Agor Canolfan Dysgu Cymunedol ar Stryd Fawr Bangor
Yr wythnos diwethaf (dydd Iau 13 Mawrth) agorodd Ken Skates AS, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ganolfan Dysgu Cymunedol newydd sbon ar Stryd Fawr Bangor.
Mae Tŷ Cyfle yn darparu cyrsiau rhan-amser a chyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim i drigolion Bangor a'r cyffiniau. Cynigir cyrsiau cyflogadwyedd, cyfrifiadura a thechnoleg ddigidol, gwnïo, ffotograffiaeth ddigidol ac ESOL am ddim i unrhyw un sydd dros 18 oed.
Gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd trwy'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy a'r rhaglen Trawsnewid Trefi, mae Grŵp Llandrillo Menai wedi adnewyddu adeilad yr hen Topshop yng nghanol y ddinas er mwyn creu canolfan fywiog a llewyrchus y gall trigolion Bangor a'r cyffiniau gael budd ohoni.
Mae Tŷ Cyfle'n cynnig amgylchedd dysgu delfrydol a cheir yno bedair ystafell ddosbarth bwrpasol ac ystafelloedd cyfarfod. Bydd staff profiadol y safle yn annog myfyrwyr i ffynnu a'r holl fwriad yw creu naws cefnogol a chyfeillgar. Y bwriad yw apelio'n benodol at y sawl a all fod yn gyndyn o fynychu cyrsiau ar brif gampysau'r coleg.
Yn ogystal â chynnig cyfleoedd addysgol, Tŷ Cyfle yw cartref newydd Clinig Cyngor Meddygol newydd Prifysgol Bangor lle gall y cyhoedd gael cefnogaeth gyfreithiol gyfrinachol yn rhad ac am ddim. Myfyrwyr y gyfraith ym Mhrifysgol Bangor fydd yn darparu'r gwasanaeth a hynny dan oruchwyliaeth cyfreithwyr cymwysedig ac uwch ddarlithwyr profiadol. Mae'r clinig yn gyfle i'r myfyrwyr gael profiad ymarferol wrth helpu trigolion lleol i ymdrin â heriau cyfreithiol. Mae'r clinig yn agored yn ystod tymor y coleg ac yn cynnig gwasanaethau yn y Gymraeg a'r Saesneg.
"Rydyn ni'n deall bod dychwelyd i addysg neu waith yn gallu bod yn frawychus," meddai Siôn Peters-Flynn, Pennaeth Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor.
"Ein bwriad yw cynnig lleoliad cefnogol sy'n helpu dysgwyr i fagu hyder a meithrin y sgiliau a fydd yn eu hannog i gymryd cam ymlaen ar eu taith bersonol a phroffesiynol."
"P'un ai a ydych chi am ddatblygu eich sgiliau cyflogadwyedd neu sgiliau iaith, rhoi cynnig ar bynciau creadigol fel ffotograffiaeth neu wnïo, neu wella eich llythrennedd digidol, mae'r cyrsiau hyn wedi'u llunio i ddiwallu anghenion dysgwyr o bob cefnir ac sydd wedi cael pob math o brofiadau gwahanol."
Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru,
“Mae'n wych gweld y ganolfan hon, a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru, yn agor ar y stryd fawr yng nghanol dinas Bangor. Nid yn unig mae hi'n defnyddio hen siop mewn ffordd greadigol ond mae hi hefyd yn darparu gwasanaethau pwysig i helpu pobl i ddysgu sgiliau newydd. Bydd y cyngor cyfreithiol a ddarperir gan fyfyrwyr y Gyfraith Prifysgol Bangor yn werthfawr iawn i'r gymuned.”
Dywedodd R Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd,
“Mae cefnogi prosiectau sy'n cyfrannu at adfywio canol trefi yn flaenoriaeth bwysig i Gyngor Gwynedd, a Bangor yw'r canolbwynt rhanbarthol. Mae cynlluniau fel Tŷ Cyfle yn rhoi hwb i'r Stryd Fawr, ac yn trawsnewid siop wag yn ganolfan ddysgu fywiog.
“Trwy fuddsoddi mewn cynlluniau fel hyn, nid yn unig rydyn ni'n helpu unigolion i ddatblygu sgiliau gwerthfawr ond hefyd yn cryfhau'r economi leol, yn creu cyfleoedd gwaith newydd, ac yn sicrhau bod Bangor yn ffynnu fel canolfan bwysig yn yr ardal.”
Ychwanegodd Tracey Horton, Cyfreithiwr a Chyfarwyddwr y Clinig ym Mhrifysgol Bangor,
"Mae Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor yn gyfle gwych i'r myfyrwyr a'r gymuned. Mae'n galluogi’r myfyrwyr i gael profiad ymarferol wrth roi cefnogaeth gyfreithiol werthfawr i'r rhai sydd mewn angen."
Mae dosbarthiadau eisoes yn cael eu cynnal yn Tŷ Cyfle. Ewch i gllm.ac.uk/cy/potensial i weld beth sy'n cael ei gynnig.