Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Busnesau adeiladu yn helpu myfyrwyr CaMDA i adeiladu'u gwybodaeth am y diwydiant

Daeth Dafydd Jones, technolegydd pensaernïol o benseiri Russell Hughes, a Kevin Jones, briciwr a phlastrwr o Adeiladwyr D+S Jones, i ymweld â dysgwyr Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau

Rhoddodd technolegydd pensaernïol, a gweithiwr adeiladu, olwg amhrisiadwy ar y sector i fyfyrwyr pan ddaethon nhw i ymweld â Choleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau.

Siaradodd Dafydd Jones, technolegydd pensaernïol o benseiri Russell Hughes, a Kevin Jones, briciwr a phlastrwr o Adeiladwyr D&S Jones, â dysgwyr yng nghanolfan adeiladu a pheirianneg CaMDA ar gampws y Marian.

Cafwyd cyflwyniad gan Dafydd am y mathau o ddyluniadau sydd eu hangen er mwyn anfon ceisiadau cynllunio ymlaen i gynghorau sir, a sut mae’r dyluniadau hyn yn cael eu datblygu ymhellach yn dilyn cael caniatâd cynllunio er mwyn rhoi arweiniad i ddatblygwyr a gweithwyr adeiladu.

Mae Russell Hughes Ltd yn gweithredu yn Ynys Môn, Conwy a Gwynedd, a bu Dafydd hefyd yn trafod pwysigrwydd gallu defnyddio’r Gymraeg yn y siroedd hyn.

Siaradodd Kevin, cyn-fyfyriwr yng Ngholeg Menai, â dysgwyr am fod yn barod i weithio, gan roi awgrymiadau am yr hyn sy'n gwneud prentis da, ac ar ddisgwyliadau'r diwydiant.

Siaradodd hefyd am reoliadau adeiladu, gweithio i gwsmeriaid preifat/domestig, a'r gwahaniaethau rhwng hynny a gweithio ar gontractau mwy a chontractau cyhoeddus.

Tynnodd Kevin sylw at bwysigrwydd cystadlaethau sgiliau, ar ôl iddo gael llwyddiant wrth gystadlu'n ystod ei gyfnod ar gampws Coleg Menai yn Llangefni. Fel Dafydd, soniodd hefyd am fanteision gallu cyfathrebu’n ddwyieithog.

Dywedodd Iestyn Worth, darlithydd yn yr adran adeiladu: “Hoffwn ddiolch i Dafydd a Kevin am gyflwyniadau gwerthfawr i’n dysgwyr. Roedd eu cyflwyniadau yn ysbrydoledig ac yn gymhelliant cryf i’n dysgwyr, gan ddangos iddynt yr hyn allai fod o'u blaenau ar gyfer eu gyrfaoedd.

“Mae’n dda clywed bod y Gymraeg yn cael ei hystyried yn sgil hanfodol i gwmnïau sy’n gwasanaethu Gwynedd a Môn, ac mae hyn yn atgyfnerthu’r angen i’n dysgwyr ddefnyddio’r iaith yn eu hastudiaethau, fel sy’n cael ei hyrwyddo ar gampysau Grŵp Llandrillo Menai.”

Hoffech chi weithio yn y diwydiant adeiladu? Grŵp Llandrillo Menai sy'n cynnig yr amrywiaeth fwyaf o gyrsiau addysg bellach ac uwch yng Ngogledd Cymru, o Lefel 1 hyd at Raddau, gan gynnwys prentisiaethau. Dysgwch ragor yma

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date