Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Estyn yn Canmol Darpariaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Siroedd Conwy a Dinbych

Mewn adroddiad diweddar gan Estyn cafodd darpariaeth Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Siroedd Conwy a Dinbych ganmoliaeth uchel.

Mewn cydweithrediad ag Addysg Oedolion Cymru, ac o dan arweiniad Grŵp Llandrillo Menai, mae'r bartneriaeth yn darparu dewis eang o gyrsiau rhan-amser i oedolion mewn cymunedau ledled y ddwy sir. ⁠Roedd yr arolygiad, a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2024, yn tynnu sylw at arweinyddiaeth gref ac ymdrechion cydweithredol y bartneriaeth ynghyd â llwyddiannau'r dysgwyr.

Uchafbwynt arall a nodwyd yn yr adroddiad oedd ansawdd yr addysgu. Canmolwyd y tiwtoriaid am eu hamynedd, eu hyblygrwydd a'u defnydd o adnoddau o ansawdd uchel. Nododd yr adroddiad eu bod yn “rhoi esboniadau clir ac yn defnyddio adnoddau o ansawdd uchel i ennyn diddordeb eu dysgwyr yn llwyddiannus”. Enghraifft o arfer da y tynnwyd sylw ato oedd defnydd y bartneriaeth o dechnoleg ddigidol i wella gwersi.

Canmolodd Estyn hefyd gynnydd a datblygiad dysgwyr y bartneriaeth. Roeddent yn amlwg yn “awyddus i ddysgu a'r rhan fwyaf ohonynt yn caffael gwybodaeth newydd ac yn
datblygu eu medrau’n dda”. Nododd yr arolygwyr bod y dysgwyr, yn enwedig y rhai oedd yn dilyn cyrsiau fel rhai ESOL ac Iaith Arwyddion Prydain yn cymhwyso'r hyn roeddent yn ei ddysgu i'r byd go iawn, gan fagu hyder a gwella eu cyflogadwyedd.

Â'r adroddiad ymlaen i ddweud bod y dysgwyr wedi dangos sgiliau gwerthfawr, gan gynnwys y gallu i reoli amser, gweithio'n annibynnol a chydweithio'n effeithiol. Mae cyrsiau sy'n canolbwyntio ar les wedi cael effaith gadarnhaol ar y dysgwyr, gyda llawer wedi crybwyll bod ganddynt fwy o hyder, gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a’u bod yn fwy parod i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol.

Yn yr adroddiad, caiff arweinyddiaeth y bartneriaeth ei disgrifio fel un gynhwysol a chefnogol, gyda chydweithio cryf yn digwydd rhwng Grŵp Llandrillo Menai ac Addysg Oedolion Cymru. Ychwanega'r adroddiad bod “y defnydd effeithiol o gytundebau lefel gwasanaeth wedi sicrhau bod y cwricwlwm yn cynnig arlwy eang a chydlynol ar draws y ddwy sir”.

Esboniodd Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo,

“Rydym yn hynod falch o’r cynnydd y mae ein dysgwyr wedi’i wneud a chyfraniad ein staff ymroddedig wrth wneud hyn yn bosibl. Mae llwyddiant y bartneriaeth yn dysteb i waith caled ein timau a'r cydweithio sy'n digwydd rhyngddyn nhw a Dysgu Oedolion Cymru.

“Mae’r adroddiad yn cadarnhau ymroddiad Grŵp Llandrillo Menai a’r Bartneriaeth i gefnogi oedolion sy'n ddysgwyr, gan eu helpu i wireddu eu potensial a gwella eu sgiliau trwy ddysgu yn eu cymunedau.”

Meddai Mark Baines, Pennaeth Cwricwlwm a Pherfformiad yn Addysg Oedolion Cymru,

“Mae’r adroddiad yn dangos sut y gall partneriaeth effeithiol wneud gwahaniaeth mawr i ddysgwyr siroedd Conwy a Dinbych. Mae gwaith caled ac ymdrechion y partneriaid yn parhau i gael effaith gadarnhaol ar y gymuned ac yn arwain at fanteision pellach.”

Mae Adroddiad Arolygu llawn Estyn ar Bartneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Siroedd Conwy a Dinbych i'w weld yma.

Pagination