wedi'u cynllunio i fodloni anghenion ieithyddol sectorau fel peirianneg ac iechyd a gofal cymdeithasol sy'n hollbwysig i'r economi leol.

“Rydyn ni'n rhoi cyfle i bob myfyriwr lefel prifysgol gael ei asesu drwy gyfrwng y Gymraeg. ⁠Mae rhai o'n cyrsiau'n cael eu haddysgu'n hollol ddwyieithog hefyd, ac mae bwrsariaeth Gymraeg ar gael i fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg.

“Mae myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai hefyd yn elwa ar addysgu rhagorol ein staff hynod brofiadol, ac am fod y niferoedd mewn dosbarthiadau'n llai gellir rhoi mwy o amser i gefnogi a chynghori unigolion. Mae'r myfyrwyr yn gallu astudio'n agos i'w cartrefi, a ffitio eu hastudiaethau o gwmpas ymrwymiadau gwaith a theulu.”

Meddai Angharad Roberts, Cyfarwyddwr Datblygu Dwyieithrwydd, Adnoddau Dysgu a Sgiliau: “Mae rhoi cyfleoedd i ddysgwyr astudio yn y Gymraeg yn faes blaenoriaeth allweddol i ni yn y Grŵp. Rydyn ni'n eithriadol o falch mai ni sydd â'r gyfran uchaf yng Nghymru o ddysgwyr sy'n astudio o leiaf un o'u credydau Addysg Uwch yn y Gymraeg.

“Ein gweledigaeth strategol yw dangos y ffordd i weddill Cymru o ran darparu addysg ddwyieithog. Mae hyn yn profi ein bod yn rhagori, nid yn unig yn ein cyrsiau Addysg Bellach, lle mai ni yw'r darparwr addysg uwch mwyaf, ond ar draws ein darpariaeth Addysg Uwch hefyd.

“Byddwn yn parhau i roi blaenoriaeth i'r gwaith yma ac i sicrhau ein bod yn cynllunio'n strategol i roi cynifer o gyfleoedd â phosib i bobl ifanc gwblhau eu hastudiaethau gyda ni trwy'r Gymraeg, pa bynnag gwrs maen nhw'n ei astudio.”

Mae cyrsiau lefel prifysgol Grŵp Llandrillo Menai'n cynnig y gefnogaeth, yr hyblygrwydd a'r amser cyswllt gyda thiwtor a fydd yn eich helpu chi i lwyddo. Mae llawer o'n cyrsiau'n arwain at gymwysterau Addysg Uwch galwedigaethol sydd wedi cael eu datblygu mewn ymgynghoriad â diwydiant er mwyn rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyflogwyr. Cewch wybod rhagor yma.

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date