Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Alex yn helpu Tîm GB i ennill pencampwriaethau pêl-fasged cadair olwyn Ewrop

Fe wnaeth un o gyn-enillwyr gwobr Myfyriwr y Flwyddyn yng Ngholeg Llandrillo helpu Prydain i ennill pob gêm yn y twrnamaint ym Madrid

Helpodd y cyn-fyfyriwr o Goleg Llandrillo, Alex Marshall-Wilson, dîm Prydain i ennill pencampwriaethau pêl-fasged cadair olwyn dan 23 Ewrop.

Roedd y chwaraewr 20 oed o Ddeganwy yn rhan o bob gêm wrth i Dîm GB ennill y gystadleuaeth gyda record 100% a churo'r Almaen yn y rownd derfynol.

Dilynodd Alex y cwrs Lefel 3 mewn Chwaraeon ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos a dyma oedd ganddo i'w ddweud ar Instagram: “Mae hi wedi bod yn wythnos a hanner. Roedd peidio â chael ein curo trwy'r holl dwrnamaint yn dangos faint o waith wnaethon ni fel grŵp i baratoi at y pencampwriaethau.

“Rydan ni hefyd wedi mynd trwodd i Bencampwriaethau Dan 23 y Byd y flwyddyn nesaf ond dydyn ni ddim yn gwybod eto ble fyddan nhw'n cael eu cynnal.

“Rydw i mor falch o bawb yn y tîm, ac yn diolch yn arbennig i’r staff hyfforddi Joe Bestwick, Ade Oregbemi, Mark Stevenson a Nathan Payne am bopeth ar y cwrt ac oddi arno.

“Gawn ni ychydig o amser i orffwys rŵan cyn dechrau paratoi at y tymor nesaf!”

Curodd Tîm GB Wlad Pwyl, yr Almaen, Sbaen, Twrci, Israel a'r Eidal wrth fynd trwy'r grwpiau. Yna fe enillon nhw o 68 i 46 yn erbyn yr Eidal yn y gêm gynderfynol, cyn curo'r Almaen o 60 i 40 i ennill y bencampwriaeth.

Yn ddiweddar, dychwelodd Alex i gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos gyda Mark Richards, swyddog chwaraeon anabledd Ffit Conwy, i gynnal sesiwn ymarferol i ddysgwyr sy'n dilyn y cyrsiau Chwaraeon (Perfformio a Rhagoriaeth) a Chwaraeon (Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff).

Tra ar gampws Rhos, siaradodd Alex am ei amser yng Ngholeg Llandrillo, gan ddweud: “Roedd yn hollol anhygoel – roedd pawb mor gynhwysol o diwtoriaid i gyd-ddisgyblion.

“Roeddwn i’n dod o’r ysgol lle doeddwn i ddim wedi fy nghynnwys mewn llawer o bethau. Roedd y meddylfryd yn hollol wahanol yma gyda thiwtoriaid yn meddwl "sut allwn ni ei gael i wneud hyn"

“Roedd fy nghyd-ddisgyblion mor agored a gonest am bethau. Roedden nhw eisiau gofyn cwestiynau ac fe wnes i gael ychydig o bobl i gymryd rhan yn y gamp - roedd rhai ohonyn nhw’n gwirfoddoli.”

Enillodd Alex y categori Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngwobrau Cyflawnwr AB y Flwyddyn Coleg Llandrillo yn 2022, ac yn y seremoni fe’i henwyd yn Brif Enillydd y coleg.

Dywedodd: “Doeddwn i ddim yn gallu credu fy mod i wedi cael fy enwebu ar gyfer yr un Chwaraeon, ac wedyn roedd mynd ymlaen i dderbyn gwobr y Prif Enillydd yn rhywbeth nad oeddwn wedi ei ddisgwyl o gwbl.”

Mae Alex bellach yn astudio Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Loughborough.

Mae Alex yn flaenwr i'r Sheffield Steelers a'i nod yn y pen draw yw cynrychioli Prydain yng Ngemau Paralympaidd 2028 yn Los Angeles.

Diddordeb mewn astudio Chwaraeon yng Ngrŵp Llandrillo Menai? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau.